Brwydr 10 mlynedd seren Traitors i gael diagnosis am gyflwr cronig

Elen WynFfynhonnell y llun, BBC / Listen Entertainment Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen yn defnyddio TikTok i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes a fu'n rhan o gyfres The Traitors yn dweud ei bod wedi cymryd degawd i gael diagnosis am gyflwr oedd yn "faich meddyliol" arni yn ei harddegau.

Dywedodd Elen Wyn, sydd bellach yn 24 oed, fod angen lleihau'r rhestrau aros ar gyfer cael triniaeth endometriosis.

Er iddi gael cadarnhad o'r diagnosis y llynedd, mae'n dal yn wynebu blynyddoedd o aros cyn iddi gael triniaeth i leddfu symptomau.

Mae endometriosis yn gyflwr cronig nad oes modd gwella ohono ac sy'n effeithio ar 10% o fenywod o oedran atgenhedlu yn y DU.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd £3m yn cael ei wario i sefydlu Canolfan Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026.

Cyngor 'bisâr' gan y doctor

Dywedodd Elen, sy'n wreiddiol o Lanfair-yng-Nghornwy ar Ynys Môn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, ei bod wedi cael poenau difrifol yn ystod ei mislif ers yn 14 oed.

"Dwi'n cofio meddwl i fy hun, dydi'r symptomau dwi'n profi ddim yn normal - ddim fath â hyn dylsa period arferol deimlo," meddai wrth Cymru Fyw.

Dywedodd iddi weld meddyg teulu ac mai'r cyngor a gafodd oedd mynd ar y bilsen - ateb "bisâr" yn ôl Elen, ag hithau ond yn 14 oed.

"Doedd o ddim yn teimlo fel datrysiad iawn," meddai.

Elen WynFfynhonnell y llun, BBC/PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen Wyn, a fu'n rhan o gyfres The Traitors, wedi cael poenau difrifol yn ystod ei mislif ers yn 14 oed

Roedd y cyflwr wedi effeithio tipyn ar ei bywyd pan yn iau, meddai: "Ro'n i'n colli ysgol, dwi'n cofio colli gwersi addysg gorfforol a theimlo mor wael.

"'Naeth o effeithio arna i yn feddyliol, roedd o'n faich meddyliol arna i.

"Roedd pob hogan yn cael period dim jyst fi, ond jyst fi oedd yn colli ysgol, jyst fi oedd yn ffonio i mewn yn sâl.

"O'n i'n teimlo mor ddramatig, o'n i'n casáu fy hun am y peth," meddai.

'Methu gadael y tŷ'

Wedi blynyddoedd o barhau i fyw â'r boen yn fisol, dywedodd iddi ail ymweld â'r meddyg teulu pan symudodd i fyw yng Nghaerdydd.

"Ro'n i wedi cyrraedd y pwynt lle do'n i methu cerdded ambell gyfnod o'r mis. Oedd o mor boenus, ro'n i'n methu gadael y tŷ, ro'n i'n methu gadael fy ngwely," meddai.

Er mai ymateb tebyg a gafodd gan y meddyg - cymryd y bilsen, a'i bod yn "rhy sensitif" - fe benderfynodd ymchwilio i'r pwnc pan ddaeth ar draws TikTok oedd yn trafod endometriosis, "a dwi'n cofio meddwl i fy hun, mae'n bosib fod gen i'r cyflwr 'ma".

Fe benderfynodd Elen wedyn weld meddyg teulu benywaidd a "dyma hi'n dallt, a deud fod o'n bosib fod gen i'r cyflwr".

Adeg hyn y llynedd cafodd gyfres o brofion, sgan MRI ac uwchsain (ultrasound) cyn cael triniaeth a wnaeth ddarganfod fod ganddi endometriosis cam pedwar.

Mae ei symptomau erbyn hyn wedi gwasgaru i'w ofarïau, tiwbiau ffalopaidd, y coluddyn a'r bledren.

Bu Elen am ddegawd felly heb atebion i'w phoenau, cyfnod "rhwystredig iawn" iddi.

"Ges i ddim cymorth o gwbl, yr unig ffordd dwi 'di cyrraedd y pwynt dwi ynddo ydy drwy'r gwaith ymchwil dwi wedi 'neud fy hun a drwy sgwrsio efo'r genod erill sydd efo'r un profiad â fi," meddai.

Mae Elen wedi penderfynu defnyddio'r platfform sydd ganddi ar TikTok i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

Er i endometriosis gael ei ganfod yn ei chorff fis Chwefror y llynedd ac i Elen gael gwybod ei bod ar restr aros i weld arbenigwr yn y maes, cafodd wybod yn ddiweddar nad oedd y meddyg wedi ei rhoi ar y rhestr ac felly bu'n rhaid iddi ailgychwyn y broses.

Mae'n broses hir, er ei bod yn gobeithio gweld yr arbenigwr y flwyddyn nesaf, "bydd dal rhaid i mi aros pedair blynedd neu fwy i gael y driniaeth ei hun, mae'n ridiculous," meddai.

"Dwi angen i genod sydd yn eu harddegau sy'n mynd drwy glasoed ac yn cael periods nhw am y tro cyntaf a wir yn dioddef, i beidio gadael i ddoctor i ddweud wrthyn nhw sut ma' teimlo'n normal, dyna pam 'mod i'n postio TikToks."

Mae Elen bellach wedi dysgu delio â'r cyflwr gan wneud newidiadau i'w ffordd o fyw - mae hynny'n cynnwys lleihau faint o alcohol mae'n yfed a bod yn ofalus o'r hyn mae'n ei fwyta.

Mae'n credu bod yn rhaid i feddygon teulu gael mwy o wybodaeth am y cyflwr.

Dywedodd hefyd bod angen i'r llywodraeth roi mwy o arian i'r gwasanaeth iechyd er mwyn lleihau'r rhestrau aros.

"Dim ond un arbenigwr endometriosis sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac mae o ar fin ymddeol," meddai.

"'Di o ddim yn iawn fod cymaint o'n ni yn yr un cwch. Mae'n fy synnu i fod dim mwy o gamau yn cael eu cymryd," ychwanegodd.

'Un o wyth blaenoriaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae endometriosis yn un o wyth blaenoriaeth yn ein Cynllun Iechyd Menywod i Gymru, dolen allanol, sy'n nodi camau gweithredu allweddol a fydd yn arwain at welliannau.

"Rydym eisoes wedi ariannu nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd, wedi datblygu gwefan Endometriosis Cymru ac wedi darparu £50m o gyllid ychwanegol i helpu i dorri'r amseroedd aros hiraf, sy'n cynnwys cyflyrau gynaecolegol.

"Bydd cyllid o £3m hefyd yn cael ei ddefnyddio i sefydlu Canolfan Iechyd Menywod ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Mawrth 2026, i gefnogi diagnosis amserol a rheoli cyflyrau mislif gan gynnwys endometriosis."

Pynciau cysylltiedig