Talent newydd ar Y Llais yn 'sioc enfawr'
![Yws Gwynedd ar set Y Llais](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1056/cpsprodpb/35de/live/61fee2a0-e7ac-11ef-970b-4fabac9c7c73.png)
Mae Ywain Gwynedd yn un o'r beirniaid ar gyfres newydd Y Llais ar S4C
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres newydd ar S4C - fydd yn gyfarwydd i wylwyr The Voice - yn gobeithio dod o hyd i gantorion newydd sy'n canu'n Gymraeg.
Yn eistedd yn y seddi eiconig coch ar Y Llais mae'r hyfforddwyr Ywain Gwynedd, Aleighcia Scott, Bryn Terfel, a Bronwen Lewis.
Ac yn ôl y canwr Ywain Gwynedd, roedd dod o hyd i "dalent anhygoel newydd" yn y clyweliadau yn "sioc enfawr".
Ar raglen Bore Sul gyda Elliw Gwawr, dywedodd ei fod wedi "disgwyl nabod pawb oedd yn trio, ma Cymru'n lle bach, ond [oedd o'n] sioc enfawr fod gymaint o dalent yna sydd erioed wedi trio yn y Steddfod neu bod ar Noson Lawen".
![Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, a Bryn Terfel, sef hyfforddwyr Y Llais, ar y set](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/acaa/live/b731d720-e561-11ef-a819-277e390a7a08.png)
Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, a Syr Bryn Terfel ar set Y Llais
Yn ogystal â bod yn brif leisydd ym mand Yws Gwynedd, mae Ywain hefyd yn rhedeg label Recordiau Côsh.
Ond dywedodd ei fod wedi gwrthod y cynnig i fod yn un o hyfforddwr Y Llais yn wreiddiol, cyn cael ei argyhoeddi am bwysigrwydd ac uchelgais y rhaglen.
"Os ma' rywun yn gofyn i fi 'neud rhywbeth, dwi wastad yn meddwl os dwi'n mynd i'w fwynhau neu beidio... nes i sylweddoli bod o'n union beth dwi'n 'neud am waith, [sef] chwilio am dalent a helpu nhw yn eu gyrfa i ryddhau cerddoriaeth Cymraeg," meddai.
![Band 'Yws Gwynedd' ar lwyfan o flaen dorf fawr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1600/cpsprodpb/d37a/live/49bd0ea0-e7ad-11ef-970b-4fabac9c7c73.jpg)
Mae'r band Yws Gwynedd wedi bod yn chwarae efo'i gilydd ers 2014 - (o'r chwith) Emyr Prys Davies, Ywain Gwynedd, Ifan Sion Davies, a Rich Roberts
Wrth drafod ffilmio'r rhaglen fe ddatgelodd mai "curo Bryn Terfel" oedd ei nod wreiddiol, ond fod y ddau wedi dod yn ffrindiau ar hyd y ffordd.
"[Oeddwn ni] dal isio curo ein gilydd, ond mewn ffordd 'sut 'wan 'da ni'n gallu bod yn yr hyfforddwyr gorau sy'n mynd i gael y gorau allan o'r bobl sydd yn cystadlu ar y rhaglen?' Dyna be' da ni'n cystadlu drosto, mae'r lleisiau da ni wedi eu darganfod yn anhygoel."
Aeth ymlaen i sôn am y brofiad annisgwyl o fod yn "rili, rili nerfus" fel hyfforddwr.
"Ma' 'na rhywbeth am pan ti'n clywed y traed yn dod tu ôl i'r gadair, a ti bron yn clywed eu calon nhw'n curo," meddai.
"Yn y stiwdio, ma' pawb yn hollol ddistaw – mae'n well na'r Eisteddfod, ti'n gorfod dweud wrth bobl Eisteddfod i fod yn ddistaw!"
![Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, a Bryn Terfel, sef hyfforddwyr Y Llais, ar y set](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/0bd7/live/b323a940-e55e-11ef-a319-fb4e7360c4ec.png)
Mae Yws Gwynedd a Bryn Terfel wedi dod yn ffrindiau wrth gymryd rhan yn Y Llais
Felly beth yw barn y canwr a rheolwr label - sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn annibynnol ers dyddiau cynharaf ei yrfa - ar raglenni talent o'r math yma?
"Be' ydy'r Llais a rhaglenni tebyg ydy platfform i ddangos dy dalent, ac os oes gen ti'r agwedd gywir wedyn mae'r byd yna i chdi gymryd mewn ffordd," meddai Ywain.
"Ma' fynny iddyn nhw be' bynnag ma' nhw'n gael allan o'r rhaglen, boed o'n blatfform neu'n gyfle i ganu'n gyhoeddus am y tro cyntaf, neu yn gyfle i ganu'n Gymraeg am y tro cyntaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2024