Llandudno: Geifr yn crwydro er gwaethaf cynllun rheoli
- Cyhoeddwyd
Mae geifr wedi cael eu gweld yn crwydro o gwmpas canol tref Llandudno unwaith eto, a hynny ar ôl i'r cyngor lleol gyhoeddi cynlluniau i gael gwared arnyn nhw.
Ers iddynt gychwyn mentro i ganol y dref yn ystod y pandemig, mae geifr y Gogarth wedi bod yn olygfa gyson yn y dref.
Ym mis Ebrill bu’r cyngor lleol yn trafod sut i reoli’r geifr, ar ôl iddynt achosi difrod i eiddo.
Ar y pryd, dywedodd y cyngor eu bod yn "edrych ar strategaethau adleoli" ar sail cadwraeth.
Ond mae un perchennog siop wedi croesawu ymweliad diweddaraf y geifr, gan labelu’r anifeiliaid fel "rhan o gymeriad Llandudno".
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
“Dwi’n licio’r geifr, ond dwi yn teimlo’n ddrwg pan maen nhw’n cnoi planhigion pobl,” meddai Mark Richards, 50, sy'n rhedeg siop ddodrefn yn y dref.
Dywedodd Mr Richards fod y geifr o gwmpas “drwy’r amser” yn ystod cyfnodau clo, ond yn ddiweddar ei fod “prin yn gweld nhw”.
"Yn amlwg maen nhw'n dipyn o niwsans yn cnoi gwrychoedd a phlanhigion pobl. Mae rhywun yn gallu deall pam bod rhai yn erbyn nhw," ychwanegodd.
"Ond maen nhw'n rhan o'r dref, a dwi'n meddwl bod 'na fwy o bobl y neu hoffi nhw nag sydd ddim.
"Yn sicr fyddwn i ddim isio gweld nhw’n cael eu hadleoli."
Dywedodd Dylan Taylor, 23, sy'n rhedeg siop grefftau gerllaw, fod ei gwsmeriaid wrth eu bodd yn gweld y geifr yn crwydro'r dref.
"Mae'n eithaf doniol iddyn nhw yn gweld geifr yn crwydro o gwmpas y dre’, achos dydy o ddim yn rhywbeth welwch chi mewn unrhyw le arall yn y wlad," meddai.
“Mae’r cwsmeriaid i weld yn hoffi’r geifr, maen nhw'n cael lluniau gyda nhw… rhan o ddiwylliant y dref ydi o erbyn hyn."
Dywedodd Paul Luckock, cynghorydd annibynnol ar Gyngor Conwy, mai cyfrifoldeb perchnogion y tai yw amddiffyn eu cartrefi rhag unrhyw ddifrod, ond cododd bryderon am bobl fregus fydd yn methu gwneud hynny.
"Mi fydd pobl yn adeiladu'r ffensys neu'r giatiau sydd angen i gadw'r geifr allan, ond i rai - fel arfer oherwydd achos o’u hoedran, cyflwr iechyd, neu anableddau - dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny," meddai.
"Mae'r cyngor yn ceisio rheoli'r sefyllfa y gorau y gallan nhw, ond mae rhai o'r materion yma allan o'u dwylo."
Dywedodd Cyngor Conwy mai nod y cynllun rheoli geifr yw "sicrhau bod y praidd yn goroesi yn y dyfodol, a sicrhau fod y praidd yn gallu byw ochr yn ochr â'r gymuned leol”.