Llywydd y Gymdeithas Bêl-droed yn ymddiswyddo o'i rôl

Steve WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steve Williams yn rhan o broses diswyddo Rob Page fel rheolwr

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) Steve Williams wedi ymddiswyddo o'r rôl gan adael yn syth.

Fe gafodd Mr Williams, 60, ei atal o'i waith ym mis Gorffennaf tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Ond mae nawr wedi camu'n ôl cyn i wrandawiad annibynnol gael ei gynnal.

Doedd corff llywodraethu pêl-droed Cymru heb ddatgelu'r rheswm dros ei waharddiad.

Bydd Mr Williams hefyd yn cefnu ar ei ddyletswyddau eraill gyda CBDC a ni fydd yn aelod mwyach o unrhyw un o'i fyrddau.

Ni fydd ychwaith yn gallu sefyll ar gyfer unrhyw rôl gyda CBDC yn y dyfodol.

Cafodd Mr Williams ei ethol yn llywydd CBDC yn 2021 ac roedd blwyddyn eto i fynd cyn diwedd ei gyfnod yn y rôl.

Cyn hynny roedd wedi gweithio i'r cyngor am dros 20 mlynedd a bu hefyd yn is-lywydd.

Fel llywydd, Mr Williams oedd yn goruchwylio pêl-droed Cymru ar bob lefel, a bu’n rhan o broses diswyddo Rob Page fel rheolwr tîm cenedlaethol dynion Cymru ym mis Mehefin.

Mewn datganiad, dywedodd CBDC bod Mr Williams "wedi penderfynu ymddiswyddo o'i holl rolau" gyda'r gymdeithas "yn dilyn rhagor o drafodaethau" rhwng pawb ynghlwm â'r sefyllfa.

"Mae CBDC yn cydnabod gwaith caled a chefnogaeth Mr Stephen Williams fel cefnogwr pêl-droed a llywydd pêl-droed Cymru a'i ddatblygiad, ar lefel ddomestig ac ar y llwyfan rhyngwladol dros y 37 mlynedd diwethaf."