Llywydd CBDC Steve Williams wedi'i atal o'i swydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi atal y llywydd, Steve Williams, o'i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Y gred ydy bod cyngor CBDC wedi cael gwybod am y penderfyniad wythnos ddiwethaf ac nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer gwrandawiad Williams.
Nid yw corff llywodraethu pêl-droed Cymru wedi dweud pam ei fod wedi'i atal.
Cafodd Williams ei ethol yn llywydd CBDC yn 2021 ac mae ei dymor yn y swydd yn para am flwyddyn arall.
Cyn cael ei benodi, roedd wedi gweithio i'r cyngor am fwy na dau ddegawd ac wedi bod yn is-lywydd.
Williams sy’n goruchwylio pêl-droed Cymru ar bob lefel, a bu’n rhan o broses diswyddo Rob Page fel rheolwr tîm cenedlaethol dynion Cymru fis diwethaf.
Dywedodd Williams: "Ni allaf wneud sylw. Mater i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yw hynny."
Er nad yw CBDC wedi rhoi sylw, mae wedi cydnabod bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd22 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mehefin