Prifysgol De Cymru i dorri hyd at 20 o swyddi trwy broses diswyddo gorfodol

- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn y broses o ddiswyddo gweithwyr yn orfodol.
Yn ôl undebau, dyma'r tro cyntaf i brifysgol Gymreig dorri nifer staff drwy broses diswyddo gorfodol eleni.
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru y bydd "angen llai nag 20 [diswyddiad gorfodol ymhlith staff academaidd] yn y rhan hwn o'r adolygiad" a'u bod wedi "gweithio'n galed i leihau diswyddiadau gorfodol".
Cadarnhaodd y brifysgol bod 14 o staff gwasanaethau proffesiynol wedi cael eu diswyddo drwy broses ddiswyddo gorfodol yn gynharach eleni. Mae hynny yn ychwanegol i'r staff academaidd.
'Diwylliant gwenwynig' yn sgil cynllun i dorri swyddi Prifysgol Caerdydd
- Cyhoeddwyd9 Mawrth
Prifysgol De Cymru i dorri 90 swydd a chau rhai cyrsiau
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Dyfodol 160 o swyddi Prifysgol De Cymru yn ansicr
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
Mae wedi bod yn gyfnod anodd i'r sector addysg uwch yng Nghymru a thrwy'r Deyrnas Unedig, gyda sawl prifysgol yn dweud eu bod yn wynebu caledi ariannol.
Bu protestiadau ym mhrifysgol Caerdydd, Bangor a Met Caerdydd yn gwrthwynebu torri swyddi, ac mae cannoedd o weithwyr eisoes wedi gadael eu swyddi mewn prifysgolion drwy gynlluniau gwirfoddol.
Yn ôl arweinwyr prifysgolion, costau cynyddol, lleihad mewn nifer myfyrwyr tramor a chynnydd cymharol fach mewn ffioedd myfyrwyr sydd wedi creu'r caledi diweddar.

Ddechrau wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog dros addysg bellach ac addysg uwch, Vikki Howells, y byddai'r cap ar ffioedd myfyrwyr yn codi unwaith eto, yn unol â Lloegr, yn 2026-27.
Dyma fydd y trydydd cynnydd mewn tair blynedd wedi i ffioedd gael eu rhewi ar £9000 am sawl blwyddyn.
Cadarnhaodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau allai waredu "o leiaf" 20 o swyddi "wrth greu neu addasu swyddi eraill" ymysg staff gwasanaethau proffesiynol.
Mynnu mae'r brifysgol nad oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi eu cynllunio fel rhan o'r broses, ond mae undebau llafur yn rhybuddio i dros 1,100 gael gwybod y gallen nhw gael eu heffeithio.
Mae ffenest ar gyfer diswyddo gwirfoddol hefyd wedi cael ei hailagor yno.
Mae diswyddiadau gorfodol yn bosibl o hyd mewn prifysgolion eraill.
'Heriau ariannol difrifol'
Dywedodd undeb yr UCU wythnos ddiwethaf iddyn nhw gynnal pleidlais ymgynghorol ymysg staff Prifysgol Caerdydd ym mis Medi, ac i 87% o'r rheiny a bleidleisiodd ddweud y bydden nhw'n cefnogi streicio.
Dywedon nhw mewn datganiad y bydden nhw yn "gwrthwynebu diswyddiadau gorfodol o Ionawr 2026 i'r 187 o weithwyr sydd yn dal i fod mewn perygl" ac y byddan nhw yn "symud tuag at bleidlais ar weithredu diwydiannol o 17 Tachwedd".
Wrth gadarnhau eu bod yn rhagweld torri "llai nag 20" o swyddi drwy ddiswyddo gorfodol, dywedodd Prifysgol De Cymru: "Fel nifer o sefydliadau ar draws y sector, rydyn ni'n ymateb i heriau ariannol difrifol.
"Mae ein rhaglen drawsnewid drylwyr wedi ei dylunio er mwyn esblygu ein ffordd o weithio a sicrhau cynaliadwyedd hir dymor.
"Fel rhan o hyn rydyn ni wedi adolygu'r effaith ar ein gweithlu ar gyfer darpariaeth academaidd. Rydyn ni'n ddiolchgar i'n cydweithwyr ac i'r undebau llafur am eu hymrwymiad cadarnhaol drwy'r broses yma sydd yn parhau."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.