'Diwylliant gwenwynig' yn sgil cynllun i dorri swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd

Leighton Andrews
  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun Prifysgol Caerdydd i dorri 400 o swyddi wedi arwain at "ddiwylliant gwenwynig", yn ôl cyn-weinidog addysg Cymru.

Dywedodd Leighton Andrews, sy'n athro yn Ysgol Fusnes Caerdydd, bod "y syniad o siarad yn agored wedi creu teimlad o ofn yn y brifysgol" a bod hynny wedi effeithio'n fawr ar foral staff.

Ym mis Ionawr cyhoeddodd y brifysgol eu cynllun i ddod â swyddi i ben a rhoi'r gorau i ddysgu pynciau gan gynnwys cerddoriaeth a nyrsio er mwyn mynd i'r afael â bwlch o £31m yn y gyllideb.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael cais i ymateb i sylwadau'r Athro Andrews.

Mewn datganiad blaenorol, maen nhw'n pwysleisio mai cynllun ydi'r toriadau ac nad oes unrhywbeth wedi ei gadarnhau hyd yma.

Wrth gael ei holi ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, dywedodd Leighton Andrews: "Yn syml iawn, maen nhw wedi difethu'r ymddiriedaeth a'r ewyllys da o fewn y brifysgol.

"A dyma'r bobl rydych chi eu hangen - yr academyddion sy'n rhoi hwb i ddyfodol y brifysgol, sy'n gwneud ymchwil hanfodol sy'n torri tir newydd.

"Ond ar hyn o bryd, yr hyn mae pawb yn canolbwyntio arno yw eu swyddi.

"Dwi'n meddwl fod pethe'n teimlo'n wenwynig iawn", ychwanegodd Mr Andrews.

Roedd Leighton Andrews eisioes wedi sôn am ei ddicter wrth i'w swydd yn darlithio ym Mhrifysgol Caerdydd ddod dan fygythiad.

Arwydd Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau o Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn pleidleisio dros y posibilrwydd o fynd ar streic

Mae'r brifysgol ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y cynlluniau i dorri 7% o'u staff academaidd a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Mehefin.

Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys cau rhai pynciau ac adrannau yn llwyr, ac uno adrannau eraill - gan gynnwys busnes, cerddoriaeth, nyrsio, ac ieithoedd modern a chyfieithu.

Yn y cyfamser, mae aelodau o Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) yn pleidleisio dros y posibilrwydd o fynd ar streic i wrthwynebu'r diswyddiadau gorfodol posib.

Mae aelodau eisioes wedi protestio yn erbyn y cynlluniau.

Yn ôl Leighton Andrews, mae wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.

Mae Mr Andrews yn awgrymu y dylai'r brifysgol ddefnyddio ychydig o'i harian wrth gefn a buddsoddiadau er mwyn atal rhai o'r toriadau posib.

"Fe allai gwneud hynny warchod dyfodol y brifysgol," dywedodd yr Athro Andrews, oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2013.

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Bangor yn rhagweld y bydd "tua 200 o swyddi" yn cael eu torri wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £15m

Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Prifysgol Bangor gynllun i gael gwared â 200 o swyddi wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £15m.

Yn yr un diwrnod, cadarnhaodd Prifysgol De Cymru eu bod nhw'n trafod cynnig i dorri 90 o swyddi a'u bod wedi "gwneud y penderfyniad anodd i gael gwared ar rai pynciau" wedi i gyrsiau y myfyrwyr presennol ddod i ben.

Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells wedi bod yn glir y dylid diwygio'r sector addysg uwch.

"Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda deddfwriaeth newydd yn ei le a chreu [corff newydd] Medr.

"Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi £18.5m ar gyfer prifysgolion i'w helpu i leihau costau gweithredu.

"Rydym yn deall y pryderon ynghylch y sector addysg uwch a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar staff a dysgwyr yn y sefydliadau yma."

Mae Vikki Howells wedi annog prifysgolion i "ystyried pob opsiwn" er mwyn sicrhau na fydd pobl yn colli eu swyddi.