Sioc staff elusen ar ôl i nifer o gŵn gael eu canfod yn crwydro strydoedd

Roedd pob un o'r cŵn "wedi eu hysgwyd," meddai Hope Rescue
- Cyhoeddwyd
Mae elusen anifeiliaid yn apelio am wybodaeth ar ôl i nifer o gŵn gael eu darganfod yn rhedeg yn wyllt ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Hope Rescue fod 10 o gŵn labrador a chŵn retrievers wedi eu gweld yn crwydro strydoedd yng Nghefn Cribwr a Bryntirion.
Mae'r elusen hefyd yn amau fod 15 o gŵn a gafodd eu gadael yng Nglyn-nedd a thri arall a gafodd eu hachub yn Abertawe o bosib wedi dod o'r un lle.
Yn ôl Sara Rosser, o Hope Rescue, mae 'na bryder gwirioneddol fod yr achosion yma i gyd yn ymwneud â bridiwr sy'n gweithredu ar raddfa fawr.

Mae gan nifer o'r cŵn broblemau meddygol, meddai Sara Rosser
Dywedodd Ms Rosser fod yr achos hwn wedi syfrdanu staff yr elusen, hyd yn oed yr aelodau mwyaf profiadol: "Ni 'rioed wedi gweld dim byd fel hyn.
"Yn ogystal â'r 10 ci a gafodd eu hachub ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae 'na 15 o gŵn eraill - pob un ohonynt yn drewi ac yn fudr," meddai.
"Mae pob un ohonynt wedi cael eu hysgwyd.
"Mae'r cŵn benywaidd yn amlwg wedi cael cŵn bach o'r blaen felly maen nhw wedi cael eu defnyddio i fridio - a does yr un ohonynt wedi arfer cerdded ar dennyn.
"Mae pobl wedi dychryn, felly'r pryder yw bod yr achos yn ymwneud â bridiwr mawr sy'n gweithredu ar raddfa fawr ac yn mynd ati i adael cŵn ar hyd de Cymru."

Roedd pob un o'r cŵn gafodd eu darganfod o dan dair mlwydd oed
Ychwanegodd Ms Rosser: "Mae angen cryn dipyn o gefnogaeth arnyn nhw gan y tîm, a dydyn nhw ddim wir wedi cael profiad o fywyd arferol o'r blaen.
"Roedden nhw'n rhedeg yn wyllt felly roedd hi reit anodd i'w dal, ond fe wnaeth aelodau'r cyhoedd yn wych i gael gafael arnyn nhw.
"Mae gan nifer ohonyn nhw broblemau meddygol, felly'r flaenoriaeth nawr yw gwneud yn siŵr eu bod nhw gyd yn iach."
Awgrymodd fod y bil milfeddygol yn debygol o fod yn tua £20,000.

Bwriad yr elusen yw dod o hyd i gartrefi newydd i'r cŵn ifanc
Esboniodd Ms Rosser fod pob un o'r cŵn sydd wedi eu darganfod o dan dair mlwydd oed.
Roedd pob un o'r cŵn yn ardal Pen-y-bont yn fenywaidd, a phob un yng Nglyn-nedd yn wrywaidd.
Mae hynny, yn ôl Ms Rosser, yn awgrymu fod yna gysylltiad posib rhwng y ddau ddigwyddiad.
Ar ôl sicrhau fod y creaduriaid i gyd yn iach, y bwriad yw dod o hyd i gartrefi newydd ar eu cyfer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2024