'Angen adnewyddu strategaeth cyffuriau Carchar y Parc' - Ombwdsmon

- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad gan Ombwdsmon yn dilyn marwolaeth dyn yng Ngharchar y Parc yn codi cwestiynau am allu carcharorion i gael mynediad at gyffuriau.
Cafodd Lewis Petryszyn, a oedd yn 25 oed, ei ganfod yn farw yn ei gell ar 15 Ebrill 2022.
Er nad oes cadarnhad swyddogol o achos ei farwolaeth, mae profion wedi cadarnhau fod cyffuriau anghyfreithlon yn ei system ar y pryd, yn ogystal â moddion wedi eu rhagnodi.
Roedd y cyffuriau anghyfreithlon yn rhai wedi eu creu mewn labordy, a'n aml yn cael eu galw yn 'spice'.
Staff wedi 'colli cyfle'
Fe wnaeth yr adroddiad ombwdsman hefyd godi pryderon fod manylion am wrandawiad disgyblu wedi eu gwthio o dan ddrws Mr Petryszyn tua 45 munud cyn cafodd ei ganfod yn farw.
Dywed yr ombwdsmon fod hyn "yn golygu fod staff wedi colli cyfle posib i roi gofal meddygol brys i Mr Petryszyn yn gynt".
Yn ôl yr adroddiad, roedd staff y carchar wedi casglu gwybodaeth yn awgrymu bod Mr Petryszyn wedi bod yn gwerthu cyffuriau seicoweithredol i garcharorion eraill yn y carchar.
Canfuwyd sylweddau seicoweithredol yng nghorff Mr Petryszyn mewn prawf gafodd ei wneud ddiwrnod ar ôl ei farwolaeth.
Roedd 'na restr wedi ei ganfod yng nghell Mr Petryszyn gydag enwau'r bobl oedd ag arian yn ddyledus iddo am gyffuriau ar 6 Ebrill.
Wythnos yn ddiweddarach, cafodd ei symud i adran arall oherwydd pryderon ei fod yn peri bygythiad i garcharorion eraill.
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
Dywedodd yr ombwdsman, Kimberley Bingham, fod yn rhaid adnewyddu strategaeth cyffuriau'r carchar.
"Roedd 'na wybodaeth yn awgrymu fod Mr Petryszyn yn ymwneud â rhannu PS (sylweddau seicoweithredol) o amgylch y carchar, ond bychan yw'r dystiolaeth sy'n dangos ei fod yn defnyddio sylweddau anghyfreithlon", meddai.
"Er ein bod yn fodlon bod staff y carchar wedi cyflwyno adroddiadau cudd-wybodaeth yn briodol ac wedi gweithredu ar y rhain drwy gynnal chwiliadau celloedd a threfnu i Mr Petryszyn gael prawf cyffuriau, rydym yn pryderu ynghylch argaeledd PS yn y Parc."
Angen 'adnewyddu'r strategaeth'
"Cafodd Olanzapine, moddion nad oedd wedi ei rhagnodi i Mr Petryszyn, ei ganfod yn ei waed, felly mae'n rhaid ei fod wedi'i chael yn anghyfreithlon", meddai.
"Rydym yn meddwl fod angen i strategaeth cyffuriau carchar y parc gael ei adnewyddu er mwyn cynnwys meddyginiaeth ragnodedig".
Dywedodd hefyd y dylid bod wedi llunio cynllun ffurfiol i ymateb i honiadau bod Mr Petryszyn wedi bod yn bwlio carcharorion eraill.
Ychwanegodd y gallai fod cyfle wedi bod i achub Mr Petryszyn, pe bai polisi'r carchar wedi'i ddilyn wrth roi ei ddogfennau disgyblu iddo.
"Dylai'r swyddog a roddodd waith papur y gwrandawiad disgyblu o dan ddrws cell Mr Petryszyn fod wedi'i roi iddo yn bersonol", meddai.
"Pe bai wedi gwneud hynny, efallai y byddai wedi sylwi bod angen cymorth meddygol ar Mr Petryszyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc eu bod wedi adolygu eu strategaeth er mwyn ceisio lleihau argaeledd cyffuriau o fewn y carchar, a'u bod hefyd wedi darparu hyfforddiant ychwanegol i'w staff ynghylch goruchwilio'r defnydd o feddyginiaeth.