Technoleg rithwir yn gallu helpu lles pobl ifanc?

Roedd chwarae'r gêm ar yr ap sy'n defnyddio technoleg rithwir wedi helpu i dawelu meddwl Lili, meddai
- Cyhoeddwyd
Mae profion yn cael eu gwneud ar hyn o bryd i weld a all therapi sy'n defnyddio technoleg rithwir helpu pobl ifanc sy'n dioddef o or-bryder, iselder neu unigrwydd.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, sy'n rhan o adran addysg Cyngor Caerdydd, wedi helpu i brofi a datblygu ap newydd sy'n defnyddio realiti estynedig (Augmented Reality).
Mae canfyddiadau cynnar yn awgrymu bod y dechnoleg, a fydd yn cael ei threialu mewn rhai ysgolion yng Nghaerdydd ac Abertawe, wedi arwain at "gynnydd mewn cysylltiad cymdeithasol" a gostyngiad mewn lefelau gor-bryder.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod unrhyw ymyrraeth a allai helpu pobl gyda'u lles emosiynol i'w groesawu.
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Mae technoleg AR yn caniatáu i ddelweddau digidol, sy'n cael eu creu ar gyfrifiadur, gael eu gosod o fewn yr amgylchedd ffisegol.
"Rwy'n awyddus i weld sut mae modd datblygu a defnyddio technoleg yn y maes therapi er mwyn helpu pobl," meddai Angela Mcmillan, cynghorydd a therapydd sy'n gyfrifol am ddatblygu'r ap AR.
Mae'r ap yn defnyddio technoleg gemau cyfrifiadur i alluogi person i ddylunio math o flodyn, dail, y tywydd a'r amgylchedd.
Y syniad yw bod pobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd trafod eu hemosiynau ar lafar yn medru deall eu hunain yn well trwy chwarae'r gêm a dewis lluniau sy'n adlewyrchu eu hemosiynau.
Ar ôl creu planhigion a'r amgylchedd digidol delfrydol, mae'r dechnoleg yn caniatáu i'r ddelwedd ymddangos yn eich gofod ffisegol.

Mae mwy o ddefnydd bellach o dechnoleg mewn sesiynau ymgynghori â phlant a phobl ifanc mewn gwledydd ar draws y byd, yn ôl ymchwilwyr
"Fe ddaeth yn amlwg, wrth i bobl ifanc ddefnyddio'r ap, eu bod nhw'n mwynhau symud o gwmpas yr ystafell, roedden nhw'n rhannu yr hyn roedden nhw wedi'i greu gyda'u ffrindiau ac yn mwynhau cael hwyl trwy ddefnyddio'r AR," meddai Ms Mcmillan.
Pobl ifanc yn eu harddegau, sy'n defnyddio gwasanaeth ieuenctid Caerdydd, oedd y cyntaf i dreialu'r therapi digidol.
"Mae'r dechnoleg yn hawdd i'w defnyddio ac yn ffordd hwylus ac effeithiol i allu creu rhywbeth sy'n adlewyrchu sut rydych chi'n teimlo.
"Fi'n credu hefyd ei fod yn ffordd dda o geisio dechrau trafodaeth gyda'ch cynghorydd.
"Bendant bydd hwn yn helpu pobl ifanc eraill sy'n dioddef o gor-bryder," meddai Lili, 16 oed.
"Wrth ddewis y blodau a'r tywydd dwi'n meddwl am beth sydd wedi digwydd yn ystod y dydd a sut rwy'n teimlo.
"Mae'n dechnoleg greadigol a rhywbeth dwi heb weld o'r blaen," meddai Jonas, 15 oed.

Mae profion cynnar wedi dangos bod y therapi digidol newydd yn helpu i ostwng lefelau gor-bryder pobl ifanc, meddai Ms Mcmillan
Y bwriad yw defnyddio'r dechnoleg i helpu unigolion deimlo'n fwy cyfforddus wrth ceisio trafod eu hemosiynau a dod i'w deall nhw'n well, yn ôl Ms Mcmillan, sy'n gweithio'n bennaf ymhlith pobl ifanc niwrowahanol.
"Rydyn ni am gynnal treialau pellach o'r therapi yma mewn rhai ysgolion yng Nghaerdydd ac Abertawe dros yr haf.
"Rydyn ni wedi darganfod hyd yn hyn bod y dechnoleg yn gwella cysylltiad cymdeithasol rhwng pobl ifanc ac yn lleihau eu lefelau gor-bryder," meddai Ms Mcmillan.
Ychwanegodd hi: "Un o'r prif elfennau yn y broses yma yw deall faint mae iechyd meddwl a lles person ifanc yn gwella pan mae nhw'n teimlo'n rhan o rywbeth lle mae eraill yn gallu eu deall nhw yn well hefyd.
"O ganlyniad mi allai hyn helpu rhai unigolion i fod yn bresennol yn yr ysgol yn fwy aml, er enghraifft, a dyna'r nod."
'Pwysig gwrando'
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, bod gwella lefelau presenoldeb yn parhau i fod yn her i nifer o ysgolion ers y pandemig.
"Mae yna sawl rheswm cymhleth tu ôl i'r broblem yma ond rydyn ni'n gwybod bod iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn rhan o hynny ac mae gor-bryder yn yr ysgol yn gyffredin," meddai.
"Dwi'n credu ei fod yn holl bwysig ystyried unrhyw gymorth a thystiolaeth i brofi ei fod yn effeithiol ac mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n gwrando ar blant a phobl ifanc er mwyn clywed beth mae nhw ei angen.
"Mae'r byd yn datblygu, mae technoleg yn datblygu a dwi'n credu os yw ysgolion yn gallu defnyddio technoleg i gefnogi plant a phobl ifanc er mwyn gwella eu presenoldeb, mae hwnna i'w groesawu."