Cynllun 10 mlynedd i wella darpariaeth gofal iechyd meddwl

Mae Lee Williams o'r Rhondda yn cerdded bob dydd er lles ei hiechyd meddwl a chorfforol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Williams o'r Rhondda yn cerdded bob dydd er lles ei hiechyd meddwl a chorfforol

  • Cyhoeddwyd

Gwneud hi'n haws i bobl dderbyn gofal iechyd meddwl priodol yn gynt yw prif fwriad strategaeth newydd Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth nifer y galwadau i linell gymorth sy'n darparu gofal iechyd meddwl brys bron dyblu rhwng 2023 a 2024.

Bydd y cynllun 10 mlynedd yn canolbwyntio ar atal salwch iechyd meddwl trwy ymyrraeth cynt heb oedi a'r angen i aros am apwyntiad.

Dywedodd y Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Sarah Murphy, bod y cynllun yn "mynd i'r afael â phroblemau eraill sy'n effeithio lles, gan gynnwys tai, cyflogaeth, unigrwydd ac adeiladu cymunedau cryfach".

'Addawol ond angen arweiniad'

Cafodd pryderon ynglŷn ag amseroedd aros hir ar gyfer gofal arbenigol, yn enwedig i blant a phobl ifanc, eu nodi yn ystod ymgynghoriad diweddar.

Daeth i'r casgliad hefyd bod anghysondeb o ran darpariaeth gofal iechyd meddwl yn enwedig mewn rhai ardaloedd difreintiedig.

"Er bod y strategaeth newydd yn ymddangos yn addawol, mae angen arweiniad clir a chyson er mwyn sicrhau bod y sector yn medru darparu'r gofal yma yn syth a gyda digon o fuddsoddiad ar gyfer yr hir dymor," meddai Simon Jones, Pennaeth Polisi Mind Cymru.

Cysylltu pobl gyda chymorth anghlinigol yn y gymuned trwy wasanaethau lleol sydd wrth wraidd y strategaeth newydd.

Mae grwpiau cerdded yn un enghraifft o'r math o weithgareddau sy'n cael eu cynnig i rai pobl.

Ers ymddeol, mae Lee Williams, o Flaen Rhondda, wedi ymuno â sawl grŵp cerdded yn ei hardal leol yn ogystal â sefydlu grwpiau cerdded newydd hefyd.

"Mae wedi gwneud lot fawr o wahaniaeth," meddai Ms Williams.

"Chi jyst yn teimlo'n well ar ôl bod mas yn yr awyr agored yn gwrando ar yr adar ac amser yma o'r flwyddyn chi'n gweld y planhigion yn tyfu.

"Mae jyst yn tynnu meddwl chi off unrhyw beth arall.

"Mae'n newid y ffordd mae pobl yn meddwl... wrth fyd mas a siarad â phobl eraill yn yr awyr iach mae [pobl yn] sylweddoli faint maen nhw'n gallu gwneud yn lle beth maen nhw ddim yn gallu gwneud."

Mae elusen Living Streets Wales yn trefnu grwpiau cerdded er mwyn dod â phobl at ei gilydd i wella eu hiechyd ac i gwrdd â phobl newydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Living Streets Wales yn trefnu grwpiau cerdded er mwyn dod â phobl at ei gilydd i wella eu hiechyd ac i gwrdd â phobl newydd

Ers lansio ar ddiwedd 2022, mae llinell gymorth iechyd y gwasanaeth iechyd yn derbyn tua 6,000 o alwadau bob mis ar gyfartaledd.

Yn ôl ymchwil gan y Comisiwn Bevan, fe allai'r nifer o bobl â phroblemau iechyd meddwl gynyddu 33% ymhen yr 20 mlynedd nesaf os nad oes newid mawr yn y ffordd mae gofal yn cael ei ddarparu.

Dywedodd yr Athro Kamila Hawthorne, sy'n gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ac yn gweithio mewn meddygfa yn Aberpennar: "Rydyn ni'n gwybod bod y nifer o bobl sydd â chyflyrau cronig corfforol a meddyliol yn cynyddu.

"Os nad ydyn ni'n gwneud rhywbeth i atal y cynnydd parhaol yna fe fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei orlwytho.

"Y peth gorau i wneud yw ceisio atal y problemau yma rhag codi yn y lle cyntaf trwy roi cyfle i bobl fyw'n iachach ac addysgu nhw ar sut i wneud hynny."

Pynciau cysylltiedig