Nifer defnyddwyr system rhybuddion llifogydd yn 'bryderus o isel'

Llifogydd yn Nghwmbwrla, AbertaweFfynhonnell y llun, ATHENA PICTURES
Disgrifiad o’r llun,

Abertawe yw un o'r mannau sydd wedi dioddef llifogydd yn barod yr hydref hwn

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hannog i gofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd yn sgil ofnau bod nifer y bobl sy'n defnyddio'r system yn "bryderus o isel".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies fod cynnydd mewn tywydd eithafol yn golygu y gallai llifogydd ddigwydd "unrhywle", a'i bod hi'n "hanfodol bwysig" i gymunedau baratoi.

Mae un ymhob saith cartref a busnes yng Nghymru yn cael eu hystyried o fod â risg o lifogydd.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae cawodydd trwm a pharhaus drwy fis Medi wedi sychder yr haf yn golygu bod dalgylchoedd afonydd bellach yn "llawer gwlypach a mwy ymatebol i law pellach".

Mae nifer o rybuddion llifogydd wedi'u cyflwyno yn barod yn yr hydref, gydag un o'r prif ffyrdd i mewn i Abertawe wedi ei gorchuddio gan ddŵr yn dilyn glaw trwm.

Achosodd storm swyddogol gynta'r tymor - Storm Amy - anhrefn hefyd, wrth i hyrddiadau hyd at 85mya daro Cymru.

Mae CNC a'r Swyddfa Dywydd wedi bod yn ymbil ar bobl i baratoi at y misoedd sydd i ddod gan wirio risg llifogydd eu heiddo, darllen cyngor ar-lein a chofrestru am rybuddion.

Fe amlygodd adroddiad diweddar, dolen allanol gan bwyllgor amgylchedd y Senedd i'r ymateb i stormydd dinistriol y llynedd - Bert a Darragh - fod yna bryderon ynglŷn â faint sy'n defnyddio'r system.

"Mae ymgysylltiad y cyhoedd â rhybuddion tywydd a llifogydd yn parhau i fod yn bryderus o isel yng Nghymru," meddai'r adroddiad.

Pryder am 'anghydraddoldebau'

Roedd y pwyllgor "yn arbennig o bryderus ynghylch anghydraddoldebau mewn ymgysylltiad ymhlith aelwydydd incwm is a'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol - cymunedau sydd yn aml yn fwyaf tebygol o ddioddef llifogydd".

Nododd arolwg gan elusen Y Groes Goch, sy'n cael ei ddyfynnu yn yr adroddiad, mai tua 16% o'r rhai atebodd yr arolwg ar draws y DU oedd wedi cofrestru i dderbyn rhybuddion llifogydd.

O'r rhai nad oedd wedi cofrestru, roedd 36% yng Nghymru yn dweud bod hyn oherwydd "nad oedden nhw'n gwybod sut i wneud neu heb glywed amdanyn nhw", er iddyn nhw hefyd nodi eu bod yn byw mewn ardaloedd oedd â risg uchel o lifogydd.

Dywedodd CNC wrth y pwyllgor eu bod wedi buddsoddi £5m mewn System Gwybodaeth Rhybuddion Llifogydd newydd ar gyfer Cymru, "sy'n gwneud cyhoeddi rhybuddion yn broses gyflymach a mwy gwydn".

Cynghorydd Arwel Roberts o Gyngor Sir Ddinbych yn sefyll ar hyd y traeth yn Rhyl lle mae amddiffynfeydd llifogydd newydd. Mae'n gwisgo siaced las tywyll.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Arwel Roberts yn warden llifogydd ar gyfer tref Rhuddlan, Sir Ddinbych

Mae'r Cynghorydd Arwel Roberts, cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn warden llifogydd ar gyfer tref Rhuddlan, sydd wedi profi sawl achos o lifogydd yn ystod y degawdau diwethaf.

"Dwi'n defnyddio'r cyfryngau rhithiol i wneud yn siŵr bod [pobl] yn gwybod sut i baratoi at lifogydd," meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n "hynod o bwysig" cofrestru am rybuddion.

"Os nad ydyn nhw'n fodlon 'neud hynny, maen nhw'n mynd i gael mwy a mwy o broblemau.

"Mae hyn yn mynd i ddigwydd yn fwy aml nawr yn anffodus," rhybuddiodd, gan fod newid hinsawdd eisoes yn cael "effaith ddifrifol".

Ychwanegodd Mr Roberts fod llifogydd wedi'u cysylltu ag afonydd a'r môr yn y gorffennol, ond bod llifogydd ar wyneb y tir yn broblem gynyddol hefyd.

Mae'r math yma o fflachlif yn digwydd pan fod capasiti'r tir neu systemau draenio i amsugno dŵr yn cael ei orlwytho yn ystod adegau o law trwm iawn.

Ceri Davies, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae dalgylchoedd bellach yn llawer gwlypach ac yn fwy ymatebol i law pellach," meddai Ceri Davies o CNC

Dywedodd Dr Will Lang, prif feteorolegydd y Swyddfa Dywydd, fod Cymru'n wynebu "risg cynyddol o lifogydd" wrth i'r tywydd ddod yn fwy eithafol o ganlyniad i newid hinsawdd.

"Yn bennaf oherwydd y cynhesu ry'n ni'n ei brofi, mae mwy o leithder yn yr atmosffer," eglurodd.

"Bydd y tueddiad ry'n ni'n gweld o aeafau gwlypach yn cynyddu, a thra gallai hafau fod yn sychach fe fyddwn ni'n gweld stormydd mellt a tharanau sy'n fwy intense hefyd."

Mae Cymru wedi gweld "dechrau gwlyb iawn i'r hydref meteorolegol" yn barod - gyda 50% yn fwy o law yn barod na'r cyfartaledd hir dymor ar gyfer Medi gyfan, eglurodd Dr Lang.

"Ry'n ni wir yn annog pobl i ddeall mwy am y system rhybuddion llifogydd ry'n ni'n ei redeg," meddai Ceri Davies, prif weithredwr CNC.

"Mae'n wasanaeth am ddim, a drwy gofrestru fe gewch chi wybodaeth ynglŷn â phryd ry'n ni'n dechrau pryderu am lifogydd yn eich ardal chi.

"Byddwn ni'n cyflwyno rhybudd llifogydd pan ry'n ni'n fwy sicr bod 'na lifogydd yn mynd i ddigwydd, ac yna mewn achosion mwy eithafol byddwn ni'n darparu rhybudd bod yna risg sylweddol i fywyd."

Dau ddyn yn syllu ar lifogydd ar hyd stryd fawr Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pontypridd wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf

Mae cyfres o amddiffynfeydd llifogydd newydd wedi'u hagor yn swyddogol ar draws Cymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, wrth i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a CNC geisio lledu neges ymysg cymunedau ynglŷn â pharatoi at y gaeaf.

Mae'r rhain yn cynnwys Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl gwerth £66m er mwyn gwarchod 600 o adeiladau rhag llifogydd ac erydiad arfordirol, a chynllun Stryd Stephenson gwerth £25m, sydd wedi cryfhau amddiffynfeydd ar hyd afon Wysg er mwyn diogelu oddeutu 2000 o dai a busnesau yng Nghasnewydd.

Tra bod parhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd yn bwysig, "mae adeiladu gwytnwch o fewn i gymunedau hefyd yn allweddol," meddai Ms Davies.

"Mae'n hanfodol bod y sawl sy'n wynebu'r risg wedi'u paratoi ar gyfer llifogydd.

"Hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi profi llifogydd erioed o'r blaen, ddylen nhw fod yn gweithredu nawr."

'Dyletswydd ar bawb'

Yn eu hadroddiad yn ymateb i stormydd y llynedd, welodd dros 700 o gartrefi yn dioddef llifogydd ar draws Cymru, rhybuddiodd pwyllgor amgylchedd y Senedd o "fylchau difrifol" o ran y gefnogaeth oedd ar gael, gan arwain at galedi ac "anghenion heb eu diwallu" mewn cymunedau.

Dywedodd y dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy nag erioed mewn gwaith atal llifogydd, ond bod "gan bawb" ddyletswydd i baratoi.

Wrth gael ei holi pam fod y nifer sy'n cofrestru am rybuddion yn isel, dywedodd: "Dwi'n meddwl mai rhan o hynny yw eich bod chi'n meddwl mai rhywbeth sy'n digwydd i bobl eraill yw hyn.

"Mae pobl yn meddwl 'dyna drasig' ond neith e fyth digwydd i fi.

"Beth ry'n ni'n ei ddysgu nawr yw gallai ddigwydd unrhywle, prun ai bod gyda chi dŷ neu fusnes ar ben bryn gyda fflachlifoedd, neu'ch bod chi'n byw ar hyd yr arfordir neu mewn cwm.

"Gyda newid hinsawdd ry'n ni'n profi glaw trwm iawn yn fwy aml - felly plîs, plîs ewch i edrych ar y wybodaeth a chofrestru.

"Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i fod ar ein gwyliadwriaeth a pharatoi at lifogydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.