'Bylchau' yn yr ymateb i stormydd dinistriol Bert a Darragh

Trigolion Pontypridd yn gwneud eu gorau i roi'r dŵr yn ôl i'r TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o drigolion Pontypridd yn gwneud eu gorau i roi'r dŵr yn ôl i Afon Taf wedi Storm Bert

  • Cyhoeddwyd

Mae adolygiad o'r ymateb i ddwy storm "ddinistriol" wedi galw am wella cefnogaeth ariannol ac iechyd meddwl i gymunedau sy'n cael eu heffeithio.

Fe wnaeth stormydd Bert a Darragh ar ddiwedd 2024 ddatgelu "bylchau difrifol" mewn cymorth ariannol brys a hygyrchedd yswiriant i ddioddefwyr, yn ôl pwyllgor newid hinsawdd y Senedd.

Clywodd eu hymchwiliad gan drigolion, cynghorau ac elusennau am galedi ac "anghenion heb eu diwallu" mewn cymunedau ledled Cymru ar ôl i dai a busnesau gael eu difrodi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ymateb i argymhellion yr adroddiad maes o law.

Cafodd Cymru gyfan ei tharo gan stormydd Bert a Darragh ar ddiwedd Tachwedd a dechrau Rhagfyr 2024.

Gwelwyd llifogydd eto mewn trefi fel Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, oedd yn dal i ddod i delerau â difrod Storm Dennis bedair blynedd ynghynt.

Yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent, fe syrthiodd ran o hen domen lo, gan orfodi pobl i adael eu cartrefi.

Agorodd llyncdwll ar stryd ym Merthyr Tydfil, ac yn Nhrefriw, Conwy bu farw dyn ar ôl i afon orlifo.

Daeth Storm Darragh bythefnos yn ddiweddarach â gwyntoedd anarferol o gryf, gan adael oddeutu 95,000 o dai heb bŵer.

Fe gwympodd goed ar draws Cymru, tra bu'n rhaid cau porthladd Caergybi am dros fis yn dilyn difrod yno.

Tirlithiad wedi difrodi fferm
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar fferm yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog wedi i 10 o bobl gael eu hachub ar ôl i dirlithriad ddinistrio eu cartref yn ystod Storm Bert

Fe gynigiodd Lywodraeth Cymru a rhai awdurdodau lleol grantiau argyfwng o £500 a £1,000 i drigolion oedd wedi'u heffeithio, tra roedd cefnogaeth ychwanegol i fusnesau.

Ond clywodd pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith y Senedd dro ar ôl tro fod y taliadau "ymhell o fod yn ddigon i dalu cost wirioneddol difrod y llifogydd a'r aflonyddwch a wynebwyd".

'Dim byd o gwbl' fel cymorth

Mae Rob Lang, sy'n berchen ar siop gelfi yn Llanfair-ym-muallt, Powys yn amcangyfrif iddo golli gwerth £15,000 mewn stoc, enillion a chostau glanhau.

"Yr wythnosau a'r misoedd ar ôl [y llifogydd] yn ceisio rhoi'r siop yn ôl at ei gilydd - dyna oedd yr effaith fwyaf - gorfod cau i lanhau," meddai.

"Pan oedd llifogydd yn 2020, gwnaeth y cyngor drefniant i fusnesau fynd i ganolfannau ailgylchu am ddim, ond y llynedd doedden nhw ddim yn poeni felly roedd yn rhaid i mi dalu arian ychwanegol o fy mhoced fy hun i gael gwared ar filoedd o bunnoedd o stoc a ddifethwyd - ergyd arall pan chi'n ceisio cael yn ôl ar eich traed.

"Fe wnes i chwilio am grantiau neu unrhyw fathau eraill o gymorth oedd ar gael wedyn, ond do'n i'n gallu dod o hyd i ddim byd o gwbl."

Siop gelfi Rob Lang yn Llanfair-ym-Muallt dan ddwr.Ffynhonnell y llun, Rob's Furniture
Disgrifiad o’r llun,

Roedd siop gelfi Rob Lang yn Llanfair-ym-muallt dan ddŵr yn dilyn glaw mawr Storm Bert

Dywedodd Cyngor Powys mai mater i gwmnïau oedd trefnu i waredu ar stoc oedd wedi'i ddifrodi gan lifogydd, ac y byddai gan y rhan fwyaf o fusnesau yswiriant ar gyfer hynny.

Ond ychwanegodd y cynghorydd Jackie Charlton, aelod o'r cabinet dros yr amgylchedd, ei bod hi'n cefnogi argymhellion y pwyllgor.

"Ry'n ni nawr yn edrych tuag at Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau sydd eu hangen i baratoi at stormydd ac adfer yn eu sgil," meddai.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at gasgliadau arolwg y Groes Goch Brydeinig, sy'n awgrymu mai ond 5% o'r rhai a gafodd eu heffeithio gan lifogydd drwy'r DU oedd wedi derbyn cymorth ariannol gan eu cyngor lleol, a dim ond 24% yn teimlo bod y gefnogaeth honno'n ddigon.

Galwodd y pwyllgor am "adolygiad trylwyr" o gyllid brys er mwyn sicrhau ei fod yn "adlewyrchu costau go iawn ac yn darparu ar gyfer gwydnwch hirdymor, yn enwedig i'r rhai sydd wedi cael eu taro dro ar ôl tro gan drychinebau o'r fath".

Roedd gallu pobl i sicrhau yswiriant yn bryder arall a godwyd dro ar ôl tro.

Er bod eiddo a adeiladwyd cyn 2009 fel arfer yn gymwys ar gyfer yswiriant llifogydd o dan gynllun Flood Re Llywodraeth y DU, roedd llawer o drigolion a busnesau wedi ei chael yn anodd llywio'r system a chael yswiriant fforddiadwy, meddai'r adroddiad.

Mae'n galw am gyfathrebu cliriach a mwy hygyrch gan yswirwyr a chyrff cyhoeddus er mwyn i drigolion ddeall eu hawliau'n well.

Argymell cymorth iechyd meddwl

Roedd nifer o'r rheini a gyfrannodd at ymchwiliad y pwyllgor wedi crybwyll effaith y stormydd ar iechyd meddwl trigolion, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n cael eu taro'n gyson.

Ond fe ddaeth y pwyllgor i'r casgliad nad oedd darparu cymorth iechyd meddwl yn rhan arferol o ymateb yr awdurdodau i lifogydd.

"Rhaid i les trigolion fod yn gymaint o flaenoriaeth a thrwsio seilwaith," meddai'r adroddiad.

"Ry'n ni'n argymell bod cymorth iechyd meddwl yn cael ei osod i mewn i strategaethau ymateb llifogydd lleol a'i fod ar gael drwy wasanaethau a phartneriaethau yn y gymuned."

Mwd tirlithiad ger rhes o dai
Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghwmtyleri fe syrthiodd ran o hen domen lo yn ystod Storm Bert, gan orfodi pobl i adael eu cartrefi

Tra bod cynghorau wedi gwario yn drwm i drwsio ac uwchraddio seilwaith yn wyneb stormydd diweddar, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod problemau'n parhau gyda chwlfertau mewn sawl man.

Yn rhy aml, roedd y sianeli yma ar gyfer dŵr sy'n croesi o dan ffyrdd a rheilffyrdd "mewn cyflwr gwael, yn anodd eu cyrraedd, a heb eu cynllunio ar gyfer y lefelau dwysedd glaw enfawr a welir yn awr oherwydd newid hinsawdd".

Roedd awdurdodau lleol wedi'u rhwystro gan gyllidebau cyfyngedig a - gan fod nifer o gwlfertau'n croesi tir cyhoeddus a phreifat - roedd y cyfrifoldeb am eu cyfer yn aneglur hefyd mewn rhai achosion.

Mae'r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i gefnogi "dull cenedlaethol, cydlynol o reoli cwlfertau, gan sicrhau y gall seilwaith wrthsefyll stormydd yn y dyfodol".

Tirlithriad ar yr A4106 - Ffordd Bwlch rhwng Treorci a Nantymoel
Disgrifiad o’r llun,

Tirlithriad arall ar yr A4106 - Ffordd Bwlch rhwng Treorci a Nantymoel - yn dilyn Storm Bert

Dywedodd Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, sy'n cadeirio'r pwyllgor trawsbleidiol, nad oedd "cymorth argyfwng, yr yswiriant na'r seilwaith presennol yn cyfateb i raddfa'r angen yng nghymunedau Cymru".

"Wrth i newid hinsawdd ysgogi tywydd fwyfwy eithafol, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithredu ein hargymhellion heb oedi: ailwampio cyllid brys, egluro mynediad at yswiriant, gwella cymorth iechyd meddwl, a chreu dull cydgysylltiedig o ran seilwaith gwydn," meddai.

"Bob dydd nad yw'r diwygiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, rydym mewn perygl o amlygu mwy o gymunedau i galedi a thanseilio gwydnwch Cymru i stormydd sydd eto i ddod."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn diolch i'r pwyllgor am yr adroddiad cynhwysfawr, ac y byddan nhw'n "ymateb i'r argymhellion maes o law".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.