Effaith 'catastroffig' tanau gwair ar fywyd gwyllt

Mae llygoden bengron y dŵr yn byw mewn system o dyllau - ond mae rhai o'r nythod yma wedi'u llosgi'n ulw yn ystod y tanau diweddar
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o fywyd gwyllt mwyaf prin Cymru wedi'u "llosgi'n fyw" a'u gwthio'n nes at ddifodiant yn dilyn wythnosau o danau gwair ffyrnig, yn ôl cadwraethwyr.
Mae'r rhywogaethau fel llygod pengrwn y dŵr, sef y mamal sy'n dirywio gyflymaf ym Mhrydain, ac adar eiconig fel tylluannod gwyn a chwtiaid aur, wedi'u heffeithio.
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod tanau gwair parhaus ar gomin Abergwesyn ym Mhowys wedi arwain at golli'r "cynefin bridio olaf ar gyfer cwtiaid aur" yn lleol - sy'n cael eu hystyried ymysg yr adar prydfertha' ar ein hucheldiroedd.
Hyd yma eleni mae 110 milltir sgwâr o dir wedi'i losgi gan danau gwair ar draws y DU - ardal sy'n fwy na dinas Birmingham.
'Pryderus ofnadwy'
Mae ffigyrau sydd wedi'u casglu gan BBC Cymru yn dangos i ddiffoddwyr orfod brwydro bron i 1,400 o danau gwair yn barod eleni.
"Ry'n ni'n bryderus ofnadwy, mae hyn yn edrych fel petai'n mynd i fod y flwyddyn waethaf ar gyfer gweld ein bywyd gwyllt yn y fflamau," meddai Ben McCarthy, pennaeth cadwraeth natur yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid bychan yn ogystal â phryfed yn cael eu "llosgi'n fyw", meddai.
"A hynny wedyn yn amharu ar y gadwyn fwyd yn ei chyfanrwydd oherwydd heb y creaduriaid rheini dyw'r adar sydd yn ddibynnol arnyn nhw ddim yn medru goroesi," ychwanegodd.
Galwodd am gyllid gan lywodraethau'r DU i helpu ffermwyr a thirfeddianwyr adfer mawndiroedd ar yr ucheldir, gydag ardaloedd gwlyb i atal tanau, darparu cynefin, ac amsugno carbon.

Bu'r tân yn llosgi glaswellt ac eithin mewn ardal rhwng Bronaber a Thrawsfynydd ganol Mawrth
Daw'r rhybudd yn dilyn un o'r misoedd Mawrth sychaf ar gofnod a thymereddau anarferol o uchel, tra bod nifer is o danau yn 2024 wedi cyfrannu at y broblem hefyd gan bod mwy o lystyfiant ar y bryniau.
Dywedodd Coed Cadw fod ardal amhrisiadwy o goedwig law tymherus wedi cael ei heffeithio yn Allt Boeth ger Aberystwyth, gyda difrod i glychau gog sydd wedi'u gwarchod hefyd.
Mae'r cynefin yma'n cynnwys planhigion, cennau a ffyngau prin, ac yn cael ei ystyried i fod o dan fwy o fygythiad na choedwigoedd glaw trofannol.
"Mae'r effaith ar fywyd gwyllt yn hollol catastroffig - o'r lleia' i'r mwya'," meddai Daniel Jenkins-Jones, cadeirydd Menter ar Gyfer Cadwraeth Natur Cymru (INCC).
"Ar yr wyneb mae unrhyw greaduriaid sy'n methu dianc rhag y fflamau yn cael eu heffeithio - gan gynnwys llygod pengrwn sydd gyda'r rhywogaethau mwyaf prin yng Nghymru."

Mae angen gwerth o leiaf 300 hectar o dir ar dylluannod gwyn i hela digon o fwyd ar gyfer eu cywion
Mae'r INCC wrthi'n monitro pum pâr o dylluannod gwyn sydd wedi nythu mewn blychau y mae'r elusen wedi'u gosod yn Nyffryn Aman, lle mae tanau gwair wedi amharu ar ardaloedd eang.
Mae angen "erwau ac erwau" o dir ar y tylluannod er mwyn hela digon o fwyd i'w cywion, eglurodd Mr Jenkins-Jones.
"Ond does 'na ddim byd ar ôl i roi cynefin i'r llygod a'r creaduriaid eraill y maen nhw'n byw arnyn nhw," meddai.
"Mae byd natur yng Nghymru ar y dibyn yn barod - ry'n ni i gyd wedi clywed y dyfyniad bod un ym mhob chwe rhywogaeth yn wynebu difodiant.
"Felly mae pethau fel y tanau gwair - sy'n ymddangos fel 'se nhw'n digwydd yn fwy a mwy cyson - mae hyn yn mynd i wthio rhai rhywogaethau dros y dibyn."
Ymysg yr adar prin eraill i gael eu taro mae'r boda tinwyn, a hynny'n dilyn ymdrech ddiweddar i'w gwarchod ar ucheldiroedd Cymru, a'r ehedydd, sydd wedi gweld dirywiad sylweddol yn eu niferoedd ers y 1970au.

Mae nadroedd fel y wiber yn aml yn methu a dianc rhag y fflamau
Mae INCC bellach yn galw am fwy o oruchwylio o'r broses o gynnau tannau dan reolaeth gan ffermwyr a thirfeddianwyr, a rhagor o fonitro ac ymchwil o effaith tanau gwair ar yr amgylchedd yng Nghymru.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod tanau gwair yn "broblem enfawr", yn enwedig yn y de, lle mae ffigyrau Llywodraeth Cymru o 2024 yn dangos i fwy na hanner tanau'r flwyddyn honno ddigwydd.
Esboniodd Ioan Williams, rheolwr gweithrediadau'r asiantaeth yn ne-ddwyrain Cymru, fod effeithiau hirdymor i'r amgylchedd hefyd wrth i ddŵr lifo oddi ar y llethrau sydd wedi'u llosgi pan ddaw glaw ac amharu ar ansawdd afonydd a nentydd.

Cafodd ddisgyblion Ysgol Gynradd Pontnewydd, Cwmbrân y cyfle i ddysgu mwy am y fath o greaduriaid sy'n cael eu heffeithio gan danau gwair
Mae ystadegau'n dangos bod 70% o danau gwair Cymru'n cael eu dechrau'n fwriadol yn flynyddol, gyda'r ffigwr yn cynyddu i dros 90% mewn rhai ardaloedd o'r de.
Mae tywydd gwlypach yr wythnos hon yn debygol o gynnig saib i'r timau sydd wrthi'n brwydro tanau gwair.
Ond gyda disgwyl cyfnodau sychach eto ym mis Mai mae'r gwasanaethau tân yn annog pobl i sicrhau nad ydyn nhw'n cyfrannu at y broblem.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd8 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Mawrth