Cyfieithu clasuron Orwell i'r Gymraeg yn cynnig 'persbectif newydd'

Mil Naw Wyth Deg Pedwar a Foel yr AnifeiliaidFfynhonnell y llun, Melin Bapur/Rowynn Ellis/Massimo Carulli
  • Cyhoeddwyd

Mae dwy o nofelau George Orwell wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg am y tro cyntaf.

Mae Foel yr Anifeiliaid yn gyfieithiad o Animal Farm sydd wedi'i osod yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda'r cymeriadau i gyd wedi cael enwau newydd Cymreig.

Tra bod Mil Naw Wyth Deg Pedwar - cyfieithiad o'r nofel dystopaidd, 1984 - yn cynnwys fersiwn Gymraeg o 'Newspeak' - yr iaith ffuglennol gafodd ei greu gan Orwell yn y nofel.

Mae'r ddwy nofel yn parhau i fod yn "weithiau arloesol gyda pherthnasedd oesol", meddai'r cyhoeddwr Melin Bapur, ac yn teimlo'n "arbennig o berthnasol nawr mewn oes o 'ffeithiau amgen', AI, a chamwybodaeth."

George Orwell
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Animal Farm a 1984 eu cyhoeddi ychydig cyn marwolaeth George Orwell ym 1950

Dywedodd Anna Gruffydd, a gyfieithodd Animal Farm, fod iaith syml y nofel wreiddiol yn ei wneud yn rhwyddach i'w gyfieithu.

"Mae unrhyw fath o chwarae geiriau yn hunllef i gyfieithydd oherwydd ni fydd yn cyfieithu fel 'na, felly mae'n rhaid i chi rywsut ddod o hyd i ffordd o gwmpas hynny bob tro," meddai.

Mae Ms Gruffydd wedi cyfieithu nofelau o'r blaen, gan gynnwys La Peste gan Albert Camus a The Third Policeman gan Flann O'Brien, ac mae'n disgrifio'r gwaith fel "pleser".

Mae enwau newydd i'r cymeriadau i gyd-fynd â'r lleoliad newydd yn Foel yr Anifeiliaid hefyd.

"Doeddwn i ddim yn gweld unrhyw fudd mewn peidio â chyfieithu popeth, oherwydd mae'n alegori... mae'n unrhyw fferm yn unrhyw le," esboniodd.

Ac o ran y teitl newydd, dywedodd fod "y cyflythrennu rhwng y f a'r l yn 'foel' ac 'anifeiliaid' yn swnio'n dda".

'Newyddiaith' o'r heniaith

Adam Pearce, a sefydlodd y cyhoeddwr Melin Bapur, wnaeth gyfieithu 1984 i'r Gymraeg.

Mae Mr Pearce yn cytuno ag Anna Gruffydd bod arddull ysgrifennu George Orwell yn ei gwneud yn haws i gyfieithu ei waith.

"Er enghraifft, mae gennym ni'r gair 'heniaith' sy'n cyfeirio at yr iaith Gymraeg - ond mae o hefyd yn gyferbyniad gwych i air fel 'Newspeak' felly wnes i ei gyfieithu i Newyddiaith," meddai.

Ychwanegodd mai'r "her go iawn" o gyfieithu 1984 oedd cael y 'Newspeak' ei hun i weithio yn y Gymraeg.

"Mae gramadeg y Gymraeg yn wahanol iawn i'r Saesneg, felly cael 'Newspeak' i weithio a chyfieithu traethawd Orwell am egwyddorion 'Newspeak' oedd y rhan anoddaf o'r llyfr o bell ffordd," meddai.

Ychwanegodd Mr Pearce fod llawer o bobl wedi darllen y nofelau gwreiddiol, ond bod y cyfieithiadau newydd yn cynnig "persbectif newydd a llais unigryw".

Dywedodd hefyd ei fod yn anghytuno â'r syniad "bod dim marchnad ar gyfer cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Saesneg" oherwydd gall pobl "ddarllen y darnau gwreiddiol yn barod".

"Mae hynny'n camddeall yr holl resymau amrywiol pam y bysai rhywun eisiau darllen llyfr yn y lle cyntaf, yn enwedig llyfr yn y Gymraeg," meddai.

Mae Mr Pearce wedi cyfieithu The Hobbit gan J.R.R. Tolkien o'r Saesneg i'r Gymraeg yn y gorffennol a dywedodd, er bod cyfieithiadau i'r Gymraeg yn gymharol brin, fod gwerthiant yn dangos bod awydd i ddarllen clasuron o'r fath yn yr iaith.

"Gydag iaith leiafrifol fel y Gymraeg mae gennych chi hefyd bobl sydd efallai'n hoffi'r syniad o ddarllen yn y Gymraeg, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau oherwydd bod llenyddiaeth Cymru yn faes anghyfarwydd iddyn nhw," meddai.

Gall llyfr maen nhw eisoes yn ei adnabod ac yn ei garu fod yn "ffordd wych i mewn", yn ôl Mr Pearce.

"Ac wrth gwrs, i ddysgwyr arg eraill, mae darllen gwaith cyfarwydd mewn iaith rydych chi'n ceisio ei dysgu neu ei gwella yn ffordd wych o wneud hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.