'Angen cael gwared â'r stigma' i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen

Mared Fflur
Disgrifiad o’r llun,

Mared Fflur yw cadeirydd newydd panel pobl ifanc y Cyngor Llyfrau

  • Cyhoeddwyd

Mae angen chwalu'r "stigma" ac annog mwy o ddarllen er pleser os am gynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy'n darllen, yn ôl cadeirydd newydd panel pobl ifanc y Cyngor Llyfrau.

Daw sylw Mared Fflur yn sgil pryderon diweddar fod nifer y plant a phobl ifanc sy'n darllen llyfrau yn gostwng yn sylweddol.

Gyda darogan y bydd tlodi plant yn codi i 30% erbyn 2028, mae sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at lyfrau o safon uchel yn allweddol ac yn garreg sylfaen i strategaeth y cyngor.

Yn ôl Ms Fflur, mae'n allweddol bod yna ddigon o lyfrau ar gael sydd wir yn apelio at blant a phobl ifanc.

Er mwyn ceisio annog mwy o blant a phobl ifanc i ddarllen, fe sefydlodd y Cyngor Llyfrau banel pobl ifanc yn 2023 fel bod amrywiaeth o leisiau yn rhannu barn a syniadau am ddarllen er pleser.

"Dwi'n meddwl bod yna stigma mawr o amgylch darllen - yn amlwg 'dan ni yn gweld lefelau darllen ac oedran darllen yn mynd lawr bob blwyddyn," meddai Ms Fflur, sy'n athrawes yn Ysgol Glan Clwyd.

"Mae'n her ychwanegol i ni yng Nghymru o ran bod angen datblygu sgiliau darllen yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Hefyd, i annog llythrennedd mae angen annog darllen er pleser a sicrhau bod yna lyfrau mae plant a phobl ifanc eisiau eu darllen."

Helgard Krause
Disgrifiad o’r llun,

Mae "darllen yn ein helpu i ddeall y byd", medd prif weithredwr y Cyngor Llyfrau Helgard Krause

Mae'r Cyngor Llyfrau yn dadlau fod pobl ifanc a phlant angen llyfrau oherwydd yr heriau anodd maen nhw'n eu hwynebu bob dydd.

Mae darllen yn ein "helpu i ddeall y byd yn well a be sy'n digwydd o'n cwmpas," yn ôl prif weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause.

"Mae yna track record hir gan lyfrau - faint o ganrifoedd ma' llyfrau wedi bodoli a phobl wedi defnyddio llyfrau i drosglwyddo gwybodaeth?

"Ry'n ni'n gwybod ei fod e'n gweithio.

"Ma' sawl enghraifft dros y byd lle ni yn gwybod fod darllen llyfrau a llyfrau print yn gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i wella safonau."

Lleucu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lleucu o'r Bala yn credu bod Covid wedi cael effaith ar arferion darllen pobl ifanc

Mae Lleucu yn ddisgybl yn Ysgol Godre'r Berwyn yn Y Bala, ac yn ddiweddar mae hi wedi dechrau gweithio yn siop lyfrau Awen Meirion yn y dref.

"Mae yna ddiffyg mewn pontio oedran a hefyd dwi'n teimlo fod lot o blant wedi cael eu heffeithio gan Covid o ran safonau darllen," meddai.

"Weithiau ma' nhw'n embarassed bo' nhw ddim lle ma' nhw fod.

"Mae isio cael gwared ar y stigma o ran darllen."

Joshua
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joshua yn dweud ei bod hi'n anodd dod o hyd i lyfrau sy'n ei gynrychioli ef

Mae Joshua yn ddisgybl yn Ysgol Glantaf Caerdydd, ac yn dweud ei fod yn teimlo fod angen mwy o ddewis llyfrau i bobl o gefndiroedd gwahanol.

"Un peth sy'n heriol yw ffeindio llyfrau sy'n cynrychioli fi fel person ifanc o gefndir byd eang," esboniodd.

"Mae angen llyfrau i bobl o gwmpas fy oedran i, 17, a ffeindio llyfrau sy'n cynrychioli lleisiau fel fi - nid yn unig o fewn themâu ynglŷn â hil, ond themâu bob dydd."

Alexander
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alexander wedi mynd ati i sefydlu clwb llyfrau er mwyn gallu trafod a mwynhau darllen gyda ffrindiau

Yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd mae Alexander wedi mynd ati i sefydlu clwb llyfrau.

"O be' dwi wedi gweld mae'r elfen o fod mewn clwb yn bwysig - y gallu i drafod llyfrau gyda ffrindiau a rhoi barn, heb ofni dweud rhywbeth anghywir," meddai.

"Maen nhw'n gallu bod gyda ffrindiau a phobl maen nhw'n gallu ymddiried ynddyn nhw.

"A hefyd bod mewn cymuned sy'n hoffi darllen a bod yn gyffrous am lyfrau, ac ma' nhw yn mwynhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.