Tesni DeLuna: Y Gymraes sy'n creu celf i sêr mwyaf America
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Glantaf, fe symudodd Tesni i'r Unol Daleithiau yn 12 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes a ddechreuodd ei busnes drwy hap a damwain bellach wedi gwneud gwaith i rai o sêr mwyaf cerddoriaeth a chwaraeon yn yr Unol Daleithiau.
Mae Tesni DeLuna, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, wedi gwneud dyluniadau i sêr fel Usher, Drake a Lil Baby.
Dechreuodd yr artist y fenter wrth weithio mewn campfa yn Austin, Texas, a dywedodd ei bod wedi mynd o nerth i nerth.
"Mae Usher wedi gwisgo fy esgidiau ar lwyfan, ac mae llun o Lil Baby yn dal tri phâr 'nes i iddo fe", meddai.
Ymhlith ei chleientiaid eraill mae'r rapiwr byd-enwog Rod Wave, y golffiwr proffesiynol Sergio Garcia, y chwaraewr pêl-fasged benywaidd Cameron Brink a'r seren crossfit Noah Ohlsen.

Mae'r canwr Americanaidd, Usher wedi gwisgo esgidiau Tesni ar lwyfan
Mae ei gwaith yn amrywio o baentio esgidiau i bob math o gynnyrch arall: "Dwi ddim 'di gweld Drake gyda'r camera bags nes i baentio iddo fe ond dwi wedi clywed bod e'n hoffi nhw so dwi'n hapus.
"Dwi ddim yn aml yn cwrdd â'r sêr ond dwi'n cael tocynnau i'w cyngherddau – ges i docynnau i weld Drake ac Usher.
"'Nes i really mwynhau gwneud gwaith iddyn nhw ac wedyn mynd i'r cyngherddau. Mae'n llawer o hwyl."

Mae esgidiau, bagiau camerâu a bocsys gemwaith ymhlith yr eitemau mae Tesni'n eu paentio
Symudodd Tesni draw i Connecticut yn America pan yn 12 oed, ond ar ôl colli ei swydd yn ystod Covid fe symudodd i Austin, Texas.
Drwy hap a damwain y dechreuodd hi'r fenter, meddai, a hithau'n gweithio mewn campfa ar y pryd.
"Roeddwn i'n lliwio wrth y ddesg yn lle gweithio a gwelodd un o'r aelodau [staff] fy lluniau a 'nath e ofyn os ydw i'n gallu paentio esgidiau o gwbl achos odd e wedi prynu esgidiau gwyn i'w ferch ac oedd hi'n dweud bo' nhw'n rhy ddiflas...
"Fi 'di bod yn paentio esgidiau ever since!"

Yr athletwr CrossFit Americanaidd, Noah Ohlsen, yn cystadlu yn esgidiau Tesni
"Hoffwn i weithio mwy gydag athletwyr yn 2025, a female athletes, gan fod y maes yna o ddiddordeb i mi.
"Dwi eisiau tyfu'r busnes mwy nawr ac eisiau rhoi llawer mwy o energy i'r busnes achos dwi bob amser wedi gweithio 9-5 so dim ond gweithio ar esgidiau yn y nos, ond dwi nawr eisiau 'neud e llawn-amser."

Fe gysylltodd tîm y chwaraewr pêl-fasged benywaidd, Cameron Brink, â Tesni drwy Instagram
'Mae Cymru'n rhan fawr o fy hanes i'
"Dwi'n disgwyl babi mewn pythefnos, merch fach, a ni'n edrych ymlaen at ddod i Gymru adeg Dolig."
"Mae Cymru'n rhan fawr o fy hanes i ond mae am fod yn rhan bwysig o'i hanes hi hefyd – felly dwi methu aros i ddod yn ôl a dangos iddi hi a fy ngŵr pam dwi'n caru Cymru gymaint."
Mae Tesni'n edrych ymlaen at gyfuno'r cyfrifoldebau fel Mam ac artist: "Dwi wedi gwneud llawer o esgidiau iddi hi [y babi] yn barod!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Chwefror