Lluniau: Gŵyl Arall
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos, daeth y Cofis ynghyd am ddathliad o lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelf yn Gŵyl Arall.
Y ffotograffydd, Iolo Penri, aeth am sgowt rownd 'Dre i roi blas i ni o'r digwyddiadau.

Mwynhau peint a 'chydig o ddiwylliant ar pyb crôl llenyddol yng nghwmni'r Prifardd Ifor ap Glyn, Emlyn Gomer ac Arwel ‘Pod’ Roberts

Huw Stephens yn trafod ei lyfr Wales: 100 Records yn yr Hen Lŷs

Beth well nac ychydig o baentio yn yr heulwen?

Fleur de Lys yn codi'r to mewn gig i'r ifanc yn Y Stesion

Rhian Cadwaladr (dde) yn lansio'i nofel ddiweddaraf, Gwaddol, gyda Nia Roberts o Gwasg Carreg Gwalch

Cafodd plant gyfle i grefftio gyda chopr, yng nghwmni Angharad Jones o Crefft Migldi Magldi

Y band lleol, Maes Parcio, yn diddanu'r dorf rhwng 13 ac 17 oed yn Y Stesion

Sgwrs gyda Meurig Williams o Waith Haearn Brunswick yng Ngefail yr Ynys

Yn Llety Arall, roedd y sgwrs Rhannu'r Hen Fynyddoedd yn gyfle i glywed am gynlluniau sy'n digwydd ledled ucheldiroedd Gwynedd, o ddatgelu olion archeolegol i greu gwaith celf newydd i fforio bwyd a chanu tanddaearol

Mair Tomos Ifans a Sioned Webb fu'n adrodd chwedlau drwy gyfrwng cerddoriaeth y delyn yn sesiwn Trwy'r Tannau

Roedd Tyd Am Dro er cof am Co yn daith i cofio am Emrys Llywelyn, y Cofi oedd mor frwd i rannu straeon am 'Dre
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024

Gweithdy i'r plantos gyda Sian Owen yn Oriel Carn

Gig Bob Delyn - gyda chefnogaeth gan y gantores ifanc Buddug a'i band - oedd yn cloi'r ŵyl am eleni
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024