Craig Bellamy: Pwy ydy rheolwr newydd Cymru?
- Cyhoeddwyd
Craig Douglas Bellamy yw prif hyfforddwr newydd tîm pêl-droed dynion Cymru, a’i dasg fydd ceisio arwain y tîm i rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2026.
Fe ddaeth yn agos at gael ei benodi fel prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol yn 2018 pan gafodd Ryan Giggs y swydd, ond ers hynny mae o wedi bod yn is-hyfforddwr i Vincent Kompany yn Burnley.
Mae Kompany bellach wedi gadael i fod yn rheolwr Bayern Munich yn Yr Almaen, ac roedd rheolwr newydd Burnley Scott Parker yn awyddus i gadw Bellamy yn Turf Moor.
Ond mae Bellamy, 44, wedi dweud mai ei ddymuniad erioed oedd cael y cyfle i arwain Cymru – rhywbeth y gwnaeth fel capten rhwng 2007-2010.
Fel chwaraewr roedd o’n un tanllyd, angerddol, ac yn un oedd yn medru bod yn boen i chwarae yn ei erbyn neu ei reoli.
Ond roedd o wastad eisiau ennill ac yn mynnu’r safonau uchaf ganddo ef ei hun a gan ei gyd-chwaraewyr.
Dechreuodd ei yrfa gyda Norwich City ym 1996.
Hyd yn oed fel chwaraewr ifanc yn y garfan, roedd Iwan Roberts - cyd chwaraewr iddo ar y pryd - wedi gweld pa mor angerddol oedd o tuag at y gêm.
Dywedodd Iwan Roberts ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth: “Pan oedd o’n hogyn ifanc yn Norwich mi oedd ganddo obsesiwn am yr ochr dactegol o’r gêm – 'sa fo’n eistedd gyda’r rheolwr Bruce Rioch ar ôl ymarfer yn trafod gwahanol dactegau a phroblemau.
“Roedd o’n stiwdant o'r gêm, roedd o hyd yn gofyn cwestiynau, ac wastad yn awyddus i ddysgu.”
Wedi pedair blynedd yn Carrow Road mi symudodd i Coventry am £6.5m.
Ar y pryd, dyma oedd y swm mwyaf i’r clwb ei dalu am chwaraewr erioed.
Wedi profi ei hun fel asgellwr ac ymosodwr effeithiol yn yr Uwch Gynghrair, fe symudodd i Newcastle United - oedd yn chwarae'n gyson yng Nghynghrair y Pencampwyr ar y pryd.
Bobby Robson oedd y rheolwr wnaeth arwyddo Bellamy, ond doedd perthynas Bellamy gyda'i olynydd, Graeme Souness ddim yn un iach.
Fe dreuliodd gyfanswm o bedair blynedd gyda'r Magpies, ond roedd hynny'n cynnwys cyfnod ar fenthyg gyda chewri'r Alban, Celtic - lle enillodd Gwpan yr Alban.
Roedd hi'n amlwg erbyn hyn nad oedd yn aros yn hir iawn yn unman.
Wedi tymor llwyddiannus gyda Blackburn Rovers yn 2005-06, symudodd i Anfield ac roedd yn rhan o dîm Lerpwl gyrhaeddodd rownd derfynol Cynghrair Y Pencampwyr yn 2007.
Yn ystod y rhediad hwnnw, fe gafodd Bellamy ffrae enwog gyda'i gyd-chwaraewr John Arne Riise cyn gêm oddi cartref yn erbyn Barcelona.
Roedd y ddadl wedi denu cryn dipyn o sylw yn y wasg ar ddiwrnod y gêm, ac ymateb Bellamy oedd sgorio gol hollbwysig yn y Nou Camp.
Ond wedi cyfnod byr yno, roedd ar grwydr unwaith eto, a’r tro yma i Lundain ac i West Ham am ddau dymor, cyn dychwelyd i ogledd-orllewin Lloegr ac i Manchester City rhwng 2009 a 2011.
Am y tro cyntaf yn ei yrfa fe symudodd i Gymru yn 2010-11 ar fenthyg i’w ddinas enedigol sef Caerdydd, cyn dychwelyd am ail gyfnod gyda Lerpwl lle'r oedd ei arwr Kenny Dalglish yn rheolwr arno.
Roedd yn rhan o'r tîm Lerpwl wnaeth ennill ar giciau smotyn yn erbyn Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn 2012.
Wedi hynny daeth un symudiad arall i Bellamy, a hynny yn ôl i Gaerdydd.
Fe lwyddodd i ennill dyrchafiad gyda'r Adar Gleision o'r Bencampwriaeth, ac fe chwaraeodd un tymor gyda'r clwb yn y brif adran.
Fe wnaeth Bellamy osod record am sgorio i'r nifer fwyaf o glybiau gwahanol yn yr Uwch Gynghrair - sef saith.
O ran ei yrfa ryngwladol, fe sgoriodd Bellamy 19 gôl mewn 78 o gemau i Gymru.
Daeth ei ymddangosiad cyntaf yn ystod gem gyfeillgar yn erbyn Jamaica yng Nghaerdydd ym 1998, cyn sgorio ei gôl gyntaf mewn buddugoliaeth 3-0 yn erbyn Malta.
Daeth yn agos at gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2004 gyda Chymru - yn rhan o'r tîm a gollodd i Rwsia yn y gemau ail-gyfle - ond heblaw am hynny nid oedd llawer o lwyddiant iddo yn ystod ei gyfnod yn gwisgo'r crys coch.
Cafodd ei wneud yn gapten yn 2007, ac roedd yn gyfrifol am arwain carfan ifanc iawn oedd yn cynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.
Daeth ei ymddangosiad olaf i Gymru yn ystod y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg yn 2013.
Ar ôl ymddeol yn 2014, fe weithiodd am gyfnod gydag Academi Caerdydd cyn mynd yn ddirprwy i Vincent Kompany yn Anderlecht yng Ngwlad Belg, ac wedyn yn Burnley.
Ond mae Bellamy wedi gwireddu ei freuddwyd, ac wedi cael y cyfle i fod yn brif hyfforddwr ar ei wlad ar gytundeb pedair blynedd.
Yn sicr fe fydd yn ennyn parch y chwaraewyr ac ni fydd ganddo ofn gwneud penderfyniadau anodd.
Mae hi’n argoeli i fod yn dipyn o daith gyda Bellamy wrth y llyw, ac fe fydd ei gêm gyntaf yn erbyn Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, 6 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024