Porthladd Caergybi: Deufis o waith cynnal a chadw yn cau terfynfa

Bydd cau un o'r ddwy derfynfa yn golygu na fydd modd i gwmnïau Stena ac Irish Ferries lwytho a dadlwytho ar yr un pryd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i borthladd fferi prysuraf Cymru weithredu ar gapasiti cyfyngedig am ddeufis i alluogi gwaith cynnal a chadw angenrheidiol.
Cafodd y ddwy derfynfa ym Mhorthladd Caergybi eu difrodi mewn digwyddiadau ar wahân yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024.
Ar ôl gorfod cau yn llwyr am bum wythnos, llwyddwyd i ailagor y porthladd yn rhannol ym mis Ionawr wrth adfer Terfynfa 5.
Roedd modd ailgychwyn gwasanaethau llawn o'r Porthladd ar 18 Gorffennaf wrth adfer Terfynfa 3.
Ond oherwydd yr angen am waith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio o flaen llaw, mae wedi ei gadarnhau y bydd Terfynfa 3 yn cau unwaith eto tan ddechrau fis Tachwedd.

Mae economegwyr yn amcangyfrif bod tua 1,000 o swyddi lleol yn dibynnu ar borthladd Caergybi a'r gadwyn gyflenwi
Mewn datganiad dywedodd Awdurdod Porthladd Caergybi, sy'n cael ei weithredu gan Stena Line Ports Ltd, fod y gwaith wedi cael ei ohirio tan nawr er mwyn peidio ag amharu ar dymor prysur yr haf.
"Mae'r cam yma o'r gwaith wedi'i gynllunio a'i amserlennu i ganiatáu i'r gwaith gael ei wneud y tu allan i gyfnod yr haf.
"Rhaid ymgymryd â'r rhaglen waith hon ac mae'n ddibynnol ar y môr a'r tywydd; felly, mis Medi yw'r amser gorau posibl ar gyfer y gwaith cynnal a chadw yma, gan leihau'r risg o dywydd garw."
Does dim disgwyl i'r cau leihau nifer y gwasanaethau, ond bydd yn golygu newidiadau i'r amserlen oherwydd bod Stena Line ac Irish Ferries yn gorfod rhannu Terfynfa 5.
Bydd hyn yn golygu fod y ddau gwmni yn dychwelyd i'r amserlen a oedd ar waith yn ystod y cau rhannol rhwng Ionawr a Gorffennaf eleni.
Ychwanegodd Irish Ferries, er mwyn hwyluso'r gwaith a rhannu un angorfa, y bydd yn lleihau'r amser sydd ar gael i lwytho a rhyddhau nwyddau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Mawrth