Porthladd Caergybi yn ailagor yn llawn wedi difrod

Llongau Irish Ferries a Stena ochr yn ochr ym mhorthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae modd unwaith eto defnyddio'r ddwy lanfa. Ers mis Ionawr mae Stena ac Irish Ferries wedi gorfod rhannu yr un cyfleuster.

  • Cyhoeddwyd

Mae porthladd prysuraf Cymru bellach wedi ailagor yn llawn saith mis wedi i ran o'i isadeiledd gael ei ddifrodi wrth i fferi angori yn ystod storm.

Ar 7 Rhagfyr fe wnaeth rhan o lanfa porthladd Caergybi ddymchwel a hynny oriau yn unig cyn anterth storm rhybudd coch.

O ganlyniad bu'n rhaid cau'r porthladd yn ei gyfanrwydd am dros bum wythnos - gan gynnwys cyfnod tyngedfenol y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd - wrth i beirianwyr ruthro i geisio trwsio'r isadeiledd a galluogi un o'r glanfeydd i ailagor.

Bellach mae'r lanfa arall sef yr un a dderbyniodd y mwyaf o ddifrod wedi agor.

Amcangyfrifir bod effaith y cau wedi golygu gostyngiad o bron i £500m mewn masnach, gan amharu ar y cyswllt holl bwysig rhwng y DU ac Iwerddon.

'Heb fynd yn ôl i fel oedd o'

Er bod un lanfa wedi bod yn weithredol ers ganol Ionawr, yn ôl rhai o bobl busnes Caergybi mae 'na deimlad nad ydi'r stryd fawr wedi adfer yn llawn ers y cau gwreiddiol.

Dywedodd un perchennog gwesty yng Nghaergybi eu bod nhw wedi colli allan ar bron i £15,000 wrth i bobl orfod canslo ystafelloedd.

Alison Kate Jones yn ei siop ar stryd fawr Caergybi

Dywedodd Alison Kate Jones, sy'n rhedeg siop yng Nghaergybi ac sydd hefyd yn aelod o fforwm busnes y dref, bod gwir angen am gymorth ariannol.

"Oedd bob man jyst yn ddistaw, doedd y pobl ddim yn dod drosodd ac oedd 'na lwyth wedi canslo," meddai Alison.

"Oedd o reit cyn Dolig, fel arfer mae'n brysur hefo pobl yn dod i fewn i wneud siopa Dolig... doedd hynny ddim yn digwydd.

"'Da ni'n dal i weld y gwahaniaeth, dydi o ddim wedi mynd yn ôl i fel oedd o.

"Mi oedd Porthaethwy hefo'r busnes cau'r bont wedi cael cymorth ariannol, dolen allanol, ond 'da ni heb glywed dim byd saith mis lawr y lôn."

'Mae'n mynd yn ôl ac ymlaen'

Nid yw union natur y digwyddiad a arweiniodd at gau'r porthladd wedi ei gadarnhau.

Ond mae'n hysbys i ddwy fferi "ddod i gysylltiad" gyda glanfa gan achosi i ran ohoni ddymchwel, yn fuan cyn anterth Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024.

Mewn tystiolaeth i Senedd Cymru, dywed Stena Line bod y difrod wedi ei achosi i'r lanfa a ddefnyddir "yn bennaf" gan gwmni Irish Ferries.

Ond oherwydd natur y porthladd a'r modd y mae'r glanfeydd yn cysylltu gyda'i gilydd, roedd difrod i'r holl isadeiledd.

O ganlyniad i'r cau roedd anhrefn i deithwyr a gyrwyr lorïau ac roedd yn rhaid defnyddio llwybrau eraill i gludo pobl a nwyddau dros Fôr Iwerddon.

Y porthladd
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 800,000 o lorïau a cheir yn defnyddio Porthladd Caergybi bob blwyddyn

Serch hynny, dywedodd Dr Stavros Karamperidis, sy'n arbenigo yn y maes, bod saith mis ar gyfer gwaith cymhleth o'r fath "yn gyfnod byr o amser".

"Y gymhariaeth yw cael damwain car, mae cwmnïau yswiriant yn ymchwilio ac efallai'n cynnig arian, efallai y bydd y cwmni arall yn herio hynny ac mae'n mynd yn ôl ac ymlaen.

"Rwy'n siŵr bod gan yr awdurdodau'r holl wybodaeth ond allwch chi ddim cyhoeddi nhw'n gyhoeddus," ychwanegodd Dr Karamperidis, pennaeth grŵp ymchwil trafnidiaeth forwrol Prifysgol Plymouth.

'Rhwystredig iawn'

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan, dywedodd Ian Davies o gwmni Stena Line na allai roi unrhyw fanylion oherwydd ei fod yn destun hawliad yswiriant.

Mewn ymateb dywedodd yr AS Llafur, Ruth Jones, ei bod yn "rhwystredig iawn" nad oedd modd rhannu unrhyw fanylion.

Wrth ymddangos ger bron Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru, dywedodd Mr Davies bod dau ddigwyddiad a achosodd ddifrod i un o lanfeydd y porthladd.

Gofynnodd cadeirydd y pwyllgor, Andrew RT Davies, a fyddai'n "deg dweud nad y storm sydd wedi achosi'r broblem hon o reidrwydd... yn hytrach mae'n fwy oherwydd y forwriaeth pan oedd y llongau'n cyrraedd ac yn gadael y porthladd?"

Mewn ymateb dywedodd Ian Davies: "Cywir, yn yr ystyr bod hyn wedi digwydd cyn y storm honno."

Stryd fawr Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pryder bod busnesau stryd fawr Caergybi, ond hefyd yn ehangach ar draws yr ynys, wedi dioddef yn sgil cau'r porthladd yn ei gyfanrwydd

Ond tra fod "cysylltiadau" rhwng llongau a'r glanfeydd yn digwydd "drwy'r amser" a bod y terfynellau wedi'u "cynllunio" i wrthsefyll cyswllt ar gyflymder isel", o ran beth oedd yn wahanol y tro hwn, ychwanegodd Mr Davies bod hynny'n destun "ymchwiliad parhaus" yn ogystal â hawliad yswiriant parhaus.

Does neb wedi cadarnhau pwy sy'n cymryd camau yn erbyn pwy ond y cwmnïau fferi sy'n defnyddio porthladd Caergybi yw Irish Ferries a Stena Line, tra bod Stena yn gweithredu'r porthladd hefyd.

Nid yw Stena Line na Irish Ferries wedi ymateb i gais am sylw gan y BBC.

Fel rheol Irish Ferries sydd wedi defnyddio terfynfa tri, ond ers ailagor yn rhannol maen nhw wedi rhannu terfynfa pump gyda Stena.

Dywedodd Ian Davies byddai'r porthladd a gweithredwyr y llongau yn adolygu'r hyn ddigwyddodd unwaith y bydd wedi ailagor yn llawn.

'Gwaith cymhleth' i adfer y lanfa

Ond tra fod saith mis yn swnio fel cyfnod hir i drwsio'r seilwaith, mae penaethiaid y porthladd yn dweud ei fod yn waith cymhleth ac yn cymryd amser.

Dywedodd Ian Davies wrth y Senedd bod yr angorfa wedi "syrthio'n rhannol ac ar ongl" a bod angen gwaith arbenigol iawn.

Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae economegwyr yn amcangyfrif bod tua 1,000 o swyddi lleol yn dibynnu ar borthladd Caergybi a'r gadwyn gyflenwi

Mae'r porthladd wedi gorfod gweithredu ar hanner ei gapasiti ers 16 Ionawr, ond dal wedi gallu cynnal y nifer arferol o fordeithiau dyddiol.

I alluogi hyn mae Irish Ferries a Stena Line wedi gorfod addasu eu hamserlenni i gydamseru pryd oedd y fferis yn cyrraedd a gadael wrth iddyn nhw rannu'r unig derfynfa sydd wedi bod ar gael.

Ond o ganlyniad mae'r amserlenni wedi bod yn rai tynn ac yn ddibynnol ar longau yn gadael ar amser.

'Dal yn dioddef yn sgil y cau'

Er yn croesawu gweld y porthladd yn ailagor yn llawn, dywedodd Aelod Senedd yr ynys ei bod yn bwysig cael "porthladd gwydn yng Nghaergybi".

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth bod "cwestiynnau wedi eu gofyn am sut y gallai hyn fod wedi digwydd".

Rhun ap Iorwerth ym Mart Gaerwen
Disgrifiad o’r llun,

Rhun ap Iorwerth AS: "Be 'da ni wedi ei weld o'r bennod yma ydi fod diffyg gwytnwch ehangach y porthladd yn bryderus"

"'Da ni isho gwneud yn siŵr fod ganddon ni borthladd sydd yn gallu gweithredu'n gyson ac yn wydn," meddai wrth BBC Cymru.

"'Da ni dal yn dioddef yn sgil y cau, yn cynnwys yr oedi o hyd i gael iawndal i fusnesau, felly mae hynny yn siom yn sicr.

"Mi gafwyd effaith sylweddol iawn, mae 'na golled o fusnes difrifol pan mae porthladd sydd mor ganolog yn cael ei dynnu allan.

"Be 'da ni wedi ei weld o'r bennod yma ydi fod diffyg gwytnwch ehangach y porthmadd yn bryderus, 'da ni angen gweld buddsoddiad a gwaith ar frys rwan i gryfhau'r morglawdd, i wella'r ffordd i fewn i'r porthladd a chroesiad y Fenai.

"Mae hynny i gyd yn cael ei danlinellu gan y problemau 'da ni wedi'u gweld dros y misoedd diwethaf."

porthladdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd i gwmniau Stena ac Irish Ferries adfer eu hamserlenni gwreiddiol yn dilyn yr ailagoriad llawn

Ychydig dros 100 milltir sydd rhwng Caergybi a Dulyn, gyda'r daith tair awr a 15 munud y llwybr cyflymaf rhwng tir mawr y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Gyda dros 400,000 o lorïau a 400,000 o geir yn ei defnyddio bob blwyddyn, Caergybi yw'r ail borthladd prysuraf ar ôl Dover.

Yn ôl Gweinidog Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Phorthladdoedd, Seán Canney, mae Caergybi "yn sbardun economaidd enfawr" i'r wlad.

Ychwaenegodd bod 34% o holl draffig lori "roll-on roll-off" y wlad yn teithio drwy Gaergybi.

"Mae'n bwysig i ni gael porthladd sy'n wydn," meddai Mr Canney wrth BBC Cymru.

"Mae'n rhaid i ni ddysgu gwersi o'r hyn a ddigwyddodd a sut rydyn ni'n ymateb o ran llywodraethau Iwerddon, y DU a Chymru, a'r holl gwmniau fferi a phawb arall sy'n ymwneud ag o."

'Diffyg cyflymder a brys'

Mae Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi bod yn feirniadol o ymateb Llywodraeth Cymru i gau'r porthladd, gydag aelodau yn nodi bod "diffyg cyflymder a brys" wedi bod.

Yn dilyn ymchwiliad a chasglu tystiolaeth, mae adroddiad y pwyllgor yn galw am "adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd".

Dim cymorth i fusnesau yn 'destun siom'

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard, bod cyfnod cau'r porthladd "wedi adlewyrchu ei bwysigrwydd i Gaergybi ac Ynys Môn, ond hefyd y Deyrnas Unedig ac Ewrop".

"Bysa Caergybi ddim yn bodoli fel tref heb y porthladd," meddai.

"[Yn ystod y cau] roedd siopau'n y dref wedi gweld colled, nid yn unig teithwyr ond y staff hynny oedd wedi symud i Benbedw neu Abergwaun, doeddan nhw ddim yn y dref i bigo brechdan i fyny, mynd am beint neu hyd yn oed torri eu gwallt."

Gary Pritchard yn ei ystafell
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Gary Pritchard: "Os oes na unryw haul tu ôl y cwmwl, hwnnw ydi y cydnabyddiaeth gan wleidyddion tu hwnt i Gymru o bwysigrwydd porthladd Caergybi"

Dywedodd hefyd ei fod yn "destum siom" nad oes unrhyw gymorth ariannol i fusnesau eto wedi ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

Yn gynharach yn y mis dywedodd gwenidogion eu bod yn ystyried darparu cymorth a bod cais swyddogol bellach wedi ei anfon gan Gyngor Môn.

Ond tra'n disgwyl am gadarnhad, fe wnaeth Gary Pritchard gydnabod bod y berthynas hwnnw rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon bellach "wedi cryfhau".

"Pan gaewyd y porthladd roeddwn yn cael llawer iawn mwy o geisiadau gan y wasg o Iwerddon na'r oeddwn i tu hwnt i Gymru," meddai.

"Dwi'n meddwl bod y gydnabyddiaeth o bwysigrwydd Caergybi wedi ei golli ychydig bach yn San Steffan.. dychmygwch petae Hull neu Harwich wedi cau yn yr un modd?

"Cymrodd cryn dipyn o amser cyn i ni gael yr ymateb a chymorth yna drwy San Steffan.

"Os oes na unryw haul tu ôl y cwmwl, hwnnw ydi y cydnabyddiaeth gan wleidyddion tu hwnt i Gymru o bwysigrwydd porthladd Caergybi."

Pynciau cysylltiedig