Dyn wedi cael ei daro gan gar tra'n mynd â'i gi am dro - cwest

Cafwyd hyd i gorff Aaron Jones ar dir y capel lleol wedi iddo gael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth tad i ddau o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei daro gan gar ddeuddydd cyn y Nadolig.
Bu farw Aaron Jones, 38, ar 23 Rhagfyr ar ôl cael ei daro gan gerbyd wrth iddo fynd â'i gi am dro yn Llanpumsaint.
Ni wnaeth gyrrwr y cerbyd stopio wedi'r digwyddiad.
Cafwyd hyd i gorff Mr Jones ar dir y capel lleol ac fe glywodd y cwest ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
Wrth agor y cwest i'w farwolaeth ddydd Mawrth, dywedodd swyddog y crwner Malcolm Thompson fod Aaron Jones yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro gan gar ger Capel y Bedyddwyr Capel Salem am 19:20 ar y noson dan sylw.
Daeth person lleol o hyd i gi Mr Jones, ac fe gysylltodd â gwraig Mr Jones.
Clywodd agoriad y cwest fod ei gorff wedi'i ddarganfod ar dir y capel a'i fod wedi marw yn y fan a'r lle.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar 23 Rhagfyr
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn 27 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae'n cael ei amau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, methu ag aros wedi gwrthdrawiad a methu â hysbysu'r heddlu am wrthdrawiad.
Mae'r llu hefyd wedi cadarnhau eu bod wedi dod i hyd i gerbyd roedden nhw'n credu oedd yn y gwrthdrawiad.
Mae'r dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau tra bod swyddogion arbenigol yn parhau i ymchwilio.

Mae teyrngedau wedi'u gadael i Aaron Jones ger safle'r gwrthdrawiad
Ym mhentref Llanpumsaint, mae blodau wedi eu gosod ger safle'r gwrthdrawiad, wrth i'r pentref barhau i ddygymod â marwolaeth Mr Jones.
Dywedodd y cynghorydd Bryan Davies, fore wedi'r digwyddiad, fod y gymuned leol yn galaru.
"Mae'n rhaid i fi ddweud bod y bachgen hwn mor frwdfrydig yn y gymuned. Pawb yn ei 'nabod e," meddai.
"Roedd calon dag e i bawb ac amser i bawb, a dim digon galle fe 'neud dros bobl."
Fe wnaeth y crwner cynorthwyol Gareth Lewis fynegi ei gydymdeimlad diffuant â'r teulu ar "yr amser anodd hwn".