3 llun: Lluniau pwysicaf Steffan Donnelly
- Cyhoeddwyd
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?
Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymu, Steffan Donnelly, sydd yn trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.
Triwch ffindio fi yn y rhes yma o berfformwyr (cliw: dwi mewn ffrog). Dyma tu mewn i'r Theatr Aleksandrinsky moethus yn St Petersburg lle roeddwn i’n perfformio cyn Covid. Yng nghanol y gynulleidfa wnewch chi weld bocs y Tsar.
Ar y llwyfan yma perfformwyd The Seagull gan Anton Chekhov am y tro cyntaf yn 1896 - wnaeth Chekhov redeg allan o’r theatr a gaddo peidio sgwennu gair arall i’r llwyfan. Diolch byth fe wnaeth o barhau i sgwennu a diolch byth wnaeth neb stormio allan o’n perfformiad ni!
Mae theatr yn rhan fawr o fy mywyd, rwy’n angerddol iawn am ei bŵer i effeithio ar bobl ac archwilio cymdeithas - mae gweld cynulleidfaoedd yn mynd ar siwrne yn bleser. Mae’r theatr wedi galluogi i mi deithio’r byd, creu cysylltiadau diddorol ac yn maethloni fy mywyd.
Dyma fi a fy nghydweithwyr yng Ngwobrau The Stage yn Theatre Royal Drury Lane ddechrau’r flwyddyn. Mae gennyf lawer o dimau yn fy mywyd sy’n fy nghefnogi a herio fi - grwpiau ffrindiau, teulu, cydweithwyr - a dyma un esiampl sef rhan o dîm hyfryd Theatr Gen.
Cawsom ein henwebu ar gyfer Cynhyrchydd y Flwyddyn sy’n anrhydedd mawr a’r tro cyntaf i gwmni Cymraeg gael ei enwebu - testament i waith uchelgeisiol a chyffrous y cwmni a llawryddion Cymru.
Mae pawb yn edrych yn glam iawn felly roedd rhaid i mi gynnwys hwn! Dwi hefyd yn dewis y llun yma er mwyn cynrychioli Llundain sef lle roeddwn i’n byw am dros ddegawd cyn i mi symud nôl i Gymru er mwyn ymuno efo’r Theatr Gen. Mae’n ddinas sydd dal i fod yn ran mawr o fy mywyd a sy’n ysbrydoli gyda’i hegni a’i phobl.
Llun diweddar o fy nheulu ydi hwn ar wyliau (minus fy mrawd, sori Owain ond roedd y 'golden hour' shot yma yn well na unrhyw lun efo ti yndda fo!). Dwi’n teithio lot efo fy ngwaith a pan yn dod i’r gogs wna i aros efo fy nheulu sy’n brofiad braf (pan mae Mam yn cofio fy mod i’n lyseiuwr).
Fel bob teulu mae ‘na ups and downs ond rydyn ni’n neud job reit dda o gefnogi a chynnal ein gilydd. Mae gweld pobl yn tyfu, trawsnewid, addasu yn fy niddori (fel sy’n digwydd mewn dramâu) - a fy nheulu ydi’r rhai dwi wedi gweld hyn fwyaf dros y cyfnod hiraf.
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023