Ymgyrchwyr yn pryderu am 'ddiffyg celf' yn Oriel y Parc

Mae cyfleusterau Oriel y Parc yn golygu fod modd arddangos gweithiau celf o safon ryngwladol
- Cyhoeddwyd
Mae criw o artistiaid wedi cyhuddo Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd yn rhedeg Oriel y Parc yn Nhyddewi, o "gefnu" ar waith celf.
Fe gostiodd yr Oriel £3.5m i'w hadeiladu gyda £1.6m yn dod o gronfeydd Ewropeaidd.
Mae ymgyrchwyr yn y sir wedi cyhuddo'r awdurdod o "wastraffu adnoddau prin" drwy beidio ag arddangos gweithiau celf o bwys yn y galeri.
Yn ôl yr awdurdod, maen nhw'n ceisio creu "gweledigaeth hir dymor" i gwrdd ag "anghenion cynulleidfaoedd y dyfodol".
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Pan agorwyd Oriel y Parc, y bwriad oedd rhoi cartref parhaol i arddangosfeydd rheolaidd o waith yr artist Graham Sutherland a "thrysorau o gasgliad Amgueddfa Cymru" fel rhan o oriel tirlun Sir Benfro.
Mae hi'n bosib arddangos gweithiau celf cain yn y galeri gradd A1 yn Nhyddewi am fod modd rheoli gwres a lleithder ac mae yna fesurau diogelwch priodol yn cael eu gweithredu.

Cafodd yr artist Graham Sutherland ei swyno gan dirlun Sir Benfro
Fe ddaeth yr artist Graham Sutherland i Sir Benfro ym 1934 a chael ei swyno gan y tirlun lleol.
Fe brynwyd rhai o'i luniau gan y canwr David Bowie a'r actores Sophia Loren, a bu'n gyfaill i'r artistiaid enwog Picasso a Francis Bacon.
Fe adawodd Sutherland gasgliad o luniau i'r Cymry, gyda'r gobaith o'u harddangos yn Sir Benfro.
Does dim gweithiau gan Sutherland wedi eu harddangos yn Oriel y Parc ers 2020, a does dim arddangosfeydd mawr o gelfyddyd gain wedi bod yn y galeri ers 2018.

Mae'r artist o Solfach, Nicola Schoenenberger, yn aelod o'r grŵp sydd wedi codi pryderon am Oriel y Parc
Mae artistiaid lleol wedi ffurfio grŵp gweithredu yn sgil pryderon y bydd llai o bwyslais ar arddangos gwaith celf, ac maen nhw wedi ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant.
Dywedodd Nicola Schoenenberger, artist o Solfach sy'n aelod o'r grŵp: "Roedd creu oriel tirluniau i Sir Benfro yn rhywbeth unigryw. Does yna ddim arddangosfeydd celfyddyd gain wedi bod yn yr Oriel ers 2018, a dw'i ddim yn deall pam.
"Rwy'n cael y teimlad bod rhai yn meddwl bod e'n rhy uchel ael. Efallai bod hynny yn sgil diffyg gwybodaeth ynglŷn â beth mae celf yn medru cynnig.
"Mae yna nifer o bobl yn y gymuned sydd yn parchu Graham Sutherland yn fawr, a fyddai'n dymuno gweld ei waith yn dychwelyd."

Byddai'r awdurdod "yn croesawu gwaith gan artistiaid fel Graham Sutherland yn y dyfodol," meddai'r prif weithredwr, Tegryn Jones
Yn ôl Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones, mae gwaith Graham Sutherland wedi cael ei arddangos yn yr oriel yn fwy rheolaidd "nac unrhyw artist arall".
"Ni'n edrych i roi cartref i gasgliad cenedlaethol Cymru yn ei amrywiol ffyrdd yn ogystal â gwaith celf cain," meddai.
"Mae gwaith Graham Sutherland wedi ymddangos yn fwy aml nac unrhyw artist arall.
"Ar hyn o bryd mae gyda ni arddangosfa o bwys am hanes yr RNLI. Mae'n rhan o nifer o arddangosfeydd ar draws Cymru a Lloegr - felly mae o bwys i ardal arfordirol fel ni.
Ychwanegodd: "Yn y gorffennol, 'da ni wedi cael celf gain ac yn sicr yn y dyfodol byddwn yn croesawu gwaith gan artistiaid fel Graham Sutherland ac eraill."

Mae'r hanesydd celf Peter Lord yn bryderus nad yw'r oriel yn cael ei defnyddio i'w llawn botensial
Mae'r hanesydd celf, Peter Lord, wedi rhybuddio rhag "gwastraffu adnoddau prin" ym maes y celfyddydau
"Mae arian cyhoeddus, yn enwedig yn y celfyddydau, mor brin y dyddiau yma," meddai.
"Sai'n gwybod beth sydd yn mynd ymlaen fan 'na rhwng y parc a'r amgueddfa, achos prosiect ar y cyd oedd e. Sai'n gwybod pwy sydd ar fai ond os nag y'n nhw'n gallu neud defnydd priodol o'r oriel yna dwi'n credu bod e'n fater i'r llywodraeth.
"Dwi'n meddwl dylai'r llywodraeth a'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y celfyddydau eu cael nhw at ei gilydd a bwrw pennau at ei gilydd, achos allwn ni ddim fforddio gwastraffu'r adnoddau prin sydd gyda ni."

Mae'r artist Elizabeth Haines yn flin nad yw gwaith Graham Sutherland i'w weld yn Oriel y Parc
Mae'r arlunydd Elizabeth Haines wedi cynnal gweithdai celf i bobl ifanc.
Mae'n dweud bod nifer o ddisgyblion yn "teimlo mwy o gysylltiad" gyda gweithiau celf wrth gael y cyfle i weld lluniau gwreiddiol o safon, ac mae'r cyfle i weld lluniau fel rhai Graham Sutherland yn "bwysig iawn".
"Rhodd oedd y lluniau i bobl Sir Benfro a Chymru. Dyma le sydd wedi denu artistiaid ers blynyddoedd. Ydyn ni yn mynd i wastraffu fe?
"Mae'r lle yma yn barod a'r cyfan wedi ei ariannu. Dw'i ddim yn credu fod y bobl yma yn deall, gallen nhw fyth a deall, fod y pethau yma yn bwysig.
"Mae'n bwysig iawn. Nid rhywbeth 'dymunol' yw'r celfyddydau gweledol yn unig, rhywbeth sydd yn edrych yn dda gyda'r cyrtens."

Ar hyn o bryd, mae Oriel y Parc yn gartref i arddangosfa ar hanes yr RNLI
Mewn datganiad dywedodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu bod wedi "datblygu rhaglen lwyddiannus o arddangosfeydd mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, ar hyd y blynyddoedd".
"Fel awdurdod, rydym wedi ein hymrwymo i greu gweledigaeth i Oriel y Parc sydd yn cwrdd ag anghenion cynulleidfaoedd y dyfodol, ac sydd yn adeiladu ar lwyddiant yr 17 mlynedd diwethaf.
"Fel rhan o raglen i greu uwch gynllun, rydym yn ymgynghori er mwyn llunio'r dyfodol ar gyfer yr adnodd pwysig hwn i ymwelwyr."
Dywedodd Amgueddfa Cymru eu bod wedi cydweithio gydag Oriel y Parc er mwyn "dewis, paratoi ac arddangos rhaglenni amrywiol ac yn parhau i gydweithio ar un arddangosfa y flwyddyn, gan ddathlu 200 mlwyddiant yr RNLI yn yr un mwyaf diweddar - arddangosfa a brofodd i fod yn boblogaidd".
Yn ôl yr Amgueddfa, "os bydd Oriel y Parc yn penderfynu eu bod eisiau cynnwys gwaith Graham Sutherland mewn arddangosfeydd, mi fydd hyn yn rhywbeth y byddwn ni yn fwy na hapus i'w wneud."
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud unrhyw sylw.