Arddangosfa'n dangos perthynas artistig mam a mab

Yr artist Carys Bryn a'i mab Cian
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Carys Bryn yn adnabyddus am ei phaentiadau llawn lliw o dirweddau a byd natur efo paent fel petai wedi cael ei dasgu drostynt. Bellach mae ei mab Cian yn creu enw i'w hun fel artist talentog hefyd - ond mewn arddull hollol wahanol i'w fam.
Darluniau pensaernïol du a gwyn manwl o adeiladau a threfi yw lluniau Cian.
Mae'r ddau yn dangos eu gwaith efo'i gilydd am y tro cyntaf yng Nghanolfan Treftadaeth y Bala fis Mawrth.
Mae Cian, sy'n 33 mlwydd oed, ar y sbectrwm awtistig ac yn gwneud lluniau ers pan mae'n blentyn bach iawn meddai Carys.
"Pan oedd o'n fach fach fach roedd o drwy'r adeg yn gwneud lluniau heb stop," meddai.
"Roedd rhaid imi gael llond y lle o ffelt tips a phapur rownd y rîl iddo fo.
"Mae'n licio adeiladau ac mae ganddo fo arddull cwyrci – dydi o ddim yn sbïo'n ofalus iawn arnyn nhw, mae o jyst yn gallu eu creu nhw heb feddwl llawer."

Cian gydag enghreifftiau o'i waith
Un nodwedd amlwg iawn yng ngwaith Cian yw'r dynion bach prysur mae'n eu darlunio dros ei luniau – mae'n 'stickman mad!' fel mae'n ei ddweud ar ei dudalen Instagram.
"Roedd o'n gwneud y dynion bach priciau erioed, ers pan oedd o'n blentyn bach ac maen nhw wedi gweithio'n grêt efo'r math o luniau mae o'n eu gwneud – mae'n creu llun bach prysur lle mae'r bobl bach yma'n symud ac yn gwneud pob math o bethau," meddai Carys.

"Y stickmen ydi darn hwyl y llun!" meddai Cian. "Dwi'n licio eu gwneud nhw ar awyren, mewn parasiwt, yn dringo mynydd, dringo waliau neu'n cael picnics bach."
Meddai Carys am eu harddulliau: "Mae pawb yn adnabod lluniau Carys Bryn oddi wrth y 'sblats' a fedrith rywun ddim methu bod Cian yn gwneud y stickmen dros ei luniau hefyd."

Wedi 30 mlynedd fel athrawes gelf yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, mae Carys bellach wedi agor ei horiel ei hun lle gall hi a Cian weithio a dangos eu gwaith yn eu cartref yn Rhosfawr ger Pwllheli.
Mae ei merch, Beca, chwaer iau Cian, hefyd yn artist ac yn rhan o'r fenter.

Cydweithio
Gyda gradd mewn celf, gweithio mewn siop ym Mhwllheli gyda'r nos yw gwaith Cian. Fe ddechreuodd wneud y darluniau o drefi ac arwyddion gyda'i fam yn ystod y cyfnod clo pan nad oedd yn gallu gweithio ac mae bellach yn gwneud comisiynau arbennig i bobl.

Carys gyda Cian a Beca yn eu horiel, LleArt
"Mae Mam wedi bod yn inspiration i fi," meddai Cian. "Ond mae Mam yn defnyddio lliwiau yn ei lluniau hi a dwi ddim, dwi'n licio gwneud y llinellau. Dwi'n sgetsio efo pensel gynta' wedyn yn mynd drosto efo beiro du – fine liner.
"Dwi'n licio gwneud requests i bobl. Dwi'n licio eu gwneud nhw oherwydd maen nhw'n rywbeth personol, a dwi'n licio eu gwneud nhw'n hapus.
"Dwi wedi mwynhau tynnu llun erioed a celf oedd fy mhwnc gorau i. Nes i raddio o Goleg Celf Howard Gardens yng Nghaerdydd."
Maen nhw'n cydweithio gyda'r darluniau comisiwn eglura Carys:
"Pan fydd pobl eisiau llun o le, mi rydw i'n chwilio am luniau drwy wahanol gyfryngau a'u hanfon nhw at Cian a mae Cian yn eu gwneud nhw. Mae o'n cydweithio efo fi; dwi'n bwydo lluniau iddo fo a mae o'n dod allan efo'r masterpiece ar y diwedd."

"Dwi'n gwneud llun o Coleg y Bala rŵan," meddai Cian am ei baratoadau ar gyfer yr arddangosfa.
"Dwi di bod efo diddordeb mewn design adeiladau a cestyll a manor houses mawr erioed – dwi'n licio architecture."

Yn sgil ei phrofiad dysgu dros dri degawd mae Carys yn dweud ei bod yn gallu gweld cysylltiad rhwng y meddwl awtistig a'r arddull artistig mae Cian yn ei hoffi.
"Oherwydd fy mhrofiad i fel athrawes ac fel mam i Cian dwi'n teimlo bod y math o sgetshis mae o'n eu gwneud yn perthyn i lot o blant efo awtistiaeth dwi wedi eu gweld. Mae'r rhan fwyaf hefyd yn licio anime, y math yna o luniadu cyflym.
"Mae'n dal i wneud darluniau sydd â dylanwad Siapaneaidd."
Cafodd wireddu breuddwyd yn 2024 a theithio i Japan i weld y wlad a phrofi'r diwylliant.
Mae arddangosfa Cian a Carys Bryn yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Treftadaeth y Bala rhwng 28 Mawrth – 18 Ebrill 2025.
"Mae'n gyfle i Cian ehangu ei orwelion a dangos ei waith i fwy o bobl," meddai Carys.
Bydd yn cynnwys trawstoriad o'u gwaith a gobaith Carys i'r dyfodol ydy gallu creu celf sy'n cyfuno eu steiliau.
"Ro'n i'n meddwl y byse'n syniad newydd i greu hybrid rhwng mam a mab yn enwedig am fod gynnon ni'r berthynas gelfyddydol yma rhyngddon ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2024