Codi 80 baw ci ar strydoedd tref mewn 90 munud
- Cyhoeddwyd
Cododd dwy ddynes sy'n berchen ar fusnes anifeiliaid anwes 80 baw ci mewn 90 munud yn ystod ymgyrch lanhau o gwmpas Aberhonddu.
Dywedodd Lucy Mills bod arwyddion yn rhybuddio pobl i lanhau ar ôl eu cŵn, ond nad oedd hynny'n cael ei ddilyn gyda chamau gorfodaeth digonol.
Yn ôl Cyngor Powys, cyfrifoldeb pobl sy'n mynd â'u cŵn am dro yw glanhau eu baw.
Roedd diffyg wardeiniaid cŵn gweladwy yn broblem yn ôl Lucy Mills.
'Creu argraff ofnadwy'
"Yn Aberhonddu mae'n ymddangos bod problem fawr efo baw cŵn o gwmpas y lle, ond roedd llai ohono ym Mryste, lle'r oeddwn yn byw cynt.
"Ym Mryste mae 'na wardeiniaid cŵn, ac fe gewch eich rhybuddio amdano os nad ydych chi'n codi baw eich ci, ond yma, y cyfan sydd gennym yw arwydd a does dim byd yn digwydd os nad ydych yn pigo'r baw i fyny.
"Mae'n le hyfryd. Mae'n le prydferth, ac mae'n denu lot o dwristiaid ond dwi'n meddwl ei fod yn creu argraff ofnadwy o Aberhonddu os ydych chi'n gorfod pigo'ch ffordd drwy dwmpathau o faw ci."
Roedd Lucy ac Elen wedi neilltuo awr a hanner i fynd rownd canol y dref ar gyfer eu hymgyrch lanhau, ond wnaethon nhw ond llwyddo i gwblhau rhan fechan o'r daith oherwydd bod cymaint o faw ci.
Oherwydd rhesymau glanweithdra a iechyd, mi ddylai perchnogion cŵn fod yn fwy cyfrifol, meddai Lucy.
"Allwch chi ddim hawlio anwybodaeth. Mae pawb sy'n berchen ci yn gwybod eich bod i godi'r baw.
"Dwi'n meddwl mai diogi o bosib, yw'r rheswm, cymryd y bydd rhywun arall yn gwneud hynny ar eich rhan."
Dywedodd Lucy ei bod yn bwriadu ail-adrodd yr ymgyrch lanhau yn yr hydref.
"Be 'dan ni'n bwriadu ei wneud ydi cynnal patrol arall ym mis Medi, pan fydd plant yn ol yn yr ysgolion, a gwneud cymhariaeth.
"Rydym wedi rhoi negeseuon ar dudalen Facebook grŵp cymunedol, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gobeithio.
"Rydym wedi cael lot o sylwadau yn diolch i ni. Mae pobl i weld yn gwerthfawrogi go iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys bod mwyafrif perchnogion cŵn yn bobl gyfrifol ond bod lleiafrif yn gadael eu cymunedau i lawr trwy adael i'w cŵn faeddu yn mannau cyhoeddus.
"Baw cŵn ydy'r sbwriel mwyaf annerbyniol a ffiaidd ar ein strydoedd a'n llecynnau agored," meddai.
"Mae gennym swyddogion ymwybyddiaeth gwastraff a gorfodaeth o gwmpas yn ychwanegu arwyddion ac yn siarad gyda pherchnogion cŵn, tra bod ein glanhawyr stryd yn gwneud eu gorau i lanhau ar ôl y lleiafrif anghyfrifol sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eu hanifeiliaid anwes."
Mae'n drosedd i ganiatau i gi sydd dan eich rheolaeth, faeddu man cyhoeddus a methu a glanhau ar ei ôl, yn syth, a gallwch gael dirwy o £75, hyd yn oed os mai nid chi yw'r perchennog.
Ychwanegodd bod y cyngor yn awyddus i glywed am unrhyw broblemau baw cŵn yn y sir, fel eu bod yn gallu ymchwilio a chymryd camau gorfodaeth yn erbyn y perchennog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2016
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021