Pwll Nofio Llanbed i gau dros dro ar gyfer gwaith 'hanfodol'

Gobaith y cyngor yw cwblhau'r gwaith adnewyddu erbyn 11 Awst
- Cyhoeddwyd
Bydd pwll nofio Llanbedr Pont Steffan yn cau am gyfnod dros yr haf er mwyn cynnal gwaith hanfodol ar y safle.
Mae Cyngor Ceredigion yn dweud bod dros £140,000 yn cael ei wario ar uwchraddio'r offer trin dŵr yn ystafell beirianneg y pwll nofio.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 7 Gorffennaf, a'r nod yw ei gwblhau erbyn 11 Awst.
Mae'r awdurdod lleol yn dweud bod y gwaith wedi ei drefnu i darfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr, gan gadarnhau hefyd na fydd yn effeithio ar y Ganolfan Lles yn y dref.
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, aelod cabinet Ceredigion dros ddiwylliant, hamdden a gwasanaethau cwsmeriaid: "Mae'r pwll, sydd bellach yn 50 mlwydd oed, yn adnodd pwysig, ond er mwyn cynnal y safon ac i wella'r cyfleusterau, mae'n angenrheidiol eu cau dros dro.
"Gobeithiwn na fydd y gwaith yn creu gormod o anghyfleustra i bobl yr ardal."
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu drwy fuddsoddiad gan Gyngor Sir Ceredigion, Llywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.