Rose Datta yn ennill cyfres Y Llais 2025

Bydd Rose yn cael recordio a pherfformio cân wedi'i chyfansoddi gan Mared Williams a Nate Williams fel rhan o'r wobr
- Cyhoeddwyd
Rose Datta o Gaerdydd sydd wedi ennill cyfres Y Llais 2025, yn dilyn pleidlais gan gynulleidfa'r stiwdio.
Ar ôl dod i'r brig yn y rownd derfynol ar S4C nos Sul, dywedodd Rose ei bod yn "hollol gobsmacked" a'i bod wedi cael profiad "anhygoel".
Y pedwar oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol oedd Anna Arrieta, Rose Datta, Liam J Edwards, a Sara Owen.
Dywedodd Aleighcia Scott, hyfforddwr Rose, ei bod hi mor falch ohoni: "Mae wedi bod yn anhygoel i weld hi'n tyfu yn y gystadleuaeth."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
Y Llais yw'r fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd 'The Voice', sy'n ceisio dod o hyd i gantorion newydd sy'n canu'n Gymraeg.
Yn eistedd yn y seddi coch enwog ar Y Llais mae'r hyfforddwyr Ywain Gwynedd, Aleighcia Scott, Bryn Terfel, a Bronwen Lewis.
Buodd y cystadleuwyr yn canu deuawdau gyda'u hyfforddwyr yn ystod rhaglen olaf y gyfres ar 30 Mawrth.
Perfformiodd Rose ag Aleighcia fersiwn o Neb Na Dim (Ain't Nobody – Chaka Khan) - profiad oedd yn "teimlo fel breuddwyd," meddai Rose.
Fel gwobr, bydd Rose yn derbyn y cyfle i recordio a pherfformio cân wedi'i chyfansoddi gan Mared Williams a Nate Williams yn arbennig ar ei chyfer.
Cantores-gyfansoddwraig ydy Mared Williams, ac mae Nate Williams yn gynhyrchydd a cherddor sydd wedi gweithio gyda bandiau fel Take That a Jamiroquai.

Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, a Syr Bryn Terfel ar set Y Llais
Dywedodd Rose nad ydy hi "byth yn mynd i anghofio fe a dwi wedi bod mor ffodus i fod o gwmpas pobl mor neis a caredig, a gwneud ffrindiau mor dda trwy'r holl broses – a fi jyst ffaelu credu fe!"
"Pob tro fi ar lwyfan, mae jest yn 'neud i fi deimlo'n fulfilled. Fi wedi caru canu ers i fi fod yn blentyn ifanc.
Mae'r fuddugoliaeth "yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir," meddai.
Mae Rose eisoes mewn band o'r enw Taran, ac mae hi'n edrych ymlaen at y profiad o gydweithio gyda Mared Williams.
"Fi'n caru 'sgwennu caneuon yn gyffredinol – fi'n teimlo fel bod e'n therapiwtig iawn i fi a fi 'di bod yn neud e ers sbel nawr. A fi'n caru cerddoriaeth Mared."
Ychwanegodd ei bod yn edrych i fyny at Mared.
"O fi'n ffodus iawn i allu gwneud perfformiad yn Pittsburgh yn America haf diwethaf gyda'r Urdd, ac ers hynny o fi'n meddwl byse fi'n caru canu gyda hi ar yr un llwyfan eto ryw ddiwrnod. Fi'n rili edrych lan i hi."