'Mae hanner fy ffrindiau ysgol wedi symud i Loegr'
'Fy mwriad ydy gadael yr ynys ond dod yn ôl pan mae'r amser yn iawn'
- Cyhoeddwyd
"Tua hanner o'n ffrindia' ysgol sydd wedi aros ar yr ynys - mae'r hanner arall wedi mynd dros y border i Loegr."
Cafodd Kieron Salter a Sion Emlyn Lloyd - y ddau yn 25 oed - eu magu ar Ynys Môn.
Ond fel llawer o bobl ifanc yr ynys, mae'r ddau bellach yn byw ac yn gweithio ymhell o adref.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod cyfradd geni'r ynys wedi dirywio'n arw.
Yn 2013 cafodd 763 o fabanod eu geni i famau oedd yn byw ar yr ynys, ond erbyn 2023 roedd wedi gostwng 36% i ddim ond 486.
Yng Nghymru a Lloegr dim ond Ynysoedd Sili a Richmond Upon Thames sydd wedi dangos mwy o gwymp dros y degawd diwethaf.

Mae Sion a Kieron yn dweud fod Cymry ifanc eraill yn gweithio gyda nhw yng Ngwlad yr Hâf
Mae'r cyngor lleol yn cydnabod y peryglon o fod â phoblogaeth sy'n brysur heneiddio.
Maen nhw'n dweud hefyd nad oes digon o swyddi i gadw neu ddenu pobl ifanc yn ôl.
Ond mewn ymgais i wyrdroi'r duedd - gan gydnabod gall denu cyflogwyr mawr gymryd blynyddoedd - mae awydd i fanteisio ar natur yr ynys a photensial gweithio o bell.
'Does yna'm byd ar yr ynys'
Roedd Kieron a Sion wedi bwriadu datblygu gyrfa yn y diwydiant niwclear ar yr ynys.
Ond daeth gwaith cynhyrchu yn Wylfa i ben yn 2015, ac nid oes cynllun i adeiladu gorsaf newydd wedi ei wireddu hyd yma.
"Mae 'na lot o bobl yn gadael yr ynys er mwyn adeiladu'r experience yna," meddai Kieron, sy'n wreiddiol o Langefni.
"Mae lot ohonyn nhw isho symud adra ond does 'na'm brys arnyn nhw ar y funud oherwydd does 'na'm byd ar yr ynys.
"Rhyw ben dwi'n meddwl neith 'na rhywbeth ddod ond ar y funud does 'na'm pwysau ar unrhyw un symud yn ôl adra tan mae'r swyddi yna'n barod."
Ychwanegodd Sion, sy'n dod o Walchmai: "Tua hanner o'n ffrindia' o'r ysgol sydd wedi aros ar yr ynys... mae'r hanner arall wedi mynd dros y border i Loegr neu dros y byd i gyd."

Mae Kieron (chwith) a Sion (dde) yn gweithio yng Ngwlad yr Hâf yn sgil methiant i adeiladu gorsaf niwclear newydd ym Môn
Mae sgil effaith colli 500 o swyddi yn Octel Amlwch yn 2004 a chau Alwminiwm Môn yn 2009 yn dal i gael ei deimlo'n lleol.
A gyda mwy o gyflogwyr wedi gadael ers hynny - fel ffatri brosesu cig 2 Sisters yn 2023 - mae'n anodd dod o hyd i swyddi, yn enwedig rhai sy'n talu'n dda.
Bellach y prif gyflogwyr yn lleol yw'r cyngor sir, porthladd Caergybi, amaethyddiaeth a'r diwydiant twristiaeth, sy'n tueddu i fod yn sector tymhorol.

Mae gorsaf Magnox yn Wylfa, ger Cemaes, yn cael ei ddadgomisiynu ar hyn o bryd
Ond mae yna obaith.
Cafodd statws porthladd rydd ei sicrhau i'r ynys yn 2023 ac mae cynlluniau i fanteisio ar ynni llanw ger Caergybi.
Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor, Dylan Williams, fod datblygu'r economi yn flaenoriaeth a bod denu cyflogwyr yn waith parhaus.
"Mae'n rhaid i bobl gael swydd sy'n rhoi ansawdd bywyd a sicrwydd iddyn nhw," meddai.

Mae Dylan Williams yn cydnabod nad oes digon o gyfleon ar hyn o bryd
"Ar y funud does ganddon ni ddim digon o'r cyfleon yna, dydi'r economi ddim yn ffynu gymaint a fedrith o... mae gynnon ni sectorau sy'n gwneud yn wych fel twristiaeth.
"Ond dwi'n meddwl bod ni angen mwy ac yn fy marn i dwi'n meddwl bod be sy'n digwydd yn yr economi yn gysylltiedig gyda'r data ar y poblogaeth a'r heneiddio."
'Wedi cael digon'
Erbyn hyn mae oed cyfartalog yr ynys wedi codi i 48, o'i gymharu â'r cyfartaledd ar draws Cymru o 42.
Fe allai poblogaeth sy'n heneiddio gael effaith ar wead cymdeithas a'r iaith Gymraeg, gyda phoblogaeth sydd wedi derbyn addysg Cymraeg yn cael ei disodli gan bobl hŷn sy'n aml wedi symud o rannau eraill o Brydain.
Gyda nifer y disgyblion wedi disgyn "yn sylweddol" mewn rhai rhannau o'r ynys, wnaeth y cyngor lansio ymgynghoriad diweddar dros ddyfodol y darpariaeth addysg ôl-16.
Ond mae rhai disgyblion addysg uwchradd eisoes yn gweld eu dyfodol ymhell tu hwnt i Fôn oherwydd y diffyg cyfleoedd.

Mae Jacob, Freddy ac Oli i gyd yn bwriadu symud i ffwrdd
Mae Jacob, Freddy ac Oli, sy'n yn byw yng Nghaergybi ac yn mynd i Ysgol Uwchradd Bodedern, i gyd yn bwriadu symud o'r ardal.
"Does 'na'm llawer o gyfleoedd i bobl ifanc na chyflogwyr mawr ar yr ynys - dim ond Stena sydd yma," meddai Jacob.
"Does 'na'm llawer o swyddi mawr ar yr ynys ers i Wylfa gau."
Dywedodd Daisy fod llawer o'i ffrindiau yn bwriadu mynd i brifysgol dros y ffin, ac fod llawer "wedi cael digon".
Ond ei bwriad, meddai, oedd dychwelyd gyda'i bryd ar weithio gyda'r Awyrlu Brenhinol yn y Fali.

Ond dyhead Daisy a Mai yw dychwelyd yn y dyfodol
Ychwanegodd Mai, sy'n gobeithio dilyn cwrs meddygaeth ym Mangor neu Chaerdydd, mai ei bwriad yw dychwelyd i'r ardal.
"Mae'r profiad o fod mewn dinas fawr yn atynfa i lot o bobl, mae Caerdydd wedi bod yn freuddwyd i mi ers sbel," meddai.
"Ond fy mwriad ydy mynd, cael y profiadau yma, ac erbyn pan mae'r amser yn dod i fagu plant, dod yn ôl i fyny i'r gogledd."

Y gobaith i'r dyfodol yw bydd llai o bobl ifanc yn gadael Môn a pheidio dychwelyd
Ers blynyddoedd mae Aelod Seneddol yr ynys, a chyn-arweinydd y cyngor, wedi codi pryderon dros y newidiadau "anghynaladwy" yn y boblogaeth.
Mae hefyd wedi bod yn feirniadol o fethiant hyd yma i godi atomfa newydd yn y Wylfa, a fyddai'n creu tua 1,000 o swyddi parhaol.
Ond mae Llinos Medi hefyd o'r farn bod angen atebion tymor byr ac i fanteisio ar fusnesau bach a chanolig.

Llinos Medi: "Beth sydd isho ydy dweud wrth ein pobl ifanc ni bod 'na gyfleon yma"
"Wrth i mi siarad hefo cyflogwyr maen nhw'n dweud wrtha'i fod ganddyn nhw lot o swyddi gwag," meddai.
"Felly ydan ni'n plannu'r hadyn anghywir ym mhennau'n pobl ifanc ni lle dydyn nhw ddim hyd yn oed yn chwilio am ddyfodol ar yr ynys am ein bod wedi dweud bod 'na ddim byd yma?
"Mae 'na bosibiliadau yma, ac mae gweithio o bell yn bosib yma rŵan ac ma' ganddon ni fannau yma ar yr ynys sydd hefo cysylltiad digidol yr un mor dda ag ardaloedd eraill ym Mhrydain. Felly mae 'na gyfleon yma hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd23 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024