S4C i ddarlledu holl gemau Cymru yn Euro 2025

- Cyhoeddwyd
Bydd pob un o gemau Cymru yn Euro 2025 yn cael eu darlledu yn fyw ar S4C.
Ym mis Gorffennaf fe fydd tîm menywod Cymru yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol un o'r prif bencampwriaethau am y tro cyntaf.
Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn eu grŵp yn Y Swistir.
Sioned Dafydd fydd yn cyflwyno, gyda Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn dadansoddi a Dylan Ebenezer a Nic Parry yn cwblhau tîm S4C.
Bydd y gemau hefyd yn cael eu darlledu ar y BBC ac ITV yn Saesneg.
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
Bydd Cymru'n chwarae eu gêm agoriadol yn erbyn Yr Iseldiroedd am 17:00 ar 5 Gorffennaf.
Yna, bydd carfan Rhian Wilkinson yn herio Ffrainc am 20:00 ar 9 Gorffennaf cyn wynebu pencampwyr Euro 2022, Lloegr, yn eu gêm olaf yn y grŵp am 20:00 ar 13 Gorffennaf.
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: "Ry' ni wedi gweld twf aruthrol yn y dilyniant i gemau menywod dros y tymhorau diwethaf yn yr Adran Premier ar S4C.
"Mae'n wych y bydd cefnogwyr nawr yn medru dilyn gemau'r tîm cenedlaethol yn yr Euros yn y Gymraeg ar S4C, yr unig sianel lle fedrwch wylio pob un o gemau Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae ymrwymiad y sianel i bêl-droed Cymru yn sicrhau bod y gamp yn cael ei wylio a'i gefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg wrth i garfan Rhian Wilkinson edrych i ysbrydoli'r wlad wrth greu hanes yn eu hymddangosiad cyntaf mewn pencampwriaeth ryngwladol."