Carcharu perchennog cwmni wedi marwolaethau padlfyrddio

Nerys LloydFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Nerys Bethan Lloyd oedd perchennog cwmni Salty Dog oedd yn rhedeg y daith

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-heddwas wedi ei charcharu am 10 mlynedd a chwe mis ar ôl i bedwar person farw ar daith padlfyrddio yr oedd hi'n gyfrifol amdani yn 2021.

Bu farw Paul O'Dwyer, Nicola Wheatley, Andrea Powell a Morgan Rogers ar y daith ar Afon Cleddau Wen, Hwlffordd yn Hydref 2021.

Nerys Bethan Lloyd, 39 o Bort Talbot, oedd perchennog cwmni Salty Dog oedd yn rhedeg y daith. Nid yw'r cwmni'n weithredol ers mis Mawrth 2024.

Er nad oedd bwriad i achosi niwed i'r rhai ar y daith, dywedodd y barnwr bod Lloyd wedi eu rhoi mewn "perygl difrifol" trwy ddewis mynd dros y gored mewn "amodau allai ddim bod yn fwy peryglus".

Dywedodd y barnwr bod diffygion amlwg yn y trefniadau diogelwch gan Lloyd, a'i bod wedi gwrthod awgrym am lwybrau eraill yn "ddiystyriol" gan fod ganddi "fwy o ddiddordeb mewn llwybr cyffrous na diogelwch".

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola WheatleyFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

Fis diwethaf fe blediodd Lloyd yn euog i bedwar cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ac un drosedd o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Ddydd Mawrth yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth teuluoedd y dioddefwyr feirniadu Lloyd yn hallt wrth ddarllen eu datganiadau personol.

Disgrifiodd gŵr Andrea Powell yr hyfforddwraig fel person "twyllodrus", "anghymwys" a "ddim yn ffit i gael bywyd fy ngwraig yn ei dwylo".

Wrth grynhoi ddydd Mercher fe wnaeth y barnwr, Mrs Ustus Mary Stacey, gydnabod na fydd "dim byd y gallaf ei ddweud na'i wneud" yn ddigon i deulu a ffrindiau y rhai y "torrwyd eu bywyd" mor drasig.

Fe wnaeth y rhai a oedd yn rhan o'r daith, llawer ohonynt yn ffrindiau i Lloyd, "ymddiried ynoch", meddai.

"Doedd pedwar o'r rhai oedd ar y daith ddim yn gwisgo siwtiau gwlyb (wetsuits) ac roedd un wedi penderfynu na fyddai angen siaced achub."

Ychwanegodd na fu "unrhyw sesiwn friffio diogelwch" ymlaen llaw, doedd gan yr un ohonynt y math cywir o dennyn ar gyfer eu byrddau mewn amodau o'r fath ac nid oedd gan Lloyd unrhyw fanylion perthnasau agosaf.

Disgrifiad,

Mae fideo o gamerâu'r heddlu'n dangos yr amodau ar yr afon ddiwrnod y digwyddiad

Dywedodd hefyd fod peryglon coredau yn "wybodaeth gyffredin" a bod yna nifer o ddeunyddiau, gan gynnwys llawlyfrau afonydd, sy'n rhybuddio am beryglon cored Hwlffordd "yn enwedig os yw lefelau'r dŵr yn uchel".

Roedd yna "beth ymchwil ar y we" cyn y daith, ond dim tystiolaeth o unrhyw "asesiad risg priodol".

Nododd hefyd nad oedd Lloyd wedi asesu lefelau "profiad a gallu" y rhai ar y daith a doedden nhw ddim wedi cael gwybod am y gored ar yr afon na sut i ddelio gyda hi nag amodau eraill.

Roedd Mr O'Dwyer wedi ymchwilio i lwybrau eraill, ond fe'u "gwrthodwyd yn ddiystyriol gennych chi", ychwanegodd y barnwr.

"Mae'n ymddangos bod gennych fwy o ddiddordeb mewn llwybr cyffrous na diogelwch," ychwanegodd.

'Dim geiriau all ddisgrifio'r dinistr'

Dywedodd yr erlyniad mai dyma drasiedi padlfyrddio waethaf y DU.

"Wrth gynllunio'r daith, fe ddylen nhw fod wedi edrych ar yr holl risgiau posib o'i chwmpas," meddai'r Erlynydd Arbenigol Lisa Rose.

Lleoliad y digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Roedd naw o bobl ar y daith pan aeth pedwar ohonynt i drafferthion ar y gored yma, y tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd

"Ar y diwrnod penodol hwnnw, roedd y gored mewn cyflwr peryglus. Roedd glaw trwm sylweddol wedi bod yn y dyddiau blaenorol, ac roedd rhybudd llifogydd yn ei le."

Ychwanegodd Ms Rose fod Nerys Lloyd wedi dilyn "cwrs hyfforddi deuddydd sylfaenol iawn" oedd ond yn ei chymhwyso i fynd â phobl allan ar "ddyfroedd cymharol lonydd neu afonydd sy'n symud yn araf".

"Yn syml, ni ddylai hi [Nerys Lloyd] fod wedi mynd ar yr afon y diwrnod hwnnw," meddai.

"Rwyf wedi cyfarfod â'r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad trasig hwn. Nid oes unrhyw eiriau a all ddisgrifio'r dinistr ac effaith y digwyddiad angheuol hwn."

Map o safle'r digwyddiad yn Hwlffordd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 ar fore Sadwrn 30 Hydref 2021 wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.

Bu farw Mr O'Dwyer o Aberafan, Ms Rogers o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley o Bontarddulais yn yr afon.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn 2022, fe wnaeth adroddiad swyddogol feirniadu'r ffordd y cafodd y daith ei threfnu.

Fe wnaeth arolygydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) ddweud bod y ddamwain yn "drasig ac y gellir fod wedi ei hosgoi".

Clywodd y llys nad oedd Lloyd na'i phartner busnes Mr O'Dwyer "yn gymwys o bell ffordd" i gynnal teithiau o'r fath, gan taw dim ond "cymhwyster lefel mynediad sylfaenol" oedd ganddyn nhw.

Nerys Lloyd yn cyrraedd y llysFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd bargyfreithiwr Nerys Lloyd ei bod yn bosib na fyddai'n "gwella'n seicolegol" wedi'r digwyddiad

Ddydd Mercher fe glywodd Llys y Goron Abertawe ran o ddatganiad a gafodd ei ddarllen ar ran Nerys Lloyd, lle dywedodd ei bod hi'n derbyn "y bai'n llawn" am y marwolaethau.

Dywedodd y cyn-heddwas yn ei datganiad ei bod wedi colli dau ffrind agos y bore hwnnw: "Mae'r boen i mi yn anfesuradwy ond mae'r boen i'r teuluoedd yn annioddefol."

Ddydd Mawrth cafodd Lloyd ei beirniadu gan deuluoedd y dioddefwyr am rannu lluniau ohoni yn dathlu gweld goleuadau'r Nadolig ar gyfryngau cymdeithasol wythnosau wedi'r digwyddiad.

Dywedodd bargyfreithwr yr amddiffyniad, Mr Elias KC, wrth y llys nad yw cyfryngau cymdeithasol "yn dweud y stori'n llawn" a bod Lloyd "wedi plymio yn ôl i fywyd er mwyn ceisio blocio allan yr hyn oedd wedi digwydd".

Mae'n derbyn ei bod wedi gwneud dioddefaint y rhai yr effeithiwyd arnynt yn "waeth", clywodd y llys.

Fe bwysleisiodd Mr Elias KC "bod yna gynllun i fynd dros y gored" a bod y diffynnydd yn gofyn i'w hun hyd heddiw, "pam na wnes i gerdded ymhellach i wirio'r gored?" ar fore'r daith.

Dywedodd wrth y llys bod grym y dŵr wedi cario Lloyd dros y gored ac nad oedd modd iddi arwain neb arall. Disgrifiodd sut wnaeth hi straffaglu i badlo yn ôl at y grŵp oedd wedi mynd i drafferthion cyn cael ei llusgo i ffwrdd gan y llif.

Y rheswm ei bod wedi pledio'n euog i'r cyhuddiadau, ychwanegodd, oedd nad oedd hi a Mr O'Dwyer wedi mynd draw i'r gored y bore hwnnw ac felly doedd yna ddim rhybudd.

"Roedd hi'n arwain y grŵp a oedd yn cynnwys ffrindiau, ffrindiau gorau a phobl roedd hi'n eu hadnabod, i lawr afon, roedd pawb yn credu y byddai'n ddiwrnod gwych."

Ychwanegodd ei bod yn "bosib na fydd hi byth yn gwella'n seicolegol", ond mae'n cydnabod bod y "galar y mae'n ei deimlo'n ddibwys", o gymharu â phoen y teuluoedd.

Ychwanegodd y bydd Lloyd "wastad yn yn byw gyda'r dioddefaint a rannwyd gan y teuluoedd dewr".

'Heb gael gwybod am 12 awr'

Mewn teyrnged dywedodd mam Morgan Rogers mae ei merch "brydferth" oedd ei "ffrind gorau" - a'i bod wedi bod yn "dair blynedd a saith mis hir ers ei cholli".

"Oherwydd esgeulustod Nerys Lloyd, ni chefais wybod am farwolaeth fy merch am dros 12 awr," meddai.

"Hyd yn oed wedyn, roedd hi'n 12 awr nes i mi ei hadnabod yn ffurfiol.

"Doedd hi [Nerys Lloyd] methu rhoi manylion Morgan i'r heddlu, gan nad oedd hi hyd yn oed wedi trafferthu cael manylion cyswllt brys Morgan - rhag ofn y byddai damwain."

Dywedodd gŵr Nicola Wheatley bod marwolaeth ei wraig, oedd yn fam i ddau o dan 10 oed, wedi "chwalu" y teulu.

"Collodd dau blentyn ifanc eu mam," meddai. "Bu farw Nicola mewn amgylchiadau oedd yn gwbl bosib eu hosgoi."

Ychwanegodd mai penderfyniadau Nerys Lloyd wnaeth arwain at farwolaeth y pedwar person, a rhai "Nerys yn unig".

Angen gweld 'pa wersi sy'n cael eu dysgu'

Mae'r corff llywodraethu ar gyfer padlfyrddio, Paddle UK, yn dweud bod yr achos wedi cael "effaith enfawr ar draws y diwydiant".

Dywedodd y Cyfarwyddwr Hamdden a Datblygu, Lee Pooley, eu bod yn rhannu "negeseuon diogelwch yn seiliedig ar dystiolaeth mewn cymunedau, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n prynu byrddau padlo yn cael cyngor ar y pwynt gwerthu".

Dywedodd Aelod o Senedd Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, bod angen edrych ar yr achos ymhellach.

Dywedodd Cefnin Campbell: "Mi fyddwn i'n gobeithio bod y Senedd yn edrych ar yr achos yma ac hefyd y weithrediaeth iechyd a diogelwch i weld pa wersi sy'n cael eu dysgu ac os oes angen i'r Senedd i ddeddfu ar fater fel hyn, mae angen i hynny ddigwydd."

Pynciau cysylltiedig