Gallai gwyliau ysgol amrywio gan nad ydy cynghorau'n cytuno

- Cyhoeddwyd
Gallai problemau godi i rieni gyda gofal plant a threfnu gwyliau wrth i gynghorau ar draws Cymru fethu â chytuno ar ddyddiadau tymhorau ysgol.
Mae 13 o gynghorau, gan gynnwys Caerdydd a Wrecsam, am i hanner tymor y gwanwyn 2027 ddechrau yn gynnar ym mis Chwefror, ond mae naw arall, gan gynnwys Abertawe a Chasnewydd, am iddo ddechrau wythnos yn ddiweddarach.
Os bydd hyn yn digwydd, fe allai teuluoedd sydd â phlant mewn ysgolion gwahanol gael plant adref ar adegau gwahanol.
Mae Cyngor Powys hefyd am i wyliau'r haf ddechrau ar 16 Gorffennaf 2027 - sydd ychydig ddyddiau ynghynt na'r awdurdodau eraill, ac yn dechrau cyn Sioe Frenhinol Cymru.
Yn ôl ymgynghoriad, dolen allanol, gafodd ei gyhoeddi ddechrau mis Mawrth, mae Llywodraeth Cymru'n ystyried defnyddio ei phwerau i orfodi ysgolion i ddefnyddio'r un dyddiadau.
Beth ydy'r cynlluniau?
Os ydy pob awdurdod lleol yn cael y dyddiadau y maen nhw'n eu dewis, mi fyddai'r ysgolion yn yr awdurdodau lleol canlynol yn cael eu hanner tymor rhwng 8 a 12 Chwefror 2027, ac yn gorffen ar gyfer gwyliau'r Pasg ar 19 Mawrth:
Ynys Môn
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerdydd
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Merthyr Tudful
Powys
Rhondda Cynon Taf
Bro Morgannwg
Wrecsam
Yn y cyfamser, mi fyddai ysgolion yn yr awdurdodau isod yn cael eu hanner tymor rhwng 15 ac 19 Chwefror, gyda gwyliau'r Pasg yn dechrau ar 25 Mawrth:
Blaenau Gwent
Caerffili
Sir Gaerfyrddin
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Abertawe
Torfaen
Mae'r ddogfen ymgynghori gan y llywodraeth yn nodi: "Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth, mae gweinidogion Cymru yn bwriadu cyhoeddi'r cyfarwyddyd yn amodol ar ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig safoni'r dyddiadau yn unol â'r grŵp sydd â mwy o ysgolion ynddo.
Felly, byddai hanner tymor Chwefror rhwng 8 a 12 Chwefror 2027, a gwyliau'r Pasg yn dechrau ar 19 Mawrth 2027.
Ond, mi fyddai'r llywodraeth yn caniatau i Gyngor Powys wneud trenfiadau i ddechrau eu gwyliau'r haf yn gynt er mwyn "adlewyrchu parch mawr gweinidogion Cymru at werth diwylliannol ac economaidd sylweddol Sioe Frenhinol Cymru".
Aeth y ddogfen ymlaen i ddweud eu bod yn credu y bydd dyddiadau cyson "o fudd i'r sector twristiaeth" a bod "yr hanfodion polisi hynny yn gorbwyso'r awydd i gael gwyliau gwahanol yn y gwanwyn, gan ystyried y rhesymau a roddwyd gan yr awdurdodau lleol".
Mae modd ymateb i'r ymgynghoriad tan 25 Mai 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023