Cyhoeddi enillydd cyntaf Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar

Roedd Elen yn awyddus i ddangos pwysigrwydd cymuned yn ei phrosiect
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd cyntaf Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar wedi cael ei gyhoeddi.
Elen Gwen Williams, sy'n 29 oed ac yn dod o Ddyffryn Clwyd, sydd wedi dod i'r brig - a hynny am ei syniad ar gyfer eitem newydd i'w ddarlledu ar blatfformau S4C.
Cafodd ei phrosiect 'Calon Cefn Gwlad' sy'n dilyn digwyddiad Cneifio Cyflym Hiraethog ger Dinbych, ei ganmol am ei ffocws ar gymuned a threftadaeth amaethyddol Cymru.
Bydd Elen - sydd bellach yn byw ar Ynys Môn - yn derbyn y wobr yn seremoni agoriadol y Ffair Aeaf yn Llanfair-ym-Muallt ar 24 Tachwedd.

Cafodd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar ei lansio ar faes Y Sioe Frenhinol yn 2025 er cof am y cyflwynydd a'r ffermwr adnabyddus
Yn wreiddiol o fferm deuluol yn Nyffryn Clwyd, ymddangosodd Elen ar Cefn Gwlad pan ymwelodd y cyflwynydd Dai Jones Llanilar â'r fferm, gan ei gofio fel "cymeriad" a oedd "wastad yn rhoi ei amser i bobl".
Dywedodd Elen, sy'n gweithio i Gymdeithas Amaethyddol Môn, fod y prosiect yn deyrnged i Dai, a fu farw yn 2022, ac i'w brawd Elgan hefyd, a fu farw yn 2004, oedd yn caru amaethyddiaeth "a phobl yn mwynhau".
"O'n i isio dangos pa mor bwysig ydy cymuned a phobl yn dod at ei gilydd a'r ysbrydoliaeth yna. Mae ysgolion lleol yn cau, mae tafarndai'n cau, mae'n bwysig cadw rhywbeth 'mlaen yn y gymuned."
Dywedodd Elen ei bod hi'n "falch iawn ac yn ffodus iawn" o fod yr enillydd cyntaf, gan weld y wobr goffa yn gyfle hollbwysig i bobl ifanc cefn gwlad Cymru.
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, y byddai'r wobr yn meithrin cyfathrebwyr gwledig y dyfodol ac yn sicrhau bod gwaddol Dai Jones yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd

- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022