'Pobl ifanc ddim yn gweld dyfodol yn sector theatr Cymru'

TheatrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygu strategaeth ar gyfer pobl ifanc yn "ganolbwynt" i adroddiad newydd gan Dr Jon Gower

  • Cyhoeddwyd

Dydi nifer o bobl ifanc ddim yn gweld dyfodol yn sector theatr Cymru, yn ôl y sylwebydd celfyddydau Dr Jon Gower.

Mae'r awdur a'r darlledwr wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda datblygu strategaeth ar gyfer pobl ifanc yn "ganolbwynt".

Mae yna gryn ansicrwydd wedi bod yn y sector ers i'r penderfyniad gael ei wneud i roi'r gorau i roi nawdd blynyddol i National Theatre Wales.

Mae'r adroddiad - y cyntaf o dri a fydd yn ymddangos cyn yr haf - yn cynnwys 25 o argymhellion i adfywio'r sector, gan ganolbwyntio ar y theatr Saesneg yng Nghymru.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Gower bod "nifer o bobl greadigol talentog tu hwnt ddim yn medru gweithio [yn y sector]".

Jon Gower
Disgrifiad o’r llun,

"Wnes i siarad hefo cwpl o bobl dalentog iawn yn eu hugeiniau yn gofyn iddyn nhw 'beth yw eich dyfodol yn y theatr?' a dywedodd nhw 'does 'da ni ddim dyfodol yn y theatr'"

Dywedodd Dr Gower bod gwneud yr adolygiad wedi bod yn "broses boenus" wrth iddo siarad â 120 o bobl ar draws y wlad.

Roedd nifer o bobl greadigol ddim yn medru gweithio, meddai, ac maen nhw'n gweld be ddigwyddodd i'r National Theatre Wales yn gam yn ôl i'r sector.

"Y peth pwysicaf nes i ddarganfod wrth wneud yr adroddiad," meddai, "wnes i siarad hefo cwpl o bobl dalentog iawn yn eu hugeiniau yn gofyn iddyn nhw 'beth yw eich dyfodol yn y theatr?' a dywedodd nhw 'does 'da ni ddim dyfodol yn y theatr'."

Ychwanegodd: "Roedd pawb yn agored gan ddadlennu'r gwir plaen wrthyf. Hanfod y theatr yw cydweithio ac felly nid oedd yn syndod bod pobl mor barod â'u syniadau am annog uchelgais a sicrhau cynaliadwyedd y sector."

Beth yw'r argymhellion?

Mae'r argymhellion wedi cael eu derbyn yn fras gan Cyngor Celfyddydau Cymru a fydd yn datblygu cynllun i'w gweithredu.

Ymhlith y prif argymhellion mae:

  • Dyddiadau cau penodol o ran ariannu cynyrchiadau theatr;

  • Creu panel theatr ag aelodaeth amrywiol a chynrychioliadol o Gymru a thu hwnt i oruchwylio'r cynllun gweithredu;

  • Cronfa i gefnogi gwaith ar raddfa fwy a llywio'n well ymchwil a datblygiad y theatr;

  • Calendr blynyddol o ddigwyddiadau a mentrau hyfforddi â'r nod o gryfhau'r sector a chynyddu gallu marchnata lleoliadau a dadansoddi data.

Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau: "Bydd rhai camau yn y cynllun gweithredu'n gallu digwydd yn gynt nag eraill.

"Mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau bod yr adroddiad yn llywio newid strwythur arian y Loteri a dod o hyd i gyfleoedd i ariannu ysgrifennu newydd a datblygu gwneuthurwyr theatr.

"Cyfarfod mis Mai ein Cyngor fydd yn ystyried yn fanylach bob un o'r 25 argymhelliad."

Pynciau cysylltiedig