A fydd newid i'r môr o las yn y gogledd ddwyrain?
- Cyhoeddwyd
Wedi etholiad cyffredinol 2019 roedd yna fôr o las ar draws y gogledd ddwyrain, gyda'r Ceidwadwyr yn cipio nifer o seddi oedd wedi cael eu hystyried yn seddi traddodiadol Llafur.
Mae'n ardal all weld newid eto yn yr etholiad hwn, a'r pleidiau i gyd yn brwydro'n galed dros y seddi allweddol yma.
O gael blas o'r farn ar draws y gogledd ddwyrain, dywedodd llawer eu bod eisiau i rywbeth newid, ond eto does 'na fawr o frwdfrydedd am beth allai ddod nesaf chwaith.
Wrth deithio o un etholaeth i'r llall fe glywais pobl yn dweud eu bod wedi dadrithio gyda gwleidyddiaeth, ac yn teimlo nad yw gwleidyddion yn gwrando ar eu pryderon.
Ar y sgwâr yn Llanrwst, ble ddechreuais fy nhaith, fe ddywedodd Marc Owen wrtha i ei fod o'n poeni fod tai yr ardal yn rhy ddrud i bobl ifanc.
"Dydi pobl ddim yn meddwl am yr election," meddai, "maen nhw'n dismayed efo'r parties."
Wrth siarad ag Enfys Roberts oedd yn mynd â'i phlant ifanc am dro drwy'r dre', roedd hi'n teimlo fod "pobl yn dueddol o fotio am yr un hen bethau", er ei bod hi'n gobeithio am newid yn lleol y tro hwn.
Fel rhan o etholaeth Aberconwy gynt, mae Llanrwst wedi cael ei chynrychioli gan y blaid Geidwadol ers 2010.
Mae'n rhan o etholaeth Bangor Aberconwy erbyn hyn, sy'n un o brif dargedau'r Blaid Lafur ar draws y DU.
Mae Carwyn Jones, sy'n gweithio mewn siop gigydd, yn edrych ymlaen i bleidleisio am y tro cyntaf.
Fel rhywun sy'n byw mewn ardal wledig, mae o'n teimlo y dylai'r "adran amaeth gael gwell cefnogaeth gan y llywodraeth, a trio sicrhau bod bwyd y wlad yn dod o Gymru".
'Dim gymaint o ddiddordeb'
Rhuthun oedd y stop nesaf ar fy nhaith, yn etholaeth Dwyrain Clwyd, ac ymysg perchnogion rhai o siopau'r dref roedd 'na bryder am gostau byw, ond arwydd eto o ddadrithiad mewn gwleidyddiaeth.
Mae Gwilym Evans o siop Elfair yn teimlo bod yna "sinigiaeth na all gwleidyddion wireddu eu haddewidion".
Tebyg oedd y neges yn siop ddillad Tudor Jones.
"Does dim cymaint o ddiddordeb yn yr etholiad yma," meddai, ac mae'r "newyddion negyddol yn rhoi pobol i ffwrdd".
Mewn sesiwn chwarae i fabanod yn y llyfrgell, roedd y stori yn un gyfarwydd - galw am fwy o arian i wasnaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd.
Yn ôl Rhian Roberts oedd yna gyda'i hwyres: "Pwy bynnag sydd mewn llywodraeth, fe ddyla' nhw sicrhau bod gwasanaethau yn cryfhau."
Er bod iechyd wedi'i ddatganoli, dyna oedd y prif bwnc trafod rhwng Susan Corey a'i ffrindiau hefyd yn Rhosllanerchrugog, oedd yn cael coffi wedi eu dosbarth Zumba.
Maen nhw bellach yn rhan o sedd newydd Maldwyn a Glyndŵr - sedd ddylai fod yn un saff i'r Ceidwadwyr.
Ond unwaith eto roedd 'na bryder na fydd fawr yn newid, waeth pwy sy'n llywodraethu wedi'r etholiad.
"Dwi'n meddwl bod pobl 'di cael syrffed, a dweud y gwir," meddai Elen Hughes wrtha'i.
"Mae popeth lawr yn Gaerdydd wastad, a 'dan ni'n teimlo fyny fa'ma bo' ni ddim yn cael cyfiawnder, a dweud y gwi.r."
Ond "mae 14 o flynyddoedd yn amser hir i pwy bynnag sydd yna" yn ôl Iola Williams, ac mae hi'n meddwl "ei bod hi'n amser beth bynnag i gael newid".
Mae'r arolygon barn yn awgrymu y gallen ni weld newid mawr ar draws etholaethau'r gogledd ddwyrain.
Cawn weld ymhen wythnos pwy fydd etholwyr yn penderfynu ei gefnogi y tro yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin