'Cenhedlaeth o blant' yn gweld effaith toriadau ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolion yn gorfod torri staff a chynnig llai o gefnogaeth ar gyfer lles ac ymddygiad disgyblion yn sgil "argyfwng" ariannu, yn ôl undeb addysg.
Dywedodd un pennaeth, sydd eisoes yn wynebu diffyg o dros £100,000, fod anghenion disgyblion yn dwysau wrth i gyllidebau grebachu.
Roedd pob un o dros 400 o ymatebion i arolwg gan undeb penaethiaid yr NAHT yn dweud nad oedd eu hysgol yn derbyn digon o gyllid i ateb gofynion disgyblion yn llawn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn gwarchod ariannu ysgolion gymaint â phosibl".
Mae Ysgol Gymunedol Maes y Morfa, lle maen nhw eisoes wedi gorfod torri nôl ar staff, yn dal i wynebu diffyg o £110,000 yn y gyllideb flwyddyn nesaf.
"Mae'n anodd ar y foment achos 'sdim digon o staff da ni", meddai Caitlyn Miller, un o gynorthwywyr yr ysgol.
"Ni 'di colli tri aelod o staff yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae mwy a mwy o blant gydag anghenion yn dod fan hyn a ni ddim yn gallu rhoi'r gefnogaeth iddyn nhw achos does dim digon o staff 'da ni.
"Ni 'di cael support staff i ddod mewn gyda'r supply ond mae hynna'n costio lot so ni ddim yn gallu fforddio hynny hefyd. Mae'n rili anodd", ychwanegodd.
Yn ôl Louise Jones, pennaeth yr ysgol, mae'n sefyllfa bryderus iawn.
"Mae'n broblem anferth. Mae popeth yn mynd lan, a chyllidebau'n mynd yn llai, a fi'n credu bod angen mwy o arian yn y system addysg achos dyma bobl y dyfodol."
Mae gan yr ysgol broblem ymsuddiant (subsidence) sy'n effeithio ar gynnal a chadw'r adeilad, ond mae'r pennaeth yn cydnabod y gallai fod yn waeth.
"Mae 'na lawer o ysgolion sy' â hen adeiladau, ac mae llawer o'u harian yn mynd ar hynny, ar ben y problemau staffio.
"Mae'n effeithio ar y genhedlaeth hon o blant, ac mae'n mynd i effeithio ar eu dyfodol."
Fe wnaeth arolwg o 416 o aelodau undeb penaethiaid NAHT Cymru ganfod fod mwy na hanner yn disgwyl diffyg yn y gyllideb yn y flwyddyn academaidd hon - cynnydd sylweddol ers arolwg y llynedd.
Yn ôl yr arweinwyr ysgolion - sy'n bennaf yn dod o'r sector cynradd - maen nhw wedi gorfod torri swyddi athrawon a chynorthwywyr dysgu yn ogystal â'u horiau gwaith.
Dywedodd y rhan fwyaf fod cefnogaeth i ddisgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn gost sylweddol, yn ogystal â chyflogau staff a thalu am athrawon cyflenwi.
Yn ôl Laura Doel, Ysgrifennydd Cenedlaethol NAHT Cymru, mae rôl penaethiaid yn newid yn sgil y wasgfa ar gyllidebau.
Mae penaethiaid mewn ardaloedd gwledig fel Powys, Sir Benfro a Sir Gâr, "yn camu yn ôl i mewn i'r ystafell ddosbarth i ddysgu - mae hynny'n golygu nad ydyn nhw'n arwain eu hysgolion."
"Mae 'na ysgolion yng Nghaerdydd sy'n diswyddo cynorthwywyr dysgu, ac ry'n ni'n gwybod bod y cynorthwywyr hynny yn hanfodol ar gyfer darparu cefnogaeth i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
"Does gennym ni mo'r adnoddau bellach i allu darparu hynny i'r plant."
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr "arian sy'n cael ei bennu ar gyfer cyllidebau ysgolion, gan gynnwys arian i staff ysgolion, yn cael ei benderfynu gan lywodraeth leol - dydyn ni ddim yn ariannu ysgolion yn uniongyrchol".
"Rydym wedi cynyddu'r arian i lywodraeth leol, ac ail-flaenoriaethu'r gyllideb addysg fel ein bod ni'n gallu gwarchod ariannu ysgolion gymaint â phosibl, gan wario mwy yn y meysydd sydd o dan y pwysau mwyaf."
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig mae "camreolaeth Llafur o'r gyllideb addysg eisoes wedi cael effaith negyddol ar ysgolion ledled Cymru".
"Bydd toriadau pellach yn gwneud niwed difrifol i ddyfodol ein plant", meddai llefarydd addysg y blaid, Tom Giffard.