Carfan bêl-droed menywod Cymru yn mentora'r genhedlaeth nesaf

Merched yn chwarae pêl-droed.
Disgrifiad o’r llun,

Mae pêl-droed menywod "wedi tyfu gymaint dros y pum mlynedd diwethaf," meddai Tianna Teiser

  • Cyhoeddwyd

Roedd carfan bêl-droed menywod Cymru yn arwain gŵyl o ddathlu yn Nhrefforest ger Pontypridd bnawn Sul.

Syniad y chwaraewyr oedd 'Ein Dathliad, Amdani Hi' - cyfle iddyn nhw fentora'r genhedlaeth nesaf mewn awyrgylch hwyliog a llawn sbri.

"Mae'n wych i weld," meddai ymosodwr Cymru, Tianna Teiser.

"Mae mwy fel dathliad oherwydd mae pêl-droed menywod, especially ymhlith yr ifanc, wedi tyfu gymaint dros y pum mlynedd diwethaf ac mae just yn ddathliad a hoffwn i hefyd ysbrydoli'r merched ifanc".

Yn ôl Bethan Woolley, sy'n arweinydd strategaeth menywod a merched gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol - 230 o ferched rhwng pedair ac 16 mlwydd oed wedi cofrestru.

Merched yn chwarae pêl-droed.

Ffordd o ddiolch i'r cefnogwyr am eu cefnogaeth ydy'r ŵyl, wrth i'r garfan baratoi ar gyfer pencampwriaethau'r Ewros yn y Swistir fis Gorffennaf.

Trwy weithio ar y cyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chynlluniau Huddle a BE.FC roedd yn gyfle i ferched o bob rhan o Gymru rhwng 4 a 16 oed dderbyn hyfforddiant.

Dywedodd Bethan Woolley bod yr ŵyl yn boblogaidd.

"Dwi'n meddwl bo' ni'n sold out ar ôl dwy awr o roi o allan sydd yn wicked ond dy'n ni ddim yn gallu cael cyfle i bawb ar draws Cymru heddiw ond mae hwn yn rhywbeth 'da ni eisiau cario mlan.

"Ma' gweld y merched yn cael hwyl a gweld y merched o'r tîm cenedlaethol eisiau gwneud pethau fel yma a dod lawr a bod yn rhan - mae wir yn ysbrydoledig."

I'r plant a phobl ifanc roedd yn ddiwrnod i'w drysori.

"Roedd Olivia wedi dod i'n grŵp ni" meddai Carys, "ac roedden ni wedi gwneud fel cones o gwmpas y lle ac wedyn ni'n cael rhifau ac wedyn roedden ni angen mynd yn y gôl".

'Chwarae gyda bechgyn'

Roedd chwaraewr canol cae Cymru, Carrie Jones yn chwarae gyda bechgyn pan oedd hi'n iau - mae pethau yn sicr wedi newid nawr gyda chyfleoedd di-ri i ferched chwarae gyda'i gilydd.

"Ro'n i jyst yn chwarae gyda bechgyn, a ro'n i wrth fy modd ond byddai'n neis os oedd na tîm o ferched achos dyna lle chi'n cael eich ffrindiau chi a pethau fel na."

Mond un gêm gystadleuol sydd ar ôl bellach cyn i'r merched droi am y Swistir - mae'r disgwyliadau'n fawr ond mae digwyddiadau fel yr un yma yn eu hatgoffa o'r hwyl sydd i'w gael o chwarae.

Pynciau cysylltiedig