AS Môn wedi poeni am ei diogelwch ers cael ei hethol
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn dweud ei bod hi wedi poeni am ei diogelwch ambell dro ers cael ei hethol ym mis Gorffennaf.
Wrth siarad â rhaglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru dywedodd Llinos Medi bod llefarydd y tŷ yn San Steffan wedi codi'r pwnc o ddiogelwch gyda hi.
"Dwi yn ffitio'r proffil yna o gael fy nhargedu oherwydd 'mod i 'chydig yn 'fengach ac yn sengl," meddai.
"Dwi wedi cael amgylchiadau lle dwi wedi teimlo yn gwbl anghyfforddus.
"Ond mae hyn yn rhywbeth lle ma' isio troedio yn ofalus - achos mae angen bod yn gyfforddus yn eich cymuned oherwydd dyna lle ydach chi, dyna pwy ydach chi, ond mae angen cymryd y camau diogelwch o ddifri'.
"Dwi'n ffeindio hynny yn heriol, achos dwi ddim isio addasu fy ffordd i o fyw yma ym Môn, ond dwi hefyd yn gorfod bod yn ofnadwy o aeddfed a meddwl am fy niogelwch fy hun."
'Digon o gythraul ynddo fi'
Mae sicrhau diogelwch yn her i wleidyddiaeth a gwleidyddion y dyfodol, meddai Ms Medi.
"Yr her ydy sut i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael yr unigolion cywir i mewn i wleidyddiaeth, os 'di'r elfen ddiogelwch yn mynd i fod yn creu pryder iddyn nhw a bod nhw ddim yn rhoi eu hunain ymlaen.
"Oherwydd 'da ni isio sicrhau bod gynno ni'r gwleidyddion gora' posib yn gneud penderfyniadau drostan ni."
Yr elfen arall ydy'r cyfryngau cymdeithasol, lle mae pobl – yn ôl yr Aelod Seneddol – yn fodlon gwneud sylwadau na fydden nhw fyth yn eu dweud wyneb yn wyneb.
Mae hi'n dweud bod rhaid dysgu peidio â gadael i hynny ddylanwadu gormod arni, a'i bod hi'n teimlo'n gryf bod rhaid bwrw 'mlaen â'i gwaith.
"Mae 'na ddyletswydd arna fi i'w 'neud o.
"Ella bod 'na ddigon o gythraul ynddo fi, a dwi'n siŵr bod 'na ferched eraill hefyd hefo'r un cythraul.
"Ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r sefyllfa, mynd i mewn i'r sefyllfa yn gwybod be' ydy o ac o leia' mae rhywun wedi ei baratoi yn feddyliol.
"Fedra i ddeall pam fasa rhai merched yn penderfynu peidio â'i 'neud o."
'Bywyd dydd i ddydd dal ar yr ynys'
Llinos Medi ydy'r fam sengl gyntaf i gynrychioli Ynys Môn yn San Steffan, ac mae'n cydnabod fod cael y cydbwysedd rhwng bod yn fam i ddau a bod yn wleidydd yn gallu bod yn anodd.
Ond mae hi'n dweud eu bod nhw fel teulu wedi cael sawl trafodaeth cyn iddi roi ei henw ymlaen fel ymgeisydd.
Dywedodd bod ei phlant, Elliw a Twm, yn hynod o gefnogol ac yn ei gwthio i fynd amdani.
"Mae Elliw mewn un ffordd yn lwcus - wedi mynd i brifysgol ac wedi mynd ar ei llwybr ei hun ac yn ffeindio ei thraed ei hun," meddai Ms Medi.
"I Twm, mae o adra a dydy Mam ddim adra'. Dwi'n ffodus iawn o fy Mam fy hun, sydd wedi camu i'r bwlch.
"Weithiau dwi wedi landio adra wedi hanner nos ac er efallai 'mod i'n cael llai o oriau o gwsg mae'n well gen i ddeffro [adref] nac yn Llundain.
"Felly mi ddoi adra yn ystod yr oriau mân os oes rhaid, a dwi wedi gweld fy hun ar lawr ei lofft o yn chwilio am wisg ysgol sydd isio ei rhoi yn y washing machine a ballu.
"Dyna ydy'r peth – mae fy mywyd i o ddydd i ddydd yn dal ar yr ynys."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024