Y misoedd ers dod yn aelod seneddol 'yn dipyn o siwrnai'
- Cyhoeddwyd
"Roedd y misoedd cyntaf fel whirlwind", medd yr Aelod Seneddol Llafur, Claire Hughes, wrth iddi edrych yn ôl ar y cyfnod ers iddi cael ei hethol.
Mae'n dweud bod ennill sedd Bangor Aberconwy wedi bod yn dro ar fyd iddi hi.
"Roedd cymaint i'w wneud a cymaint i'w ddysgu. Roedd angen adjustio yn sydyn iawn," meddai.
Wrth i Lafur gipio grym am y tro cyntaf ers 14 mlynedd ddechrau Gorffennaf, roedd yna newid mawr yng Nghymru.
Fe gollodd y Ceidwadwyr bob un o'u seddi, ac fe gafodd 13 o aelodau newydd eu hethol i San Steffan.
Felly sut mae'r chwe mis diwethaf wedi bod i'r aelodau newydd?
"Mae 'di bod yn dipyn o siwrnai," meddai Ann Davies, AS Caerfyrddin ac un o ddau aelod newydd Plaid Cymru.
"Heb Ben (Lake) a Liz (Saville Roberts), bydden i wedi boddi," meddai, wrth iddi gyfeirio at ddau aelod profiadol o'r tîm.
Un o'r heriau cyntaf i'r ddwy oedd delio efo'r llwyth gwaith o'r diwrnod cyntaf, heb staff i'w helpu.
"Mae 'di synnu fi, y diwrnod cyntaf ges i fy ethol, y dydd ar ôl 'ny, roedd e-byst yn dechrau dod i fewn," meddai Ann Davies.
Yn ôl aelod Caerfyrddin, mae hi'n cael "ymhell dros 200 e-bost bob dydd".
"Mae pobl angen help, mae pobl eisiau gwybod pethau, mae 'na lot i'w wneud", meddai Claire Hughes, sy'n dweud ei bod hi di gorfod "hit the ground running" o'r diwrnod cyntaf un.
Ond mae hi'n dweud ei fod wedi bod yn help mawr fod gymaint o bobl yn yr un sefyllfa â hi, gan ychwanegu bod yna "griw da iawn o Gymru" yn San Steffan ar hyn o bryd.
Erbyn hyn mae hi'n rhannu swyddfa gydag aelod newydd arall, Catherine Fookes, AS Mynwy.
Ond mae 'na lygoden sy'n ymwelydd cyson hefyd, problem reit rheolaidd yn San Steffan er ei bod yn "quite cute" yn ôl yr Aelod Seneddol.
Gyda dau o blant yn eu harddegau, mae Claire Hughes yn dweud bod gweithio i ffwrdd yn ystod yr wythnos yn gallu bod yn heriol ar adegau.
Yn ddiweddar, bu farw ei chi tra'r oedd hi'n gweithio yn Llundain, a dywedodd ei bod yn "teimlo mor drist" nad oedd hi'n gallu bod efo'r teulu.
"Mae pethau fel 'na yn anodd iawn. Ond dyna'r job hefyd".
Ond er gwaetha'r heriau, mae'r ddwy yn dweud eu bod yn mwynhau'r swydd yn fawr.
Yr un foment sy'n aros yn y cof i Ann yw'r diwrnod cyntaf yr aeth hi i Lundain o Gaerfyrddin. Daeth dros gant o bobl i'w gweld yn mynd.
"O'n i ddim yn disgwyl hynny. Oedd o'n shwt ffarwel," meddai.
Ychwanegodd Ms Davies: "Ti'n teimlo pwysau yr etholaeth ar dy 'sgwyddau a dwi jysd moyn gwneud y gorau dwi'n gallu i'r bobl sydd wedi rhoi eu ffydd yna i.
"Mae'n waith caled, ond fel unrhyw beth yn y byd hyn, os wyt ti'n gwneud unrhyw beth, ti'n gwneud e i orau dy allu."
"O'n i'n meddwl y bydden i'n teimlo yn hollol chwithig yng nghanol y sefydliad yma.
"Ond dwi ddim wedi bod. Dwi'n credu dwi wedi setlo lawr yn iawn a certainly ddim ofn siarad lan dros Gaerfyrddin a'r hyn sy'n bwysig i'r etholwyr."
Er bod bywyd yn wahanol iawn i'r ddwy erbyn hyn, maen nhw'n teimlo eu bod wedi ymgartrefu yn San Steffan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf