Eglwys yng Nghymru i fuddsoddi £10m i ddenu cynulleidfaoedd
- Cyhoeddwyd
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi bron i £10m mewn pedwar prosiect mawr i ddenu cynulleidfaoedd newydd ar draws y wlad.
Bydd prosiectau yng ngogledd ddwyrain Cymru, yn Abertawe ac yn Sir Fynwy yn cael grantiau gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu mentrau, canolfannau a chymunedau eglwysig newydd.
Bydd eglwysi hyb yn cael eu sefydlu yn y canolbarth a’r gogledd ddwyrain, bydd tîm o genhadon yn cael ei benodi mewn ardaloedd gwledig, bydd tîm arall yn cysylltu ag ysgolion a bydd buddsoddiad sylweddol i eglwys yng nghanol dinas Abertawe.
Gobaith y prosiectau, yn ôl Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, ydi y byddant yn helpu’r eglwys i “ymestyn at bobl sydd falle’n galw’u hunain yn ysbrydol ond nid crefyddol, ymhlith pobl ifanc, ymhlith pobl difreintiedig.”
“Os ni’n buddsoddi, ac yn trio gweld pethau mewn ffordd newydd, nid yn y ffordd hen ffasiwn, ond ehangu y ffordd o weinidogaethu da ni’n darparu, dwi’n siŵr bod 'na ddyfodol da,” ychwanegodd.
Chwe Eglwys Hyb Cenhadol yn esgobaeth Llanelwy
Bydd un o’r pedwar prosiect newydd yn creu chwe ‘Eglwys Hyb Cenhadol’ newydd yn esgobaeth Llanelwy, diolch i fuddsoddiad o £4.6m.
Rhwng 2024 a 2030, y bwriad yw creu chwe prosiect hyb, gan ddechrau gydag Eglwys yr Holl Saint, Y Drenewydd, Eglwys Crist, Prestatyn ac Eglwys San Silyn, Wrecsam.
Mae’r esgobaeth eisoes wedi sefydlu pedwar prosiect hyb llwyddiannus o’r fath ers 2021 yn - Y Trallwng, Bae Penrhyn, Yr Wyddgrug a Threffynnon.
Mae pob hyb yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer rhedeg a thyfu eglwys ac yn cael ei arwain gan Offeiriad Hyb Cenhadol profiadol, gyda chefnogaeth offeiriad cyswllt a gweinidog lleyg.
Cenhadon arloesol mewn ardaloedd gwledig
Bydd dros £1m yn cael ei fuddsoddi ar yr ail brosiect, hefyd yn esgobaeth Llanelwy, i greu tîm o genhadon arloesol mewn ardaloedd gwledig - yn enwedig yn ardal Trefaldwyn yn ne'r esgobaeth.
Bydd y gwaith yn cynnwys cefnogi cenhadu mewn cynulleidfaoedd eglwysig yn ogystal â chysylltu gyda phobl yn eu cymuned, mewn ysgolion a thafarndai, a thrwy ddigwyddiadau cymdeithasol a gwledig.
Gweithio gyda'r gymuned yn Abertawe
Mewn prosiect arall, gwerth £2.8m dros bum mlynedd, Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Abertawe fydd yr eglwys gyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi yn eglwys fystwyr (minster)
Mae’n deitl sy’n cael ei roi ar eglwys fawr neu bwysig, yn enwedig ar eglwys golegol neu eglwys gadeiriol, ac mae'n adlewyrchu pwysigrwydd Eglwys y Santes Fair i'r ddinas.
Yn ôl Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John: “Mae’r eglwys yn sefyll reit yng nghanol y ddinas felly mae’r potensial yn enfawr.
“Does dim canolfan, ar hyn o bryd, i bobl ddod i mewn, felly fydd rhan o’r arian yn mynd ar ailwampio’r eglwys.”
Dywedodd Ficer y Santes Fair, Canon Justin Davies: “Bydd yn galluogi cyflogi aelodau newydd o staff, yn glerigwyr a gweithwyr lleyg, gan gynyddu ein gallu i wasanaethu cymuned canol dinas Abertawe - boed yn breswylwyr, gweithwyr, ymwelwyr, ffoaduriaid neu pobl ddigartref.”
Fe gafodd Eglwys y Santes Fair ei hailadeiladu yn y 1950au ar ôl cael ei dinistrio yn ystod blitz y Natsïaid dros dri diwrnod yn yr Ail Ryfel Byd.
Gwaith cenhadol yn ysgolion Mynwy
Yn y pedwerydd o’r prosiectau newydd, bydd Esgobaeth Mynwy yn derbyn £1m i helpu meithrin perthynas gryfach gydag ysgolion.
Bydd y prosiect yn darparu Arloeswr Ymgysylltu ag Ysgolion (SEP) ar gyfer pedwar lleoliad – Gogledd Sir Fynwy, Dwyrain Caerdydd, Islwyn, a’r Fenni.
Mae’r prosiect pum mlynedd yn canolbwyntio ar feithrin perthynas gyda disgyblion oed cynradd ac uwchradd, eu rhieni, athrawon a’r teulu ysgol ehangach mewn modd sy’n mynd y tu hwnt i wasanaethau ysgol.
Cronfa Twf yr Eglwys
Mae’r grantiau’n cael eu rhoi o Gronfa Twf yr Eglwys, lle mae’r Eglwys yn buddsoddi £100m i gyd mewn menter arloesol i gefnogi prosiectau ar gyfer efengylu ledled Cymru.
Mae Cronfa Twf yr Eglwys wedi ei datblygu o raglen ddiweddar arall gan yr Eglwys yng Nghymru, sef y Gronfa Efengylu.
Mae’r cynllun hwnnw wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu i greu cynulleidfaoedd sy’n tyfu’n gyflym mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys yn Stryd yr Hôb yn Wrecsam ac Eglwys Citizen yng Nghaerdydd, yn ogystal â’r prosiect arloesol, Pererin, sydd yn datblygu llwybr pererinion yng Ngwynedd.
'Dyfodol yn dda'
Er bod tueddiad i nifer yr addolwyr ostwng, mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, yn teimlo’n ffyddiog am y dyfodol ac am cymaint o arian.
“Mae’n benderfyniad dewr i wario dros 100 miliwn o bunnau ar brosiectau newydd, ond mae’n dangos bod, nid yn unig y clerigion ond pobl sy’n gweithio gyda’r eglwys yng Nghymru, yn gweld bod y dyfodol yn dda.”
Ychwanegodd: “Mi fydd 'na ffigyrau newydd yn dod allan yn fuan fydd yn dangos bod, ar ôl covid, oedd yn amser anodd i’r eglwys, bod y ffigyrau wedi dychwelyd, a bod pobl nawr yn dod nôl at yr eglwys.”
Ond o weld mwy o eglwysi hyb yn cael eu ffurfio, oes perygl y bydd eglwysi eraill yn gorfod cau wrth i wasanaethau gael eu canoli?
“Mae na beryg o hynny,” meddai Archesgob Cymru “ac, wrth gwrs, wrth weld faint o eglwysi sydd gyda ni, mae’n rhaid i ni fod yn ddoeth a gweld ydyn ni eisiau pob adeilad.
“Ond cyn i ni droi at jyst cau ein heglwysi, y cwestiwn pwysicaf yw oes modd i ni ailwampio’r eglwys a darparu rhywbeth newydd yn ein cymunedau? - canolfan ar gyfer pobl ifanc, canolfan banciau bwyd neu ddarparu tai fforddiadwy i bobl?
"Os bod rhaid i ni gau eglwysi [fe fydd hynny] ar gyfer rhywbeth newydd a chreadigol,” ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012