Sut mae denu mwy o bobl ifanc i weithio ym maes coedwigaeth?

Byddai Sophie Davies yn hoffi gweld mwy o bobl ifanc yn y maes
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am fwy o bobl ifanc i fentro'r i faes coedwigaeth wrth i'r llywodraeth geisio tyfu'r sector yng Nghymru.
Y disgwyl ydy y bydd y galw byd-eang am bren yn cynyddu bedair gwaith erbyn 2050.
Ond mae ystadegau'n awgrymu fod disgwyl i Gymru golli 20% o'i gweithlu yn y maes erbyn 2030.
Bwriad y llywodraeth ydy gwneud mwy o ddefnydd o goed Cymreig a chreu swyddi ym maes coedwigaeth a'r diwydiant adeiladu.
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn holi barn y cyhoedd cyn mynd ati i sefydlu strategaeth newydd yn ddiweddarach eleni.
Y Gymraeg yn 'hanfodol'
Fe astudiodd Sophie Davies, 24, yn y maes drwy gyfrwng y Gymraeg yn y coleg a'r brifysgol.
"Mae'n iaith dwi'n gyfforddus ynddi felly yn enwedig yn y maes yma lle 'da chi'n siarad efo lot o bobl wahanol - lot o ffermwyr, lot o bartneriaethau - mi oedd y Gymraeg yn hanfodol," meddai.
"Mi faswn i wir yn hoffi gweld mwy o bobl ifanc yn y maes yma, a dwi'n meddwl drwy brentisiaethau a thrwy gyfleoedd gwaith i bobl ifanc lleol ydy'r ffordd i fynd."

Mae Ben Ellis (chwith) a Luke Davies (dde) wedi elwa o gynlluniau prentisiaeth
Yn 2022, y Deyrnas Unedig oedd y mewnforiwr net ail fwyaf yn y byd o gynnyrch coedwigoedd, gyda China ar frig y rhestr.
Mewn stad o dai ym Mhenrhyndeudraeth yng Ngwynedd, mae adeiladwyr yn codi tai o goed sydd wedi'u tyfu yn ardal Y Bala.
Mae Ben Ellis, 19, yn brentis sy'n gweithio i gwmni adeiladu, ac wedi elwa o hyfforddi yn y maes.
Dywedodd pa mor bwysig oedd hi i ddefnyddio cynnyrch lleol i godi tai yng Nghymru: "Mae'n rili pwysig yn enwedig efo'r ecosystem a gwastraff ac ati."
Fe ddilynodd Luke Davies, 23, gynllun prentisiaeth hefyd ac mae bellach mewn gwaith ers dwy flynedd a hanner.
"Ti'n dysgu a chael dy dalu wrth wneud o hefyd, felly mae'n dda i fynd amdani," meddai.

Roedd Emyr Parker yn awyddus i gael swydd yn yr awyr agored a gwneud "gwahaniaeth i fyd natur"
Mae Emyr Parker, 25, yn rheolwr coedwig i gwmni TilHill Forestry.
Mae'n credu ei bod hi'n "bach o struggle cael pobl ifanc i'r sector".
"Does dim digon mewn ysgolion i addysgu pobl bod yna swyddi yna," meddai.
"Mae lot yn gwybod am ddatgoedwigo yn yr Amazon, ond dim dyna yda ni'n 'neud yma.
"'Da ni wastad yn restockio, wastad yn 'neud siŵr bod bob dim yn cael ei wneud yn hollol dda o ran bywyd gwyllt a'r amgylchedd."

Y dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies yn ymweld ag ardal Penrhyndeudraeth
Dywedodd y dirprwy brif weinidog, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd, Huw Irranca-Davies fod y sector goedwigaeth yn cynnig "swyddi gwyrdd â chyflog uchel, sydd hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd".
"Rydym am i'n coedwigoedd ddod â manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru am ganrifoedd lawer i ddod," meddai.
Ond mae ffigyrau yn dangos mai 640 hectar o goetir newydd gafodd eu creu yng Nghymru yn 2023.
Mae hynny'n ostyngiad sylweddol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dim ond 12% o darged blynyddol Llywodraeth Cymru o 5,000 hectar.
Wrth ymateb i hyn, dywedodd Huw Irranca-Davies: "Rhan o'r strategaeth yma mewn gwirionedd yw i annog mwy o blannu coed, mewn coetiroedd sydd gennym gyda chyrff cyhoeddus, ond hefyd gyda thyfwyr masnachol hefyd."
Bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agor tan ganol Ebrill, gyda'r bwriad o sefydlu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren yn ddiweddarach eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024