Y murluniau sy'n llenwi sir Conwy â lliw

- Cyhoeddwyd
Mae pum murlun newydd bellach i'w gweld mewn trefi ledled sir Conwy, fel rhan o brosiect celf cymunedol.
Yr arwyddwr traddodiadol lleol, Tomos Jones, yw un o'r artistiaid oedd yn rhan o brosiect LLENWI gan Creu Conwy, sydd wedi addurno waliau ym Mae Colwyn, Llandudno, Conwy, Abergele a Llanrwst.
Dathlu hanes y trefi
Waliau diarffordd ar hyd llwybrau doedd yna ddim llawer o bobl yn eu cerdded sydd wedi eu dewis i gael eu paentio fel rhan o'r prosiect yma a gafodd ei ariannu drwy gynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Roedd Tomos a'r artist digidol, Livi Wilmore, wedi dod yn fuddugol mewn proses dendro gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Tomos yn gweithio ar y murlun yn Llandudno
Yn ôl Tomos, sy'n dod o Benmaenmawr yn wreiddiol, roedd sawl pwrpas i'r prosiect yma:
"I gasglu straeon ac atgofion pobl leol, i ddathlu'r iaith Gymraeg, a denu pobl i ardaloedd o drefi oedd ddim yn derbyn lot o ymwelwyr.
"Roedd rhaid gneud proses ymgynghori gyda'r cyhoedd; roedd rhaid iddo fo fod yn bwrpasol i'r dref a dathlu hanes."

Mae geifr Llandudno bellach wedi eu hanfarwoli mewn paent ar wal yn Llandudno
Doedd Tomos a Livi ddim wedi cydweithio o'r blaen, ac roedd hyn yn cynnig y cyfle perffaith i allu gwneud hynny, meddai:
"'Naethon ni gwrdd gynta fel rhan o brosiect arall. 'Dan ni 'di dilyn gwaith ein gilydd, a dyma oedd yr amser i ni gydweithio.
"Roedd hi'n gyffrous iawn i ddod â'r ddau beth at ei gilydd – maen nhw'n hollol wahanol, sgiliau traddodiadol a sgiliau newydd sbon digidol."
Cyfuno genres gwahanol
Aethon nhw ati i ychwanegu trydydd elfen o greadigrwydd i'r broses, drwy wahodd y bardd, Dr Rhys Trimble, i ysgrifennu cerdd i gydfynd â phob murlun, wedi eu hysbrydoli gan gyfraniadau'r gymuned.
Yn ystod haf 2024, cafodd gweithdai eu cynnal gyda'r artistiaid a'r bardd, lle cafodd cannoedd o aelodau o'r gymuned a disgyblion ysgolion gyfrannu eu straeon ac argraffiadau o'u bro.
Ac yna, roedd hi'n amser creu...

Tomos yn gweithio ar y murlun ym Mae Colwyn
"Roedd o'n gydweithrediad rhwng y gymuned, Rhys a ni, ond ni oedd y last port of call, i fynd drwy bopeth, a dewis y darnau oedd yn ein hysbrydoli ni.
"Ein dewis ni oedd i gynnwys Rhys, a weithiodd hynny allan - roedd y geiriau ganddo i gyd yn wych. O'dd hynny'n dylanwadu arnon ni rhywfaint hefyd. Ond roedd pob darn o gelf yn wahanol.
"Roedd yn ffordd hollol wahanol i weithio i mi; o'dd hwnna'n cŵl, ac yn sialens."

Poster gig ffug yw'r murlun newydd ym Mae Colwyn
Wrth sefyll o flaen pob murlun, y peth cyntaf sydd i'w weld yw gwaith celf Tomos, sy'n cynnwys rhai o eiriau Rhys.
Ond ar bob paentiad, mae cod QR hefyd; o'i sganio gyda'ch ffôn clyfar, gallwch ddarllen cerdd Rhys a phrofi gwaith celf digidol, realiti estynedig (augmented reality) Livi yn dod yn fyw.

Wrth sganio'r cod QR cewch weld gwaith realiti estynedig Livi, darllen cerdd Rhys a chlywed mwy o straeon am y dref
Mae pob un wedi rhoi ei stamp unigryw ei hun ar y gwaith, drwy eu genres gwbl wahanol – ond gyda phopeth yn plethu i wneud un darn cyflawn o gelf.
"Mae fy narnau i yn rhan o'r bigger picture, felly pan ti'n ei roi o at waith Livi a'r barddoniaeth, mae o i gyd yn gneud synnwyr," eglurai Tomos.
"Ond 'da ni 'di trio gneud o fel bo' ti'n gweld pob un rhan fel gwaith unigol hefyd."
Y geifr a'r posteri gigs
Felly beth sydd bellach i'w weld ym mhob tref?
"Yn Llandudno, 'da ni 'di dathlu darn o chwedloniaeth y dre, sef y geifr enwog, a'r geiriau ydi 'Blew geifr, glaw a geir'. Yn Llanrwst, 'da ni'n dathlu hanes y lle fel tref farchnad a'r gymuned agos yno.
"Homage i bosteri gigiau Dixieland ar y pier, sydd ym Mae Colwyn. Roedd 'na fandiau mawr yn chwarae yna, fel the Dammed a Motörhead. Dwi 'di cyflwyno geiriau Rhys fel poster gig.
"Y geiriau ar furlun Abergele ydi 'Gwell crefft na golud', o flaen yr olygfa o'r dref o gyfeiriad Llanddulas.
"Ar gyfer un Conwy, 'nes i benderfynu gneud dathliad o'r symbolau sy'n eiconig i'r dref. Ac ar hen fapiau Conwy, mae gen ti'r archways drwy'r wal - Porth y Gogledd, Porth y Gorllewin... a gan fod hwn mewn drws siâp bwa, mae hwn fel y pumed porth, sef Porth y Llenwi, ac mae'r gwaith AR yn cymryd mantais o hynny hefyd."

Conwy: Murlun Tomos (chwith) a chelf digidol Livi (dde), porth sy'n mynd â chi i gopa Mynydd Conwy, gydag efaill-gastell Conwy - Castell Himeji yn Japan - i'w weld yn y pellter
Ar ôl misoedd o gynllunio, cafodd y gwaith paentio gan Tomos i gyd ei wneud yn y deufis diwethaf – dipyn o her yn ystod misoedd y gaeaf, meddai!
Felly tybed pa un yw ei hoff furlun?
"Mae'n anodd deud; mae gen i rai am wahanol resymau. Conwy achos ei fod o'n sialens – 'nes i weithio mwy ar hwnna mwy nag unrhyw beth arall yn fy mywyd, rhyw 200 awr dwi'n meddwl.

Murlun enfawr Llanrwst
"Pan o'n i'n y broses o'u darlunio nhw, roedd gen i ffefryn, ac mae hwnna 'di newid ers i mi eu paentio nhw; mae nhw wastad yn edrych yn wahanol in the flesh.
"Dwi'n rili licio un Abergele. A dwi'n licio un Llanrwst achos yr impact ar y wal enfawr; mae o tua 10m o hyd."
'Dechrau positif'
Nawr, â gwaith yr artistiaid wedi dod i ben, mae hi'n amser i'r gymuned fwynhau ffrwyth eu llafur, ac mae Tomos yn gobeithio y bydd y gweithiau yn sbarduno mwy o brosiectau celfyddydol cyhoeddus tebyg ledled y gogledd:
"Mae o'n ddechrau rili positif.
"Dwi'n meddwl fod gogledd Cymru bach tu ôl o ran gwaith celf yn y cyhoedd. Roedd 'na hen furluniau Ed Povey, ac mae rhai dal yn parhau, ond 'da ni ddim 'di gweld dim fel'na ers hynny.
"Dwi'n gobeithio y bydd 'na fwy o fuddsoddiad yn mynd i fewn i ddathlu'r talent yng ngogledd Cymru; mae o'n world class, os oes ganddon ni gefnogaeth.
"Mae ganddon ni bum murlun mawr sy'n dod â dwy set o sgiliau hollol wahanol at ei gilydd, barddoniaeth wedi ei gyflwyno mewn ffordd newydd, ac yn dathlu'r iaith Gymraeg; mae o'n briliant i'w weld!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd17 Ionawr