Gemau cofiadwy Cymru a Gwlad Belg

Hal Robson - KanuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hal Robson-Kanu

  • Cyhoeddwyd

Nos Lun bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, gêm sy'n teimlo fel un sy'n rhan sefydlog o'r calendr pêl-droed rhyngwladol erbyn hyn.

Dyma fydd y ddegfed gêm rhwng y ddwy wlad ers 2012.

Mae'r cyfnodau yma wedi gweld sawl gêm gofiadwy, gyda rhai o sêr y byd yn wynebu ei gilydd mewn rhai gemau.

Ar un ochr roedd Aaron Ramsey a Gareth Bale i Gymru a'r ochr arall Eden Hazard a Romelu Lukaku i'r Belgiaid.

Roedd y ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd gymaint o weithiau erbyn 2022, nes i Kevin de Bruyne o Man City ddweud ei fod wedi cael "llond bol chwarae yn erbyn Cymru."

Dyma gipolwg felly ar ambell i un o'r gemau cofiadwy hynny rhwng y ddwy wlad - ac mae na rai cofiadwy wedi bod gan gynnwys y fuddugoliaeth gyntaf yn 1990 a'r gôl gofiadwy yna gan Hal Robson-Kanu.

1990 Cymru 3-1 Gwlad Belg

Ian Rush
Disgrifiad o’r llun,

Ian Rush sgoriodd gôl gyntaf Cymru yn y fuddugoliaeth

Daeth y fuddugoliaeth gyntaf mewn gêm gystadleuol yn erbyn Gwlad Belg yn 1990 yn ystod ymgyrch y ddwy wlad i geisio cyrraedd Euro 1992.

14,274 o bobl oedd ym Mharc yr Arfau ar 17 Hydref i weld Cymru yn mynd ar ei hôl hi yn y gêm yma, cyn brwydro'n ôl i ennill 3-1.

Terry Yorath oedd rheolwr Cymru ar y pryd. Bruno Versavel sgoriodd i'r Belgiaid yn gyntaf wedi 24 o funudau cyn i Ian Rush unioni yn fuan wedyn.

Dean Saunders a Mark Hughes sgoriodd ddwy gôl hwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru.

Ymgyrch siomedig oedd hi i'r ddwy wlad yn y diwedd wrth i'r ddau fethu â chyrraedd y rowndiau terfynol yn Sweden.

1993 Cymru 2-0 Gwlad Belg

Gary Speed a Georges GrunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gary Speed a Georges Grun yn brwydro am y bêl

Erbyn 1993 roedd Cymru yn cymryd rhan mewn ymgyrch newydd i geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn yr UDA yn 1994.

Unwaith eto o dan reolaeth Terry Yorath fe enillodd Cymru o 2-0.

Fe sgoriodd Ryan Giggs ei gôl gyntaf dros Gymru gyda chic rydd wych.

Ian Rush sgoriodd ail gôl Cymru'r noson honno.

Fe chwaraeodd y ddwy wlad yn erbyn ei gilydd ddwywaith eto yn ystod y 90au a hynny yn 1997, gyda Chymru yn colli'r ddwy gêm.

2015 Cymru 1-0 Gwlad Belg

BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn sgorio unig gôl y gêm yn 2015

Mae 10 mlynedd i'r mis hwn ers i gefnogwyr Cymru wirioneddol gredu fod gan y tîm siawns o gyrraedd Euro 2016.

Roedd y canlyniad yma yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn enfawr yn hanes yr ymgyrch ragbrofol.

Hon oedd y bedwaredd gêm rhwng y ddwy wlad ers 2012 gyda'r canlyniadau cynt yn rai cymysg, ond doedd Cymru heb ennill ddim un o'r gemau.

Roedd Gwlad Belg yn mynd drwy eu hoes aur o ran y sêr oedd yn eu carfan ac roedd ambell un yn awgrymu fod ganddyn nhw gyfle i ennill Euro 2016 yn gyfan gwbl.

Roedd y Belgiaid wedi ennill eu pum gêm gyntaf rhagbrofol ac roedden nhw'r ail dîm gorau yn y byd ar restr detholion FIFA.

Daeth unig gôl y gêm diolch i Gareth Bale a fanteisiodd ar gamgymeriad yn amddiffyn Gwlad Belg cyn taro'r bêl heibio i Thiabut Courtois yn y gôl.

Kevin De Bruyne, Christian Benteke, Eden Hazard, Dries Mertens dim ond i enwi rhai o'r sêr oedd yn nhîm Belg y noson honno.

Ond roedd perfformiadau campus gan chwaraewyr fel Jazz Richards, Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen yn ddigon i Gymru ennill ar noson fythgofiadwy mewn awyrgylch anhygoel yng Nghaerdydd.

2016 Cymru 3-1 Gwlad Belg

Robson Kanu yn sgorio ail gôl Cymru yn erbyn Gwlad BelgFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robson-Kanu yn sgorio ail gôl Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn 2016

Efallai mai dyma'r gêm bwysicaf a mwyaf cofiadwy erioed rhwng y ddwy wlad.

Rownd wyth olaf Euro 2016 yn Stade Pierre Mauroy yn Lille.

Roedd y Belgiaid yn un o'r ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth a nhw ddechreuodd ar y droed flaen. Ergyd Hazard yn y munudau cychwynnol yn cael ei arbed ar y llinell gan amddiffynnwr Cymru, James Chester.

O fewn 13 munud fe suddodd calonnau cefnogwyr Cymru ar ôl i ergyd bwerus Radja Nainggolan ganfod cefn y rhwyd.

Ond, chwarter awr yn ddiweddarach roedd Cymru yn gyfartal. Peniad pwerus y capten, Ashley Williams o gic gornel Aaron Ramsey yn unioni'r sgôr.

Cyfle ar ôl cyfle wedyn i'r Belgiaid gydag Eden Hazard a Marounae Fellaini yn mynd yn agos at sgorio, nes y foment hanesyddol a drodd y gêm ar ei phen.

Doedd gan Hal Robson-Kanu ddim clwb pan oedd yn chwarae yn Euro 2016, ond roedd sawl un yn ciwio am ei lofnod ar ôl ei wylio'n troi ar ei sawdl, twyllo tri amddiffynnwr y Belgiaid a sgorio gôl gampus i Gymru.

I roi coron ar y cyfan fe sgoriodd Sam Vokes yn hwyr yn y gêm i daflu'r Belgiaid allan a sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru.

Nesaf i dîm Chris Coleman oedd gêm yn y rownd gyn derfynol yn erbyn Portiwgal, ble gollodd nhw o 2-0.

Portiwgal aeth yn ei blaenau wedyn i ennill Euro 2016 drwy guro Ffrainc yn y rownd derfynol.

Robson KanuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robson-Kanu yn troi ar ei sawdl i sgorio yn erbyn Gwlad Belg

Siom 2021 - 2022

De BruyneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kevin de Bruyne yn erbyn Cymru yn 2021

Rhwng mis Mawrth 2021 a Medi 2022 fe chwaraeodd y ddwy wlad bedair gêm yn erbyn ei gilydd.

Dyma pryd ddywedodd y chwaraewr ganol cae sydd ar fin gadael Man City, Kevin De Bruyne ei fod wedi cael llond bol o chwarae yn erbyn Cymru.

Yn 2021 fe enillodd y Belgiaid o 3-1. Roedd Cymru erbyn hyn dan ofal Rob Page ac er i Harry Wilson roi Cymru ar y blaen, fe enillodd Gwlad Belg y gêm yn gyfforddus diolch i goliau gan Kevin De Bruyne, Thorgan Hazard a Romelu Lukaku.

Cafwyd dwy gêm gyfartal 1-1 wedyn ym mis Tachwedd 2021 a Mehefin 2022.

Y tro diwethaf i'r ddwy wlad gwrdd oedd ym Medi 2022, gyda Gwlad Belg unwaith eto yn ennill o 3-1.

2025?

BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Craig Bellamy yn siarad cyn y gêm nos Lun

Hyd yma dyw Cymru heb golli gêm dan arweiniad Craig Bellamy.

Erbyn hyn mae carfan y ddwy wlad yn edrych yn hollol wahanol i'r hyn welodd cefnogwyr y ddau dîm yn 2015 a 2016.

Mae Gwlad Belg yn mynd fewn i'r gêm nos Lun ar gefn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gogledd Macedonia nos Wener.

Maen nhw'n bedwaredd yn y grŵp, ond maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn llai na Chymru sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd.

Bydd Nico Williams a Dan James yn absennol i Gymru ac mae Bellamy wedi rhybuddio ei chwaraewyr i gadw golwg ar asgellwr dawnus y Belgiaid, Jeremy Doku.

Mae gan Bellamy brofiad o weithio gyda Doku tra'r oedd yn hyfforddi yn Anderlecht.

Yn ei gynhadledd i'r wasg cyn y gêm, dywedodd Bellamy y gallai Doku "eich colli mewn blwch ffôn, mae mor ddawnus â hynny".

Bydd Cymru yn gobeithio adeiladu ar eu perfformiadau a'u canlyniadau diweddar ac ymestyn y fantais sydd ganddyn nhw ar frig grŵp J a chymryd cam yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd 2026.