Cofio'r diwinydd 'hynod o ddisglair' John Heywood Thomas

John Heywood ThomasFfynhonnell y llun, Y Gymdeithas Ddysgedig
  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r Parchedig Athro John Heywood Thomas, y diwinydd adnabyddus o Lanelli, sydd wedi marw'n 98 oed.

Bu'n darlithio ym mhrifysgolion Durham a Manceinion cyn dod yn Bennaeth Diwinyddiaeth ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor y Celfyddydau ym Mhrifysgol Nottingham.

Ar ôl iddo ymddeol cafodd ei wneud yn Athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor.

Yn dad i'r ddiweddar ddarlledwraig Nicola Heywood Thomas, roedd yr Athro Thomas yn cael ei ystyried yn ddiwinydd "hynod o ddisglair".

Bu farw merch yr Athro Thomas, y ddiweddar Nicola Heywood Thomas, yn 2023
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw unig ferch yr Athro Thomas, y ddiweddar Nicola Heywood Thomas, yn 2023

Fe gyhoeddodd yn helaeth ac "yn ystod ei ymddeoliad fe gafodd gyfle i wneud cyfraniad i astudiaethau crefyddol yng Nghymru a hynny'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg," medd ei gyfaill yr Athro Densil Morgan, cyn-Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Bangor.

Yn 2022 cyhoeddodd y gyfrol Ar y Ffin sef cyfieithiadau o waith Paul Tillich i'r Gymraeg.

"Y ddau feddyliwr roedd yn awdurdod arnynt oedd yr ysgolhaig Søren Kierkegaard a'r diwinydd Paul Tillich.

"Roedd Paul Tillich yn ei alw yn 'my logical critic' ac fe wnaeth yr Athro Thomas waith mawr yn dehongli gwaith Tillich ynghanol yr ugeinfed ganrif," ychwanegodd yr Athro Morgan.

"O'dd e'n ddyn eithriadol o ddisglair a phan o'ch chi'n ei gwmni fe o'ch chi'n gweld hynawsedd y Cymro gwerinol a phan o'ch chi mewn seminar o'ch chi'n gweld pa mor dreiddgar oedd ei feirniadaeth a'i ddadansoddi."

Roedd ganddo hefyd ddiddordeb byw mewn gwleidyddiaeth ac yn un oedd yn gwrthwynebu syniadau'r asgell dde a'r asgell dde eithafol.

"Mi oedd America yn agos iawn at ei galon a'r tro diwethaf i mi ei weld roedd yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn America yn fater gofid iddo ond roedd ei ffydd yn golygu nad oedd yn orbryderus.

"Fe fyddai'n ei golli'n fawr," ychwanegodd yr Athro Morgan.

Teyrnged yr Athro Densil Morgan i'r Parchedig Athro John Heywood Thomas

Bwrw Golwg ar Radio Cymru

Pynciau cysylltiedig