Caerliwelydd yn penodi Mark Hughes yn rheolwr

Cafodd Hughes ei ddiswyddo fel rheolwr Bradford ym mis Hydref 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-ymosodwr Cymru a Manchester United, Mark Hughes wedi cael ei benodi yn brif hyfforddwr Caerliwelydd.
Mae'r clwb sydd ar waelod Adran Dau ar hyn o bryd.
Dyw Hughes, 61 - sydd wedi rheoli Blackburn Rovers, Manchester City, Stoke a Chymru ymhlith eraill - heb fod mewn swydd ers iddo gael ei ddiswyddo gan Bradford City ym mis Hydref 2023.
Ei gyfnod gyda Bradford yw'r unig dro iddo reoli clwb y tu allan i'r Uwch Gynghrair yn Lloegr.
Yn ei unig dymor llawn gyda'r clwb fe wnaethon nhw orffen yn chweched, cyn colli i Gaerliwelydd yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd Cymro arall, Glyn Hodges yn ymuno â Hughes yng Nghaerliwelydd fel hyfforddwr cynorthwyol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023