Cynlluniau adfer safle Ffos-y-Fran yn 'bradychu' pobl leol

- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw yn ymyl safle glo brig mwya'r Deyrnas Unedig yn dweud eu bod "wedi'u bradychu" gan gais newydd i adfer y safle.
Roedd y cwmni sy'n gyfrifol am safle Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful wedi cael caniatâd cynllunio yn 2011 i adfer 285 hectar o dir uwchben y safle unwaith yr oedd y gwaith o gloddio am lo yn dod i ben.
Ond mae cynlluniau Merthyr (South Wales) Ltd bellach wedi newid, ac mae ymgyrchwyr yn poeni y bydd y safle - wnaeth orfod cau yn 2023 - yn peri risg i'r cyhoedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda Chyngor Merthyr Tudful ac asiantaethau eraill i ddod o hyd i'r datrysiad gorau i bobl leol.
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
Os yw'r cynlluniau newydd yn cael eu derbyn, yna byddai hynny'n arwain at lethrau mwy serth o amgylch y prif fan cloddio a chau rhywfaint o dir i ffwrdd i atal anifeiliaid rhag crwydro yno.
Yn ôl Alyson a Chris Austin, sy'n byw ger y safle, byddai'r cynlluniau newydd yma yn "frad", ond nid yw'n syndod.
"Roedden ni'n gallu gweld hyn yn dod ers i ni fynd i'r ymchwiliad cyhoeddus yn 2004. Feddylion ni ar y pryd nad ydyn ni fyth am weld pethau yn mynd 'nôl i fel oedden nhw," meddai Alison.
"Ry'n ni wedi diodde'r holl sŵn a llwch, a nawr mae'r unig beth yr oedden ni am ei gael yn ôl am hyn i gyd wedi cael ei gymryd oddi wrthym."

Mae Chris ac Alyson Austin yn dweud eu bod nhw wedi rhagweld sefyllfa o'r fath ers tro
Fe gaeodd safle Ffos-y-Fran ym mis Tachwedd 2023 ar ôl i Gyngor Merthyr wrthod cais i ymestyn cyfnod y cloddio yno.
Fe gollodd 115 o bobl eu gwaith ar y safle wrth i'r cwmni roi stop ar y cloddio, dros flwyddyn ar ôl i'w caniatâd cynllunio ddod i ben.
Dywedodd Chris Austin eu bod nhw wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn y gorffennol yn galw arnyn nhw i newid y rheoliadau.
"Ry'n ni wedi bod yn ceisio rhoi pwysau ar yr awdurdod lleol ers blynyddoedd i gyflwyno rheolau llymach er mwyn osgoi sefyllfa fel hyn," meddai.
"Roedden ni'n gallu gweld hyn yn dod, a doedden ni methu a chael yr awdurdod lleol i weithredu."

Ers i'r gwaith cloddio ddod i ben mae pobl leol wedi bod yn codi pryderon am ddŵr yn cronni yn y pwll
Fel rhan o gynlluniau sydd dal heb gael eu hystyried gan bwyllgor cynllunio'r cyngor, byddai uchder un twmpath yng ngogledd y safle yn cael ei leihau, a bydd glaswellt yn cael ei blannu yno.
Bydd creigiau ar y safle yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer adar fyddai o bosib yn bridio yno, byddai glaswellt yn cael ei blannu ar waelod dau dwmpath arall a byddai coed yn cael eu plannu hefyd.
Yn ogystal, fe fydd llyn naturiol sydd wedi ffurfio ar waelod y prif safle cloddio yn cael ei gadw yn fas, a byddai coed a gwahanol blanhigion yn cael eu plannu ar lannau'r dŵr.
Y llynedd fe wnaeth trigolion fynegi pryder am faint y llyn, allai fod yn "beryglus" a "llygredig".
Mae cwmni Merthyr (South Wales) Ltd wedi dweud nad oedd digon o arian ar gael i adfer y safle yn unol â'r cynlluniau gwreiddiol.
'Ymgais i wneud cyn lleied â phosib'
Mae'r Rhwydwaith Gweithredu Glo wedi disgrifio'r cynlluniau fel "ymgais olaf i geisio gwneud cyn lleied â phosib", gan ddweud eu bod yn troi cefn ar yr addewidion a wnaed i drigolion Merthyr Tudful.
"Mae pobl Merthyr Tudful, yn naturiol, yn pryderu yn sgil y tirlithriad diweddar yng Nghwmtyleri ac effeithiau andwyol newid hinsawdd," meddai llefarydd ar ran y rhwydwaith.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio gyda Chyngor Merthyr Tudful ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio dod o hyd i'r datrysiad gorau i bobl leol."
Mae Cyngor Merthyr Tudful a'r datblygwyr Richards, Moorehead and Laing Ltd wedi cael cais am ymateb.