Beirniadu 'effaith dorcalonnus' saga Ffos-y-Fran

Glofa Ffos-y-Fran o'r awyr
Disgrifiad o’r llun,

Ffos-y-Fran oedd safle glo brig ola'r Deyrnas Unedig, gan gyflenwi 86% o holl gynnyrch glo'r wlad yn y misoedd cyn iddo gau yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Dylai'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "camreolaeth epig" o lofa Ffos-y-Fran ddim cael digwydd eto i unrhyw gymuned yng Nghymru, medd un o bwyllgorau'r Senedd.

Maen nhw'n dweud y bydd yna "graith barhaol" ar dref Merthyr Tydfil os na fydd y safle enfawr yn cael ei adfer yn llawn.

Mae'r adroddiad yn cynnwys beirniadaeth lem o'r datblygwr, ac yn dweud i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill fethu â gweithredu wedi rhybuddion blaenorol ynglŷn â dyfodol o safle.

Dywedodd cwmni cloddio Merthyr (South Wales) Ltd eu bod wedi cael "cyfarfod adeiladol" gyda rhanddeiliaid, ac na fyddan nhw'n gwneud sylw pellach "nes bod y cynllun adfer diwygiedig wedi’i gwblhau a’i gyflwyno i Gyngor Merthyr Tudful ei ystyried".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "ystyried canfyddiadau ac awgrymiadau'r adroddiad", tra bo Cyngor Merthyr Tudful yn dweud eu bod yn "nodi'r argymhellion".

Saga Ffos-y-Fran yw'r diweddara' ar restr hir o "addewidion yn cael eu torri" ynglŷn ag adfer safleoedd glo brig yng Nghymru, yn ôl pwyllgor newid hinsawdd, amgylchedd a seilwaith y Senedd.

"Clywed gan breswylwyr am yr effaith y mae’r safleoedd hyn wedi’i chael ar eu bywydau fu’r agwedd fwyaf torcalonnus ar ein hymchwiliad," meddai eu hadroddiad.

"Maent wedi cael effaith ddifrifol ar fywydau, iechyd, llesiant a chartrefi pobl dros flynyddoedd lawer, os nad degawdau."

Roedd Ffos-y-Fran, wnaeth gau fel glofa ym mis Tachwedd 2023, yn "symbol o fethiannau'r system," ychwanegodd aelodau'r pwyllgor.

Roedd y datblygwr wedi corddi ffrae - a her gyfreithiol gan ymgyrchwyr hefyd - ar ôl parhau i balu a gwerthu glo am dros flwyddyn ar ôl i'w ganiatâd cynllunio ddod i ben.

Mae'r cwmni nawr yn gweithio ar gynllun gwahanol - a llawer rhatach - o ran adfer y safle, ar ôl rhybuddio nad oes ganddo gyllid digonol i gwblhau’r gwaith fel y cytunwyd yn wreiddiol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alyson a Chris Austin bod ganddynt "bryderon enfawr am ddyfodol Ffos-y-Fran"

Mae Alyson a Chris Austin yn byw'n agos i'r lofa, sydd yr un maint ag oddeutu 400 cae pêl-droed, a buon nhw'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y pwyllgor.

"Mae gennym bryderon enfawr am ddyfodol Ffos-y-Fran," meddai'r ddau.

"Rydym yn teimlo bod ein hawdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau’r llywodraeth ar bob lefel wedi ein gadael yn agored i niwed.

"Dylai’r cwmni mwyngloddio gadw at ei addewid o adfer y safle’n llawn ac ni ddylai'r cyngor adael iddo ddianc a’n gadael gyda thir peryglus a diffaith."

Disgrifiad o’r llun,

Ers i'r gwaith cloddio ddod i ben mae trigolion lleol wedi bod yn codi pryderon am ddŵr yn cronni yn y pwll

Gallai glanhau'r safle yn llwyr gostio hyd at £120m, ar sail gwthio tri o domenni gwastraff mawr yn ôl i'r pwll agored, gan droi'r ardal yn ôl i gaeau gwyrdd ar gyfer y gymuned.

Ond clywodd y pwyllgor mai'r opsiwn sydd bellach dan ystyriaeth - fel ohebwyd yn gyntaf gan BBC Cymru - yw gadael ardal o ddŵr o fewn y gwagle mawr.

Mae trigolion lleol wedi disgrifio'r syniad fel llyn allai fod yn "beryglus" a "llygredig".

Mae'r cwmni am ddefnyddio £15m sydd mewn cyfrif banc yng ngofal y cyngor lleol, a gafodd ei sefydlu i sicrhau bod peth o arian y cwmni'n cael ei warchod ar gyfer y gwaith adfer.

"Fel cynifer o rai eraill, [mae'r cwmni] wedi cymryd elw o’r safle ac mae'r arian a gafodd ei addo ar gyfer gwaith adfer ar goll," meddai'r pwyllgor.

Clywodd eu hymchwiliad i'r cwmni dalu bron i £50m mewn difidendau a breindaliadau o’r busnes ers 2017.

Mae'r adroddiad yn dweud bod gan yr awdurdod lleol bellach "fawr o ddewis heblaw derbyn yr hyn y mae gweithredwr y safle yn barod i’w gynnig".

Ychwanegodd bod y "canlyniad annerbyniol" hyn yn dilyn patrwm a welwyd mewn safleoedd glo brig eraill, lle roedd cynghorau'n cael eu dal "mewn sefyllfa anodd", gan wynebu baich ariannol enfawr os yw'r cwmnïau maes o law yn penderfynu "cerdded i ffwrdd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd AS mai dyma'r achos diweddaraf o "gamreolaeth epig" o safle glo brig yng Nghymru

Er hynny, mae'r feirniadaeth yn ymestyn at Gyngor Merthyr Tydfil, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill fu ynghlwm â goruchwylio gwaith y lofa dros ddau ddegawd.

Roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014 wedi nodi "rhybuddion sylweddol a chlir" ynglŷn â phroblemau posib yn Ffos-y-Fran "oherwydd sicrwydd bond annigonol".

Roedd canllawiau ymarfer da gan yr Awdurdod Glo yn 2016 hefyd wedi argymell y dylid ailasesu’r sefyllfa o ran cyllido adfer safleoedd glo brig yn flynyddol.

"Mae rhaid i ni amau a yw’r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru wedi cymryd pob cam angenrheidiol i geisio canlyniad gwell i’r gymuned leol," meddai'r pwyllgor.

Maen nhw'n galw am gamau gweithredu llymach pan fod rheolau cynllunio yn cael eu torri, a mwy o lais i bobl leol mewn penderfyniadau yn ymwneud â glofeydd - gan gynnwys elfen o berchnogaeth gan y gymuned mewn unrhyw brosiectau yn y dyfodol.

Trigolion 'wedi’u methu’n llwyr'

Tra'i bod hi'n annhebygol y gwelwn ni lofeydd brig newydd yn cael eu caniatáu yng Nghymru yn y dyfodol oherwydd cyfreithiau newid hinsawdd, rhybuddiodd y pwyllgor y gallai'r ymdrech i adfer hen domenni glo arwain at broblemau tebyg, yn enwedig lle mae cwmnïau yn disgwyl gwerthu glo er mwyn ariannu'r gwaith o sicrhau bod y tomenni'n ddiogel.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Llyr Gruffydd AS bod trigolion sy'n byw wrth ymyl safleoedd glo brig yn teimlo "eu bod wedi’u methu’n llwyr gan yr awdurdodau cyhoeddus sydd i fod i’w hamddiffyn".

Yn achos Ffos-y-Fran, roedd "amser yn prysur ddod i ben i sicrhau’r hyn a addawyd i’r gymuned leol".

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac awdurdodau lleol eraill, i ddysgu’r gwersi o’r adroddiad hwn, fel na fydd y camgymeriadau hyn byth yn cael eu hailadrodd" meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y lofa wrthi'n trafod addasu'r cynllun ar gyfer adfer y safle

Dywedodd Merthyr (South Wales) Ltd iddo ddod i gytundeb ffurfiol gyda'r cyngor lleol "i gychwyn ar raglen adfer dros dro" ar y safle.

Gallai hyn weld 54 hectar (133 erw) o dir, i'r gorllewin o'r gwagle mawr yn cael ei adfer.

Yn ymateb i'r adroddiad dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae MSW yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac fe gynhaliwyd cyfarfod adeiladol ar 31 Gorffennaf yn cynnwys yr holl randdeiliaid.

"Bu ymgynghorwyr a benodwyd gan MSW yn briffio'r cyfarfod ar y cynnydd hyd yma gyda'r cynllun adfer diwygiedig, ac mae cyfarfod pellach wedi'i gynllunio ar gyfer diwedd mis Medi i ddiweddaru'r rhanddeiliaid ar gynnydd y cynllun.

"Fel y rhagwelwyd, mae lefel y dŵr yn y pwll glo wedi parhau i ostwng drwy gydol misoedd yr haf, gyda lefel y dŵr presennol tua phedwar metr yn is na’r lefelau a fonitrwyd yn ystod misoedd gwlyb y gaeaf.

"Ni fydd unrhyw sylw pellach nes bod y cynllun adfer diwygiedig wedi’i gwblhau a’i gyflwyno i Gyngor Merthyr Tudful ei ystyried.”

'Ymateb maes o law'

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful mewn datganiad fod y pwyllgor "yn canmol y cyngor am ymateb yn gadarnhaol ac yn adeiladol i'r ymchwiliad a nodir yr argymhellion".

"Mae'r argymhellion hyn yn adlewyrchu gofynion deddfwriaeth cynllunio sy'n cael eu gweithredu fel rhan o'r drefn o benderfynu ar geisiadau cynllunio."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n "ystyried canfyddiadau ac awgrymiadau'r adroddiad ac ymateb maes o law".