Cannoedd mewn gorymdaith i alw am ysgol arbennig newydd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na amcangyfrif bod tua 300 o bobl wedi gorymdeithio trwy ganol Llanelli ddydd Sadwrn wrth i'w hymgyrch barhau dros ysgol newydd i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r ymgyrchwyr yn honni bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi torri addewid a wnaed saith mlynedd yn ôl i ariannu adeilad newydd i ddisgyblion Heol Goffa.
Dywedodd un rhiant oedd yn yr orymdaith nad yw'r adeilad presennol yn addas bellach.
Dywedodd Hannah Coles: "Mae fy mab sydd mewn wheelchair, so fe'n gallu mynd mewn rhai places yn yr ysgol."
Yn ôl y cyngor, maen nhw wedi comisiynu adolygiad annibynnol o ddarpariaeth addysg arbennig yn ardal Llanelli, ac fe fyddan nhw'n gwrando ar ddysgwyr, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ystod yr adolygiad hwnnw
Mae Ysgol Heol Goffa yn darparu addysg i blant rhwng tair a 19 oed, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae anghenion y plant yn amrywio o rai canolig i anghenion dwys iawn. Mae 124 o blant yn yr ysgol ar hyn o bryd.
Brynhawn Sadwrn fe wnaeth ymgyrchwyr ymgynnull tu allan i Ysgol Heol Goffa cyn gorymdeithio i Theatr y Ffwrnes yng nghanol y dref ar gyfer rali i hyrwyddo'r ymgyrch.
Yn ôl ymgyrchwyr, mae cyfanswm o dros 9,000 o bobl wedi arwyddo deisebau papur ac ar-lein yn galw ar yr awdurdod i gadw at yr addewid gwreiddiol.
Yn ôl Cyngor Sir Caerfyrddin, maen nhw eisoes yn gwario £500,000 i "wella'r cyfleusterau presennol" yn Ysgol Heol Goffa.
Un oedd yn yr orymdaith oedd Owen Jenkins, Cadeirydd Llywodraethwyr Heol Goffa.
Dywedodd: "Mae e just yn dangos cyflwr truenus yr adeilad yn y lle cyntaf ond hefyd dy’n ni wedi gweld ysgolion yn cael eu penderfynu arnyn nhw, eu cynllunio a’u hadeiladu ers 2017, felly mae arian yna yn rhywle."
Roedd rhieni plant sy'n ddisgyblion yn yr ysgol hefyd yn yr orymdaith.
Dywedodd un rhiant, Hannah Coles: "Fi yma i ddweud, doedd yr ysgol ddim yn purpose built. Mae fy mab sydd mewn wheelchair, so fe'n gallu mynd mewn rhai places yn yr ysgol."
Mae mab Alex Dakin, Jac yn ddisgybl yn Heol Goffa ac mae'n dweud bod "eisiau ysgol newydd a dyw'r cyngor ddim yn 'neud digon i helpu".
Mae hon wedi troi yn ffrae wleidyddol, gyda rhai yn feirniadol o weinyddiaeth Plaid Cymru, sydd yn rhedeg y Cyngor.
Yn ystod yr orymdaith dywedodd Nia Griffith AS Llanelli: "Dy’n nhw [y Cyngor] ddim yn gallu dweud bod bai ar unrhyw un arall.
"Mae’r dewis gyda nhw a os maen nhw moyn bod mewn pwer, mae’n rhaid iddyn nhw gymryd y cyfrifoldeb a sicrhau bo nhw’n ymateb i anghenion y bobl yma yn Llanelli.
"Fel ‘dan ni gyd yn gwybod, mae cymaint o dewisiadau chi’n gallu gwneud yng nghyllideb y Cyngor. Dylen nhw ail feddwl y peth yma i sicrhau bod ysgol Heol Goffa yn cael ysgol newydd."
Adolygiad ar waith
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin bod cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg wedi ei ddewis i arwain yr adolygiad sydd bellach ar waith.
Bydd David Davies yn trafod gyda dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill, ac fe fydd yr "holl gynigion a gaiff eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol".
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am addysg, fod "darparu'r addysg orau posib i'n dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol yn hollbwysig i ni fel cyngor ac i gorff llywodraethu Ysgol Heol Goffa".
"Mae ein hymroddiad i fuddsoddi i wella'r ddarpariaeth ADY yn Llanelli cyn gryfed ag erioed, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chorff llywodraethu Ysgol Heol Goffa er mwyn darparu addysg o'r radd flaenaf i'n dysgwyr,” meddai.
Yn ôl Becki Davies, sy'n rhiant yn yr ysgol ac yn ysgrifennydd grŵp gweithredu Ysgol Heol Goffa: "Gadewch i ni ddangos i Lanelli, ac yn bwysicach i Gyngor Sir Caerfyrddin, ein bod ni'n dwli ar yr ysgol a beth yw pŵer y gymuned.
"Ochr yn ochr, gyda'n gilydd, fe allwn ni wneud gwahaniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd22 Mai 2024