Crwner yn galw am help i adnabod corff mewn cronfa ddŵr

Cronfa Ddŵr ClaerwenFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi galw am help i adnabod corff person gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys.

Clywodd cwest ym Mhontypridd y cafodd swyddogion eu galw i Gronfa Ddŵr Claerwen ar 18 Hydref.

Roedd y corff mewn siwt wlyb, ond methon nhw â chanfod unrhyw eiddo na cherbyd i awgrymu sut y cyrhaeddodd y dyn y gronfa.

Clywodd y llys fod Heddlu Dyfed-Powys yn parhau hefo'r ymchwiliad, ac eisiau gwybodaeth gan y cyhoedd er mwyn medru adnabod y corff.

Nid yw swyddogion yn trin y farwolaeth fel un "amheus" ar hyn o bryd, clywodd y crwner.

'Dim teulu agos'

Ni wnaeth archwiliad post mortem gan Dr Stephen Leadbeatter yn Ysbyty Brenhinol Amwythig ganfod achos marwolaeth.

Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Rachel Knight ei fod yn "angenrheidiol" agor cwest i farwolaeth y dyn.

Aeth ymlaen i ddweud nad oes "gennym ni unrhyw deulu na pherthynas agos ar hyn o bryd".

"Rydym eisiau adnabod y gwryw, ac os oes gan unrhyw un wybodaeth, cysylltwch gyda ni."

Cafodd y cwest ei ohirio.

Pynciau cysylltiedig