Teyrnged i drydydd person fu farw wedi gwrthdrawiad

Ralph JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ralph James, 67, o Benarth yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4050

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ddyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri ar 2 Tachwedd.

Bu farw Ralph James, 67, o Benarth yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4050.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr James bod ganddo "amser i bawb".

Bu farw ei fodryb, a'i gyfnither yn y fan a'r lle yn yr un gwrthdrawiad.

Mewn datganiad, ychwanegodd teulu Ralph James: "Roedd ei holl deulu a'r gymuned ehangach yn ei garu. Roedd ganddo amser i bawb.

"Bu'n byw ar hyd ei oes yn ardal Penarth a bu'n gweithio yn nociau Caerdydd ers iddo fod yn 18 oed.

"Roedd wrth ei fodd yn treulio amser ar wyliau yn ardal Dyfnaint a Chernyw a threulio amser gyda'i deulu.

"Mae colli cymaint o aelodau ar un adeg yn dorcalonnus.

"Bydd Ralph yn byw am byth yn ein calonnau a fydd e ddim yn cael ei anghofio."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig